Sgwrsio am Y Gyllideb a Blaenoriaethau 2026/27

Rhannu Sgwrsio am Y Gyllideb a Blaenoriaethau 2026/27 ar Facebook Rhannu Sgwrsio am Y Gyllideb a Blaenoriaethau 2026/27 Ar Twitter Rhannu Sgwrsio am Y Gyllideb a Blaenoriaethau 2026/27 Ar LinkedIn E-bost Sgwrsio am Y Gyllideb a Blaenoriaethau 2026/27 dolen

To read this page in English visit https://www.letstalkmonmouthshire.co.uk/budget-2026-27

Diweddariad 19/02/2026

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo cyllideb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn dilyn cyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Iau, 5 Mawrth 2026. Mae’n nodi sut y bydd yr awdurdod yn parhau i fuddsoddi mewn cymunedau, a darparu gwasanaethau allweddol i drigolion yn y flwyddyn i ddod.

Darganfyddwch mwy: www.monmouthshire.gov.uk/cy/2026/03/cyngor-sir-fynwy-yn-cadarnhau-cyllideb-syn-canolbwyntio-ar-ganlyniadau-yn-dilyn-cyfarfod-cyngor-llawn/

Diweddariad 19/02/2026

Diolch i bawb a wnaeth ymateb i’n hymgynghoriad Siarad am y Gyllideb a Blaenoriaethau 2026/27.
Cam nesaf proses gosod y Gyllideb fydd:

Adroddiad i’r Cabinet ar 4 Mawrth.

Adroddiad i’r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026 a phenderfyniad ar gynigion y gyllideb.

Hoffem sgwrsio gyda chi am y gyllideb arfaethedig a blaenoriaethau'r cyngor ar gyfer 2026-27. Bydd ein hymgynghoriad blynyddol yn cychwyn am 9am ddydd Iau 22 Ionawr tan 5pm ddydd Mercher 18 Chwefror, 2026.

Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir Fynwy yn gwneud penderfyniadau trylwyr o ran sut i ddefnyddio ei gyllideb yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon i ddarparu'r gwasanaethau allweddol rydych chi a holl drigolion Sir Fynwy yn dibynnu arnynt.

Rydym yn ymroddgar i helpu'r rhai mwyaf bregus; rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau bod pob punt yn cael ei wario'n ddoeth.

Mae ein cyllideb a'n blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer y blwyddyn ariannol 2026-27 yn adlewyrchu'r hyn sydd, yn eich barn chi, o bwys i chi, sef eich gwasanaethau lleol - a chyn i ni ddod i benderfyniad terfynol, rydyn ni am glywed eich barn.

Mae eich adborth yn ein helpu i ddeall a ydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir. Mae hefyd yn dangos a yw'r cynigion yn ymddangos yn deg, yn rhesymol, ac yn berthnasol i chi a'ch cymuned. Mae eich mewnbwn wedi llywio’r gyllideb o'r blaen, a gall wneud hynny eto.

Rydym wedi paratoi trosolwg o'r gyllideb ddrafft eleni a'r blaenoriaethau. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus. Cymerwch olwg a rhowch wybod i ni os ydych chi'n cytuno.

Am fanylion llawn, edrychwch ar adroddiad y Cabinet a’r dogfennau ategol sydd ar gael isod. Byddant yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am bob un o’n gwasanaethau.
Aroddiad Cabinet
Pwysau Gwasanaeth, Buddsoddiad, Effeithlonrwydd
Ffioedd a thaliadau Arfaethedig
Atodiadau a dogfennau pellach ar gael yma

Gadewch i ni sgwrsio

Mae angen i chi ddweud eich barn wrthym. Mae sawl ffordd y gallwch chi wneud hyn.

Ar-lein: Trwy llenwi’r holiadur ar y dudalen hon.

Ar bapur: Gallwch godi a dychwelyd holiadur papur i un o'n Hybiau Cymunedol, Llyfrgelloedd, neu Ganolfannau Hamdden.

Yn berson: Galwch heibio un o’r sesiynau sy’n cael eu cynnal yn ein llyfrgelloedd a’n canolfannau cymunedol. Gweler y rhestr ar y dudalen hon.

Ymunwch â chyfarfod ar-lein gyda'n haelodau Cabinet

Beth am gofrestru ar un o'n sesiynau ymgysylltu ar-lein? Gallwch ddewis un o dri dyddiad (neu bob dyddiad os hoffech). Byddwn yn recordio sesiwn, ac yn ei hychwanegu at y dudalen hon os nad yw un o'r dyddiadau’n addas, neu os ydych chi eisiau ei gwylio eto.

Cofrestrwch i ymuno ag un o'r cyfarfodydd canlynol ar-lein, drwy lenwi'r ffurflen fer ar y dudalen hon:

  • Dydd Mawrth 3 Chwefror am 11.30am
  • Dydd Iau 12 Chwefror am 5.30pm

Dewch i sgwrsio: Byddwn hefyd yma ac acw trwy gydol y cyfnod ymgynghori, yn eich hybiau cymunedol a llyfrgelloedd. Os oes gennych gwestiwn neu os hoffech siarad â ni am y cynigion, byddwn yn hapus i sgwrsio â chi.

Pa un bynnag ffordd y dewiswch chi gymryd rhan, edrychwn ymlaen at glywed gennych. Mae eich barn yn bwysig i ni.

Sgwrsio am Sir Fynwy. Sgwrsio am y Gyllideb a Blaenoriaethau 2026-2027.

  • Mae'r Arolwg wedi cau
    Darllenwch y adroddiad drafft ar y gyllideb a’r blaenoriaethau ac yna cwblhewch yr arolwg byr.
    Diolch yn fawr.
    Rhannu Rhannwch eich adborth ar Facebook Rhannu Rhannwch eich adborth Ar Twitter Rhannu Rhannwch eich adborth Ar LinkedIn E-bost Rhannwch eich adborth dolen
  • Wedi cau: Mae'r arolwg hwn wedi'i gwblhau.
    Rhannu Cofrestrwch ar sesiwn ymgynghori ar-lein am y gyllideb ar Facebook Rhannu Cofrestrwch ar sesiwn ymgynghori ar-lein am y gyllideb Ar Twitter Rhannu Cofrestrwch ar sesiwn ymgynghori ar-lein am y gyllideb Ar LinkedIn E-bost Cofrestrwch ar sesiwn ymgynghori ar-lein am y gyllideb dolen
Diweddaru: 09 Mar 2026, 01:33 PM