Gwella Cil-y-coed – Cynllun Creu Lleoedd
*i ddod o hyd i fersiwn Saesneg y dudalen hon cliciwch yma*
AROLWG YN FYW O DDYDD MAWRTH 2 MEHEFIN
Mae Cyngor Tref Cil-y-coed a Chyngor Sir Fynwy yn cydweithio i lunio cynllun creu lle ar gyfer canol tref Cil-y-coed.
Bydd gwella Cil-y-coed yn gyd-weledigaeth ar gyfer canol tref ffyniannus a llwyddiannus.
Bydd y cynllun arfaethedig yn ystyried y prif heriau a chyfleoedd ar gyfer Cil-y-coed ac yn nodi prosiectau sy’n flaenoriaeth. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu i gyfeirio a blaenoriaethu buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a phreifat a fydd yn cefnogi newid cadarnhaol.
O'r cam cynharaf hwn rydyn ni eisiau clywed eich barn chi am Gil-y-coed: beth sy'n gweithio'n dda, beth gellid ei wella a pha brosiectau neu newidiadau fyddai'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ganol y dref.
Yn rhan o'r broses hon, rydyn ni’n ymgysylltu â'r gymuned mewn dau gam:
- Mae Cam 1 (o ddydd Mawrth 2 Mehefin tan ddydd Mawrth 23 Mehefin, 2026) yn canolbwyntio ar ddeall sut mae canol y dref yn gweithio a beth yw blaenoriaethau’r gymuned y mae'n ei gwasanaethu.
- Bydd Cam 2 (Medi - Hydref 2026) yn golygu profi sut y gall y prosiectau arfaethedig gefnogi'r gyd-weledigaeth.
Cyfle i ddweud eich dweud
Ymgynghoriad Cam 1 yn fyw o ddydd Mawrth 2 Mehefin.
O'r dyddiad hwn byddwch yn gallu mynd at yr arolwg, sy'n cynnwys map rhyngweithiol, ar y dudalen hon a dechrau rhannu eich barn.
Sesiwn alw-heibio ddydd Mawrth 2 Mehefin, 10am - 6pm.
Ymunwch â ni y tu allan i 25 Heol Casnewydd, Cil-y-coed i holi cwestiynau, rhannu eich barn a rhoi gwybod i ni beth sydd bwysicaf i chi.
Os nad ydych chi neu unrhyw un rydych chi'n ei ‘nabod yn gallu rhannu eich adborth ar-lein, gallwch godi copïau papur o'r holiadur o swyddfeydd Cyngor y Dref neu Hwb Cymunedol Cil-y-coed trwy gydol cyfnod yr ymgynghoriad.
Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mawrth 23 Mehefin, 2026.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd yr adborth o'r arolwg hwn a'r map rhyngweithiol, yn ogystal â'r digwyddiad cyhoeddus wyneb yn wyneb, yn arwain camau nesaf y prosiect. Edrychwn ymlaen at ddod yn ôl atoch ym mis Medi - Hydref i barhau â'r sgwrs hon. Cliciwch ar 'Dilyn y Prosiect' ar y dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Caldicot Town Council