Ymgynghoriad Meysydd Chwarae Cas-gwent

Rhannu Ymgynghoriad Meysydd Chwarae Cas-gwent ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Meysydd Chwarae Cas-gwent Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Meysydd Chwarae Cas-gwent Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Meysydd Chwarae Cas-gwent dolen

This page is available in English, click here

Gadewch i ni sgwrsio am feysydd chwarae yn ardal Cas-gwent

Nid hwyl yn unig yw chwarae; mae'n hanfodol ar gyfer datblygiad a thwf ein plant. Mae'n meithrin hyder, yn adeiladu gwydnwch, ac yn hybu hunan-barch, a hynny i gyd wrth feithrin perthnasoedd agosach o fewn teuluoedd a chymunedau.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn cyfran o'r £5 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu ar gyfer gwella meysydd chwarae a chyfleusterau chwarae.

Yn dilyn adolygiad o ddata lleol a meini prawf ariannu, mae dau barc yng Nghas-gwent wedi'u nodi i'w gwella.

Dyma barciau Western Avenue a Bulwark.

Nawr hoffem glywed eich barn ar yr uwchraddiadau. Bydd eich barn yn ein helpu i ddeall anghenion a dewisiadau'r cymunedau lleol.

Er bod y cyllid wedi ei gyfyngu, ein nod yw manteisio i'r eithaf ar y cyllid a darparu mannau chwarae sy'n diwallu anghenion amrywiol y plant.

Sesiwn galw heibio

Ymunwch gyda ni yng Nghlwb Rygbi Cas-gwent rhwng 10:30am a 12:30pm ar ddydd Iau 21 Awst i sgwrsio gyda swyddogion am ddatblygiadau parciau Western Avenue a Bulwark.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhedeg o ddydd Llun 28 Gorffennaf 2025 – dydd Gwener 19 Medi 2025 (Hanner Nos)

Diweddaru: 28 Jul 2025, 02:30 PM