Arolwg Preswylwyr 2025
To view the page in English, click here
Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal arolwg i gasglu adborth gan breswylwyr am fywyd phob dydd yn y sir.
Rydym am glywed eich barn ynglŷn â byw yn Sir Fynwy, eich profiadau yn eich ardal leol, eich barn am wasanaethau’r cyngor, a’r ffordd yr ydych yn cymryd rhan yn eich cymunedol leol.
Mae’r arolwg yn holi cwestiynau am ansawdd yr amgylchedd lleol yn ogystal â bodlonrwydd â gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, ailgylchu, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.
Wrth gael i’w cynnal gan Ddata Cymru, mae’n rhan o’u Harolwg Preswylwyr Cenedlaethol, amcan yr arolwg yw cefnogi cynghorau lleol i gynyddu eu dealltwriaeth o berfformiad ac amgyffrediad.
Dyma’r ail flwyddyn i’r cyngor gynnal yr arolwg, a gallwch weld crynodeb o arolwg 2024 yma: www.monmouthshire.gov.uk/cy/arolwg-preswylwyr-sir-fynwy/
Cwblhewch yr arolwg trwy’r linc isod. Gallwch hefyd lawrlwytho copi papur neu codwch gopi papur yn eich Hwb Cymunedol neu Ganolfan Hamdden leol. Gallwch dychwelid copïau papur i’r lleoliadau yma.
Rhannwch eich barn, a gadewch i ni Sgwrsio am Sir Fynwy
Cwblhewch yr arolwg yma trwy glicio yma
Dyddiad cau: 31 Hydref 2025
Diogelu Data a Chyfrinachedd
Rydym yn cydymffurfio gyda’r holl ddeddfwriaeth yn ymwneud â diogelu gwybodaeth bersonol, yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y Deyrnas Unedig. Bydd gwybodaeth bersonol a roddwch i Gyngor Sir Fynwy yn aros yn gwbl gyfrinachol a bydd ond yn cael ei rhannu gyda Data Cymru at ddibenion yr arolwg hwn. I gael mwy o wybodaeth am breifatrwydd ewch i:
Polisi preifatrwydd | Sgwrsio Am Sir Fynwy
Polisi preifatrwydd - Data Cymru