Cyllideb y Gymuned - Eich Pleidlais
Dylanwadwch ar siâp eich cymuned – PLEIDLEISIWCH dros y cynllun ddylai gael arian o Gyllideb y Gymuned yn eich barn chi
Trwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd gofynnom i drigolion a grwpiau cymunedol gyflwyno syniad gwych i wella’u cymdogaeth.
Rydyn ni nawr wedi tynnu rhestr fer o’r syniadau a gyflwynwyd yn erbyn y meini prawf gwreiddiol. Gofynnom i’r syniadau fod yn rhai a fyddai’n:
- Gwella'r amgylchedd, llesiant, neu fywyd cymunedol
- Cynhwysol ac yn agored i bawb
- Yn rhywbeth y gellir ei gyflawni erbyn mis Mawrth 2026
- Syniad nad yw’n dyblygu gwasanaethau presennol, ond yn hytrach, yn gweithio ochr yn ochr â nhw
Gan fod Cyllideb y Gymuned yn ffordd arloesol i bobl yn Sir Fynwy ddylanwadu ar y ffordd y mae arian yn cael ei ddyrannu, credwn y dylech chi gael dweud eich dweud am y cynlluniau ddylai gael yr arian.
SUT I BLEIDLEISIO
Darllenwch y rhestr fer isod.
Yna defnyddiwch y Ffurflen Bleidleisio ar waelod y dudalen hon a dewiswch y TRI SYDD ORAU GENNYCH.
Gallwch bleidleisio hyd nes 4/1/26.
Diolch i'r holl sefydliadau a gymerodd yr amser i gyflwyno cais i Gyllideb y Gymuned. Mae'r gronfa wedi cael mwy o geisiadau na’r arian sydd ar gael a nawr mae’r penderfyniad anodd yn eich dwylo chi, ddinasyddion Sir Fynwy, wrth i chi fwrw’ch pleidlais.
RHESTR FER CYLLIDEB Y GYMUNED
SYNIAD 1: The Cookalong Clwb
Ar ôl cynnal cyrsiau ar-lein a gweithio gyda grwpiau am y 5 mlynedd ddiwethaf, gan rymuso plant a theuluoedd â hyder yn y gegin, hoffem weithio gyda disgyblion blwyddyn 6 mewn dwy ysgol am hanner tymor/6 wythnos – i greu chwe rysáit ar gyfer prydau poeth yn barod iddynt symud i fyny i Flwyddyn 7 gydag annibyniaeth a dealltwriaeth am fwyd - prynu, blasu, creu a bwyta o'r dechrau’n deg, gan ddefnyddio prydau tymhorol, sydd ddim yn datgoedwigo.
SYNIAD 2: Cyfeillion yr Hwb
Cynhaliwyd arolwg yn Ffair Mai Magwyr ym mis Mai 2025 y dilyn ymchwil a wnaed yn barod pan ganfuwyd bod angen eang am ddigwyddiadau cymunedol ymhlith trigolion. Cafwyd trawstoriad da o ymatebion ac roedd nifer dda wedi dod i ddigwyddiadau a gynhaliwyd hyd yma, o bobl yn eu 20au cynnar ar y cwrs iaith i bobl dros 80 oed yn y digwyddiadau gyriant chwist, ac rydym yn rhagweld y bydd buddion hirdymor.
SYNIAD 3: Pêl-droed Cerdded i Bobl dros 70 Oed yng Nghil-y-coed – Dim Ond Rhif yw Oedran
Rydym yn cynnig lansio Tîm Pêl-droed Cerdded yn arbennig i bobl dros 70 oed yng Nghil-y-coed i hyrwyddo heneiddio llesol, cysylltiadau cymdeithasol, a balchder yn y gymuned. Bydd y fenter hon yn cynnig lle diogel, cynhwysol i drigolion hŷn gadw'n heini, cael hwyl, a meithrin cyfeillgarwch trwy chwaraeon.
SYNIAD 4: Band Jazz Blue PhoenIx
Cymorth i gynnal y band jazz, er enghraifft costau cludiant ar gyfer cystadlaethau, cynnal a chadw gwisgoedd ac offerynnau a hefyd rhedeg a llogi'r neuadd ar gyfer ymarferion.
SYNIAD 5: Clwb Bowlio Cymunedol Gilwern
Adnewyddwyd ein pafiliwn yn ddiweddar ac mae’n cynnig lle cynnes, cyfforddus i gymuned Gilwern ei ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn. Ond, mae yna un prosiect arall i'w gwblhau er mwyn sicrhau bod y pafiliwn yn hygyrch i bawb. Mae gennym le penodol ar gyfer toiled hygyrch ac ardal newid, ond mae angen y cyfarpar ar ei gyfer ac offer glanweithiol, bwrdd newid a system larwm argyfwng.
SYNIAD 6: Lles Cynhwysol Trwy Bêl-droed Cerdded
Mae Clwb Pêl-droed Cerdded y Fenni yn cyflwyno cais am £2,000 i ehangu ei raglen gymunedol gynhwysol sy'n hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol trwy chwaraeon. Mae ein clwb yn cynnig lle diogel, croesawgar i oedolion hŷn a'r rheiny sydd â symudedd cyfyngedig i gadw’n actif, meithrin cyfeillgarwch, a gwella’u hiechyd. Bydd y cyllid yn ein helpu i gyrraedd mwy o drigolion lleol, gwella ein hoffer, a chynnal sesiynau ymgysylltu â'r gymuned sy'n cefnogi llesiant a chysylltiadau cymdeithasol.
SYNIAD 7: Tea Tots Trefynwy
Mae Together Tots yn gylch chwarae wythnosol, cynhwysol ar gyfer y blynyddoedd cynnar sydd wedi’i gynllunio'n benodol ar gyfer plant cyn-ysgol a babanod ag anableddau, anghenion ychwanegol, neu anghenion meddygol cymhleth. Mae llawer o deuluoedd yn y sefyllfa hon yn ei chael yn anodd cael mynd i grwpiau babanod a phlant bach arferol oherwydd bod yr amgylcheddau yn rhy brysur, yn rhy ysgogol, neu ddim yn addas i anghenion datblygiadol neu feddygol eu plentyn. Nod Together Tots yw cael gwared ar y rhwystrau hyn trwy greu gofod tawel, rhagweladwy sy’n ystyried y synhwyrau, lle gall pob plentyn ymgysylltu'n ddiogel ac yn gyfforddus.
Bydd y sesiynau’n cynnig chwarae synhwyraidd ysgafn, gweithgareddau sy’n gyfoeth o gyfathrebu, cyfleoedd syml i symud neu fwynhau cerddoriaeth, a mannau hyblyg y gellir eu haddasu i ddiwallu ystod eang o anghenion. Mae'r ffocws ar ddarparu amgylchedd sy'n cefnogi archwilio, yn annog datblygiad cynnar, ac yn galluogi plant i gymryd rhan mewn ffyrdd sy'n iawn iddyn nhw.
Rhan allweddol o'r prosiect yw cefnogi rhieni a gofalwyr. Mae teuluoedd sy'n gofalu am fabanod a phlant cyn-ysgol ag anghenion cymhleth yn aml yn profi ynysu sylweddol a chyfleoedd cyfyngedig i gwrdd â phobl eraill sy'n deall eu heriau bob-dydd. Bydd Together Tots yn creu rhwydwaith cefnogol, croesawgar lle gall gofalwyr ddod i gyswllt â'i gilydd, rhannu profiadau, lleihau ynysu, a chael cymorth yn y gymuned.
SYNIAD 8: Clwb Pêl-droed Iau Porthsgiwed a Sudbrook
Mae gennym broblem gyda baw cŵn yma ar y cae hamdden ym Mhorthsgiwed (NP26 5TQ).
Mae gennym ymgyrch dorfoli i brynu a gosod ffens chwaraeon 1.2 metr o uchder i atal cŵn rhag rhedeg yn rhydd a gadael eu baw cŵn ar y man chwarae i blant.
Rydyn ni wedi codi dros 75% o'n targed ac rydyn ni nawr yn gofyn am gymorth i gyrraedd ein targed. Os na fyddwn ni’n cyrraedd ein targed erbyn 15 Ionawr, byddwn yn colli grant o 50% a ddyfarnwyd i ni.
SYNIAD 9: Eglwys y Bedyddwyr Rhaglan
Yn Eglwys y Bedyddwyr Rhaglan mae gennym awydd angerddol i wasanaethu ein cymuned leol. Rydyn ni’n cynnal cinio cymunedol misol i bobl hŷn a chaffi a grŵp i blant bach yn wythnosol, o'n hadeilad ar Heol Wysg, Rhaglan.
Credwn y bydd gwella'r man awyr agored wrth flaen ein heiddo trwy greu gardd gymunedol wedi'i chynllunio'n dda, sy’n hygyrch ac yn ddeniadol, yn ein galluogi i groesawu mwy o bobl ac ystod ehangach o bobl yn ystod y gweithgareddau hyn, a gweithgareddau eraill.
Yn ogystal, byddai’r ardd ar agor i ymwelwyr y tu allan i oriau gweithredu'r eglwys, gan gynnig lle croesawgar i'r gymuned ddod at ei gilydd yn anffurfiol, i gwrdd â ffrindiau a chymdogion a threulio amser ger Stryd Fawr y pentref. Bydd hefyd yn cael ei defnyddio gan ein Grŵp Ieuenctid sy'n cwrdd bob nos Wener.
Rydyn ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer y prosiect hwn ers peth amser ac wedi gweithio gyda dylunydd gardd lleol i lunio cynlluniau sy'n addas ar gyfer ein lleoliad yn Ardal Gadwraeth Rhaglan, sy'n ystyried effeithiau amgylcheddol ac elfennau hygyrchedd.
Yn ogystal, rydyn ni wedi gwahodd mewnbwn gan y grŵp ieuenctid a defnyddwyr presennol y Ganolfan Gymrodoriaeth, yn ogystal â'r gynulleidfa.
SYNIAD 10: Cegin Fwyd Brynbuga
Paratoi, coginio a dosbarthu prydau poeth maethlon ddwywaith yr wythnos i drigolion ar draws Brynbuga.
Rydyn ni’n credu y bydd gwneud yn siŵr eu bod yn cael pryd poeth ddwywaith yr wythnos yn eu cadw'n iach ac yn eu helpu’n ariannol.
SYNIAD 11: Canolfan Palmer yng Nghas-gwent
Hoffem dreialu grŵp crefftau anffurfiol o'r enw "MAKERY", yng Nghanolfan Palmer, am un bore bob wythnos rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2026.
Mae Canolfan Palmer yn adeilad sy’n gwbl hygyrch, a bydd y prosiect yn agored i bawb. Fel grŵp, byddwn yn dechrau trwy wneud eitemau sylfaenol â llaw. Does dim angen profiad - bydd cyfranogwyr yn dysgu wrth i ni fynd ymlaen, dan arweiniad gwirfoddolwyr profiadol. Bydd yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar. Bydd y crefftau'n cynnwys gwau, crosio a brodwaith a byddwn hefyd yn cyflwyno ffeltio nodwydd, gwehyddu a gwneud cardiau wrth i unigolion fagu hyder.
Mae sefydliadau eraill yng Nghas-gwent yn cynnal sesiynau crefft amrywiol ond mae'r rhain i gyd am gost, ac mae cymryd rhan yn gallu bod y tu hwnt i fodd rhai o’r trigolion. Oherwydd bod gan Ganolfan Palmer neuadd addas, ni fyddai unrhyw ffioedd ar gyfer llogi ystafelloedd, dim ond cyfraniad bach iawn at gostau gwresogi ac yswiriant. Bydd y prosiect yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, dan oruchwyliaeth staff o Ganolfan Palmer, felly ni fyddai unrhyw ffioedd ychwanegol. Darperir diod poeth, groesawgar.
Yn dilyn y prosiect peilot, ein bwriad yw parhau i greu gwaith celf ar y cyd, gyda chyfranogwyr yn creu darnau unigol mewn amrywiaeth o gyfryngau, e.e. ffeltio, brodwaith, gwehyddu, i greu darn i’w hongian ar wal, yn darlunio geiriau a lluniau sy'n golygu rhywbeth i'r cyfranogwyr, e.e. agweddau ar fywyd Cas-gwent, neu beth y mae Canolfan Palmer yn ei olygu iddyn nhw, neu straeon am eu bywydau ayb.
SYNIAD 12: Clwb Ffilm yn Llangwm
Trefnu dangos ffilm yn neuadd bentref Llangwm yn rheolaidd, i ddechrau unwaith y mis yn ystod misoedd y gaeaf am 7.30pm. Bydd gofyn i ni feithrin enw da a chefnogaeth yn lleol i sicrhau llwyddiant. Rhaid cadw costau mynediad yn isel i'w gwneud yn hygyrch i bawb. Rydyn ni’n bwriadu treialu rhedeg matinee am ddim unwaith y bydd y dangosiadau gyda'r hwyr yn llwyddiannus.
Mae Llangwm yn gymuned wledig sydd â thrigolion oedrannus, heb fawr o gyfleoedd i bobl gymdeithasu. Rydyn ni’n ardal wledig heb eglwys, tafarn na siop.
SYNIAD 13: Grŵp Darllen Gwefusau y Fenni
Rydyn ni’n dymuno parhau i helpu pobl â nam ar y clyw/pobl fyddar i ddysgu sgil bywyd darllen gwefusau. Mae bywyd i'r byddar yn ynysig iawn ac mae ein dosbarth yn dod â'r rheiny sy'n cael anhawster yn y gymdeithas at ei gilydd i sgwrsio a chymdeithasu.
Bydd y sgiliau a'r therapïau ymdopi rydyn ni'n eu rhannu yn y dosbarth yn helpu'r rheiny sydd â nam ar eu clyw i gymdeithasu a chymysgu â phobl sy'n clywed, a mwynhau'r profiad, nid dim ond eistedd ar yr ymylon yn edrych i mewn. Mae'r dosbarth yn meithrin hyder, ac rydyn ni’n rhannu gwybodaeth sy'n cynorthwyo aelodau i ddefnyddio technoleg fel Bluetooth ac apiau i wneud bywyd yn haws iddynt.
SYNIAD 14: Ardal Weinidogaeth Gwent-is-coed (Netherwent)
Rydyn ni’n cynnig rhoi grawnfwydydd a llaeth hiroes mewn ysgolion ac eglwysi lleol i deuluoedd mewn angen.
Teuluoedd â phlant sy'n cael trafferth gyda chostau byw, i sicrhau bod plant yn dod i'r ysgol â rhywbeth yn eu boliau.
SYNIAD 15: Bridges Community Garden
The Bridges Community Centre in Monmouth has a dedicated group of volunteer gardeners who maintain and develop the Charities well-loved and extensive communal gardens. The gardeners work with a group of sixth form students from Monmouth Comprehensive School’s Special Resource Base, who support students with additional needs.
Each week, students with Downs Syndrome, learning difficulties, cerebral palsy, autism and other additional needs, work alongside the volunteer team, gaining hands-on experience in nature and plant cultivation, developing independence, social skills, and employability.
In the recent flooding, the Bridges Community Centre was overwhelmed by the flood waters, with the centre and gardens being covered in waist deep filthy water. Since then they have had to cancel the students coming as the centre is shut and the gardens have been badly impacted.
They want to have the students back to join the team as soon as possible but know that currently after the devastation of the flood, an investment is needed to ensure they are able to offer them the best possible placement when they return. We will need new tools, plants, planters, and they would love to buy a small greenhouse to enable more learning opportunities in the future.
Beth yw Cyllideb y Gymuned?
Mae'n gronfa sy'n rhoi cyfle i bobl leol:
- Gyflwyno a rhannu syniadau i wella eu hardal
- Trafod pa syniadau ddylai gael cyllid a phleidleisio drostynt
- Arwain prosiectau sy'n bwysig iddyn nhw
Efallai bod gennych syniad ar gyfer gardd gymunedol, rhaglen ieuenctid, neu grŵp llawr gwlad newydd – beth bynnag yw’ch syniad, gallech chi lwyddo i gael y cyllid.
Pwy allai gymryd rhan?
Roedd croeso i bawb yn Sir Fynwy gyflwyno cais.
Beth yw'r gyllideb?
Mae Grant Cyfalaf Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn benodol ar gyfer prosiectau cymunedol. Mae wedi darparu £26,744 i ariannu prosiectau a arweinir gan y gymuned yn Sir Fynwy. Bydd pob ardal yn cael cyfran deg o'r gyllideb.
Unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch â'r Tîm Datblygu Cymunedol heddiw yn communitydevelopment@monmouthshire.gov.uk
Dewch i ni adeiladu Sir Fynwy well gyda'n gilydd.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
