Gwella Y Fenni
To view this page in English please click here
Mae Cyngor Sir Fynwy, mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Fenni, yn gofyn am eich sylwadau ar Gynllun Creu Lle* y Fenni.
Bydd y cynllun creu lle a gynigir ar gyfer y Fenni yn:
- Dynodi a dadansoddi’r heriau a chyfleoedd yng nghanol tref y Fenni.
- Creu gweledigaeth hirdymor ar gyfer canol y dref ar y cyd gyda rhanddeiliaid lleol.
- Darparu cynllun gweithredu gyda blaenoriaethau i roi’r weledigaeth ar waith, mynd i’r afael â heriau a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd.
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym eisiau clywed gennych chi fel preswylydd, busnes lleol, mudiad gwirfoddol neu rywun sydd â diddordeb yn nyfodol canol tref y Fenni.
Galwch heibio un o’n sesiynau ymgynghori wyneb-i-wyneb os gwelwch yn dda:
Ble: 7 Mill Street, cyn Stôr Timothy Oulton, Y Fenni, NP7 5HE (oddi ar Lower Cross Street)
Pryd: Dydd Gwener 4 Ebrill, rhwng 10am a 7pm
Dydd Sadwrn 5 Ebrill, rhwng 10am a 4pm.
Galwch heibio i weld y cynlluniau a holi swyddogion.
Caiff cynlluniau hefyd ei dangos yng nghyn stôr Timothy Oulton o ddydd Gwener 4 Ebrill hyd ddydd Sul 27 Ebrill. Bydd arolygon papur ar gael i’w lawrlwytho neu eu casglu o Ganolfan Croeso y Fenni neu swyddfa Cyngor y Dref, sydd ill dwy yn adeilad Neuadd y Farchnad.
Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Gyngor Sir Fynwy, Cyngor Tref y Fenni a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
*Mae creu lle yn ddull cynhwysfawr o gynllunio a datblygu, sydd â’i ffocws ar greu gofodau bywiog, cynaliadwy a chynhwysol. Mae’n sicrhau fod unrhyw newidiadau neu fuddsoddiadau a wneir yng nghanol y dref yn ateb yr anghenion ar unwaith ac yn cyfrannu at lesiant hirdymor y gymuned.
I ganfod mwy am y cynllun creu lle a sut y gallwch gymryd rhan, anfonwch e-bost at MCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk(dolen allanol).