Adfer Coetir Neuadd Goytre

Rhannu Adfer Coetir Neuadd Goytre ar Facebook Rhannu Adfer Coetir Neuadd Goytre Ar Twitter Rhannu Adfer Coetir Neuadd Goytre Ar LinkedIn E-bost Adfer Coetir Neuadd Goytre dolen

Rydym eisiau cael eich sylwadau ar Brosiect Grant Buddsoddi Coetir (TWIG) Coetir Neuadd Goytre.

Mae Coetir Neuadd Goytre yn goetir hynafol 3.5 hectar wedi ei adfer ger Penperllenni, rhwng Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu a’r A4042. Yn eiddo ac yn cael ei rheoli gan Gyngor Sir Fynwy, mae’n gynefin goetir bwysig yn cysylltu gyda safleoedd coetir eraill ac yn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys adar coetir, ystlumod a phlanhigion coetir hynafol.

Mae’r safle hefyd yn goetir gymunedol boblogaidd, a gaiff ei gwerthfawrogi am hamdden, addysg a llesiant.

Nod prosiect Grant Buddsoddi Coetir (TWIG) yw adfer a gwella’r goetir ar gyfer natur a phobl. Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â materion tebyg i glefyd coed ynn, rhywogaethau goresgynnol a diffyg amrywiaeth coetir drwy reoli cynefin, creu llennyrch, plannu coed ac adfer nant.

Bydd hefyd yn gwella mynediad gyda llwybrau gwell, seddi, dehongli a pharcio i’r anabl, ac yn creu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddiant sgiliau gwyrdd, gweithgareddau ysgol ac ymgyfraniad y gymuned.

Y nod hirdymor yw creu coetir fwy gwydn, hygyrch a bioamrywiol sy’n cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru a gefnogir gan y gymuned leol.

Manteision allweddol y prosiect

  • Coetir iachach – gwella cyflwr y goetir drwy adfer cynefinoedd a rheoli gofalus.
  • Mwy o le i fywyd gwyllt – creu cynefinoedd gwell ar gyfer planhigion coetir, adar, ystlumod a rhywogaethau eraill, gan gryfhau cysylltiad gyda’r coetiroedd o amgylch.
  • Gwella mynediad a chyfleusterau – gwneud y goetir yn fwy croesawgar a hygyrch gyda gwelliannau i lwybrau, seddi, dehongli a gwell cyfleusterau i ymwelwyr.
  • Llwybr cerfluniau wedi ei ysbrydoli gan y goetir – creu nodweddion newydd sy’n dathlu’r goetir ac yn annog pobl i ymchwilio a mwynhau’r safle.
  • Cyfleoedd dysgu, gwirfoddoli a llesiant – darparu hyfforddiant, gweithgareddau awyr agored a chyfleoedd i bobl leol gymryd rhan wrth ofalu am y goetir.
  • Gwaddol barhaus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – sicrhau fod Coetir Neuadd Goytre yn parhau i fod yn lle gwerthfawr ar gyfer natur, hamdden a llesiant y gymuned.

Diweddaru: 24 Awst 2026, 10:31 AC