Gwella Brynbuga - Eich Canol Tref, Eich Llais

Rhannu Gwella Brynbuga - Eich Canol Tref, Eich Llais ar Facebook Rhannu Gwella Brynbuga - Eich Canol Tref, Eich Llais Ar Twitter Rhannu Gwella Brynbuga - Eich Canol Tref, Eich Llais Ar LinkedIn E-bost Gwella Brynbuga - Eich Canol Tref, Eich Llais dolen

To read this page in English, click here.

Mae'r arolwg isod ar agor rhwng dydd Gwener 15 Mai a hanner nos ddydd Sul 7 Mehefin 2026.

Mae Cyngor Tref Brynbuga a Chyngor Sir Fynwy yn cydweithio i wella’r tir cyhoeddus ym Mrynbuga. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar y Bont a Sgwâr Twyn. Mae yna gerbydau helaeth ar Stryd y Bont a Sgwâr Twyn, ac mae pobl sy’n defnyddio’r mannau hyn i siopa, bwyta allan neu gymdeithasu yn cael eu gwthio i’r ymylon. Ein nod yw gwneud y lleoedd hyn yn fwy diogel ac yn fwy cyfeillgar i bobl, wrth barhau i ddarparu ar gyfer llif y traffig.

Gallai hyn ddod â llu o fanteision i'r dref, gan fywiogi canol y dref, a chynyddu nifer yr ymwelwyr fyddai’n ymweld â busnesau lleol. Byddai hefyd yn cynnig cyfleoedd i gynnal ystod ehangach o weithgareddau a digwyddiadau.

Cynlluniau a dogfennau’r cynnig
Ar-lein: I weld y cynigion hyn, mae fersiwn y gellir ei
lawr lwytho yn ein hadran teclynnau ar y dudalen hon.

Wyneb yn Wyneb: gallwch gwrdd â swyddogion y Cyngor a'r tîm dylunio, ddydd Gwener 15fed a dydd Sadwrn 16eg o Fai yn: The Grange - 16 Stryd Maryport, Brynbuga NP15 1AE.

Gellir hefyd gweld rhai o'r paneli arddangos y tu allan i siop fwyd y Co-op.
Mae copïau papur o'r arolwg ar gael gan Gyngor Tref Brynbuga yn Nhŷ'r Sesiynau neu yn yr Hwb Cymunedol, y ddau ar Stryd Maryport ym Mrynbuga.

Beth sy'n digwydd ar ôl yr ymgynghoriad?

Ar ôl yr ymgynghoriad, byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar sail yr adborth a gawsom, a byddwn yn diweddaru'r cynlluniau drafft i adlewyrchu'r sylwadau a wnaed. Os hoffech gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol, gadewch eich manylion cyswllt i ni ar ddiwedd yr arolwg isod

  • CLOSED: This survey has concluded.
    Rhannu Arolwg Gwella Brynbuga ar Facebook Rhannu Arolwg Gwella Brynbuga Ar Twitter Rhannu Arolwg Gwella Brynbuga Ar LinkedIn E-bost Arolwg Gwella Brynbuga dolen
Diweddaru: 10 Meh 2026, 12:39 PM