Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Sgwrsio am diogelwch ffyrdd Gwndy ar FacebookRhannu Sgwrsio am diogelwch ffyrdd Gwndy Ar TwitterRhannu Sgwrsio am diogelwch ffyrdd Gwndy Ar LinkedInE-bost Sgwrsio am diogelwch ffyrdd Gwndy dolen
Crynodeb o'r cynllun
Bydd cynllun Diogelwch ar y Ffyrdd Gwndy yn mynd rhagddo ar ddechrau 2027. Mae'r cynllun yn cynnwys gwella’r briffordd i gefnogi diogelwch ar y ffyrdd a gwella llwybrau cerdded, olwynio a beicio yng Ngwndy o gwmpas ardal y B4245, o Heol yr Eglwys i ochr ddwyreiniol Magwyr gyda Gwndy.
Mae'r gwaith hwn yn cynnwys:
Gosod croesfan Twcan (sy’n cael ei rheoli drwy wthio botwm) wrth y fynedfa i gerddwyr i ardal dai Rhodfa Pankhurst/Fferm Rockfield.
Trosi'r droedffordd ar ochr ogleddol y B4245 i lwybr a rennir rhwng Rhodfa Pankhurst a The Elms
Culhau lleiniau’r gyffordd ac uwchraddio mannau croesi i gerddwyr ar Gelli Maes y Graig a Heol yr Eglwys
Newid cilfannau bysiau i arosfannau â llinellau
Ail-leoli a diweddaru cysgodfannau bysiau, ychwanegu byrddau gwybodaeth ‘amser real’
Ailosod wyneb newydd ar y briffordd
Mae'r dyluniad yn adeiladu ar gynllun hirdymor cynllun teithio llesol Gwndy i Rogiet, sef dyluniad y Trefniant Cyffredinol a gafodd gefnogaeth aruthrol y cyhoedd pan oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024. Er ei fod yn flaenoriaeth strategol i ni barhau i weithio ar lwybr Gwndy i Rogiet, mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) wedi llwyddo i sicrhau cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gan Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer gwelliannau i ardal fwyaf gorllewinol ‘Gwndy’. Mae hyn oherwydd y problemau a gydnabyddir o ran diogelwch cerddwyr a chyflymder cerbydau ar groesfannau ac arosfannau bysiau yn yr ardal adeiledig ar hyd y B4245. Mae'n rhaid i fyfyrwyr Ysgol Cil-y-coed groesi'r ffordd i'r safleoedd bysiau er mwyn teithio i’r ysgol ac yn ôl, ac mae cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn canolbwyntio ar wella llwybrau o fewn ardaloedd trefol a llwybrau i'r ysgol.
Mae'r dyluniad hwn yn cyd-fynd â Cham 1 cynllun Teithio Llesol Cyffordd Twnnel Hafren (Gwndy-Rogiet) fel rhan drefol y llwybr arfaethedig a rennir ac mae’n ymateb i ddigwyddiad yn gynharach yn 2025 lle cafodd plentyn ysgol ei daro gan gerbyd wrth groesi'r B4245 ar ôl dod oddi ar y bws ysgol yng Ngwndy. Yr ysgol uwchradd agosaf i fyfyrwyr o Wndy yw Cil-y-coed, a dyna pam mae’r llwybrau diogel mor berthnasol i’r safleoedd bysiau. Mae'r B4245 yng Ngwndy yn ffordd lydan sy’n cynnwys safleoedd bysiau sydd wedi eu mewnosod, felly’n creu amgylchedd nad yw’n ffafriol i deithio llesol na gallu gyrwyr i weld cerddwyr.
Mae'r cynllun hwn yn ymwneud â'r rhan o'r B4245 sydd wedi ei liwio’n wyrdd.
Rhannwch eich barn
Rydym am ddeall beth sy’n bwysicaf i’r bobl sy’n byw, gweithio, teithio neu astudio yn yr ardal.
Cymerwch ychydig funudau i adolygu’r cynigion a dweud wrthym beth rydych chi’n ei feddwl. Bydd eich adborth yn helpu i lunio’r dyluniad terfynol cyn i’r gwaith ddechrau.

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) am glywed eich barn am y groesfan arfaethedig a'r gwelliannau i’r briffordd i gefnogi llwybrau cerdded, olwynio a beicio yng Ngwndy ar y B4245, o Heol yr Eglwys i ochr ddwyreiniol y pentref.
Disgrifiad o'r cynllun
Gweler y diagramau a darllenwch y disgrifiad o'r cynllun arfaethedig yma: link to intro page
Gosod croesfan Twcan (sy’n cael ei rheoli drwy wthio botwm) wrth y fynedfa i gerddwyr i ardal dai Rhodfa Pankhurst/Rockfield Farm.
Trosi'r droedffordd ar ochr ogleddol y B4245 i greu llwybr a rennir rhwng Rhodfa Pankhurst a The Elms
Culhau lleiniau’r gyffordd ac uwchraddio mannau croesi i gerddwyr ar Rockfield Grove a Heol yr Eglwys
Newid cilfannau safleoedd bysiau a chreu arosfannau â llinellau
Mae'r arolwg hwn yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol am y ffordd rydych chi'n teithio fel arfer yn ardal yr astudiaeth cyn gofyn am eich profiadau wrth deithio yn ardal Gwndy ar y B4245.
Mae eich barn ar y cynigion yn bwysig i ni a byddem yn croesawu eich mewnbwn yn yr arolwg hwn. A fyddech cystal ag annog eraill i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, er mwyn i ni sicrhau ein bod yn ymgynghori ag ystod mor eang â phosibl o bobl.