Sgwrsio am yr hyn sy'n bwysig
Baratoi am y gaeaf yn Sir Fynwy
Y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: "Flwyddyn ar ôl y llifogydd dinistriol a ddaeth yn sgil Storm Claudia, bydd llawer o drigolion yn dal i gofio'r cyflymder brawychus y cododd dŵr ein hafonydd, y difrod a achosodd hynny a'r tarfu ar gymunedau yn Nhrefynwy, y Fenni ac Ynysgynwraidd.
"Gyda newid hinsawdd yn dod â heriau digynsail, yn anffodus, ni all unrhyw waith paratoi atal llifogydd ar y raddfa a welwyd yn Nhrefynwy fis Tachwedd diwethaf yn llwyr. Fodd bynnag, yr hyn y gallwn ni ei wneud, a'r hyn rydyn ni wedi ymrwymo i'w wneud, yw gweithio'n rhagweithiol trwy gydol y flwyddyn i leihau risg, gwella gwydnwch a sicrhau ein bod mor barod â phosibl pan fydd tywydd garw yn taro.
"Dydy’r gwaith hwnnw byth yn stopio.
"Ar draws Sir Fynwy, mae ein timau'n cyflawni rhaglen helaeth o waith cynnal a chadw ar y draenio, y gylïau a’r cwlferi i helpu i gadw dŵr i lifo a lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd lleol. Mae hyn yn cynnwys clirio ac adfer ffosydd a sianeli draenio wrth ymyl y ffyrdd mewn cymunedau fel Ynysgynwraidd, Llanwenarth a Phenallt, gwelliannau i’r draenio ar Heol yr Eglwys, Maesygwartha, a chynnal a chadw parhaus mewn dros 30 o leoliadau ar draws y sir yr ydyn ni’n gwybod eu bod yn agored i lifogydd.
"Mae llawer o'r gwaith hwn yn waith nad yw pobl yn ei weld. Anaml y bydd cwlfer wedi'i glirio, ffos wedi’i chynnal neu ddraen sy'n gweithio yn tynnu sylw pan fydd popeth yn gweithio fel y mae i fod. Ond mae'r ymyriadau arferol hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn cartrefi, busnesau, ffyrdd a chymunedau.
"Eleni, mae buddsoddiad ychwanegol yn y gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth amlwg yn barod. Rydyn ni wedi adnabod llwybrau allweddol sy'n arbennig o agored i niwed yn ystod yr hydref pan fydd y dail yn disgyn, ac rydyn ni’n defnyddio adnoddau ychwanegol lle byddant yn cael yr effaith fwyaf.
"Mae’r gwaith paratoi yn golygu mwy na’r seilwaith. Yn gynharach yr hydref hwn, fe fu dros 100 o gydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor mewn sesiwn i baratoi at y tywydd garw, gan helpu i gryfhau ein hymateb i dywydd garw y gaeaf hwn. Rydyn ni hefyd yn adolygu sut y gallwn wella ein trefniadau gwydnwch y tu allan i oriau arferol, gan sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol pan fydd angen cefnogaeth ar gymunedau.
"Mae Sir Fynwy ar ei gorau pan fydd yn unedig. Wrth i'n timau weithio'n ddi-baid i sicrhau ein bod ni mor barod â phosibl, gofynnaf i chi hefyd fod mor barod ag y gallwch chi fod.
"Ar wefan y Cyngor mae yna gyngor ymarferol. Po fwyaf parod ydych chi, y mwyaf fyddwch chi wedi’ch arfogi i ymdopi ag effeithiau llifogydd, stormydd neu hyd yn oed doriadau i’r pŵer os yw’n digwydd. Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar wefan y Cyngor ar Cynllunio ar gyfer Argyfyngau – Sir Fynwy
"Efallai eich bod chi hefyd wedi gweld negeseuon 'Byddwch yn Barod' Llywodraeth y DU yn ddiweddar. Mae'n ein cynghori ni i gyd i sicrhau ein bod ni’n cadw gwerth tri diwrnod o hanfodion, gan gynnwys bwyd tun, dŵr, batris, tortshys ayb. i’w defnyddio mewn argyfwng. Er ein bod ni i gyd yn gobeithio na ddaw hi i hynny, buaswn yn llwyr argymell eich bod chi'n darllen y cyngor i sicrhau y Byddwch yn Barod
"Mae gweithio mewn partneriaeth hefyd yn hanfodol o hyd. Rydyn ni’n dal i weithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, asiantaethau cyfagos, partneriaid cefnffyrdd a thirfeddianwyr lleol i gynnal afonydd, clirio llystyfiant a thaclo malurion a all gyfrannu at lifogydd.
"Rydyn ni'n gwybod bod llifogydd yn achosi pryder. Er na allwn ddileu'r risg yn llwyr, rwyf am i drigolion wybod bod Cyngor Sir Fynwy yn cymryd camau ymarferol, rhagweithiol bob dydd i leihau'r risg honno ac i baratoi at y misoedd sydd i ddod.
"Wrth i'r gaeaf agosáu, mae'r ymrwymiad hwnnw'n dal i fod yn gryfach nag erioed. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wynebu'r gaeaf, a beth bynnag a ddaw, gyda’n gilydd."
Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby
Arweinydd, Cyngor Sir Fynwy