Digwyddiadau mis Tachwedd
Sesiwn Canu Gwerin
Mae nifer o grwpiau gwerin Cymraeg ledled Cymru. Trefnwyd y digwyddiad hwn gan un ohonynt ond mae ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn canu gwerin Cymraeg. Disgwylir y byddwch eisoes yn chwarae cerddoriaeth werin ac y gallwch ddarllen cerddoriaeth ar lefel sylfaenol. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar gerddoriaeth o’r llyfrau alawon a gyhoeddwyd gan Clera (gweler gwefan Clera – clera.org i gael mwy o wybodaeth. Offerynnau acwstig.
Dylai pobl ifanc dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Gofynnir i chi hysbysu aelod os oes gennych gyflwr a fedrai effeithio ar eich gallu i gymryd rhan.
Amser: 1.00pm – 4.30pm
Lleoliad: Neuadd Pentref Llan-ffwyst, Lôn yr Eglwys, Y Fenni NP7 9LP
£4.00 yr un (arian parod yn unig)
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Jan – jht77@hotmail.com |
Calon y Ddraig ac Enaid y Ddraig, Perfformiad Dwbl Theatr Dawns Amrywiol
Mae Calon y Ddraig ac Enaid y Ddraig yn Gwmni Cymunedol Theatr Dawns Amrywiol o ddawnswyr gydag anabledd dysgu seiliedig yn Abertawe. Maent yn dod â’u Perfformiad Dwbl i Dance Blast: Y Golau, a ysbrydolwyd gan Dylan Thomas (15 munud) Egwyl: 15 munud Y Tân a’r Aderyn. Darn am wrthdaro a datrysiad a berfformir i Firebird Suite Stavinsky (20 munud). Bydd gweithdy cynhwysol addas ar gyfer pobl ifanc ac oedolion gydag anabledd dysgu rhwng 4.30pm – 5.30pm, cyn y perfformiad. Bydd hyn AM DDIM os prynir tocyn i’r perfformiad (£5 os ddim yn aros i edrych ar y perfformiad). Rhaid archebu’r gweithdy ymlaen llaw oherwydd nifer gyfyngedig o leoedd.
£10 / £5 gostyngiadau (Gweithdy am ddim gyda thocyn y sioe, ond rhaid archebu ymlaen llaw)
Prynwch docynnau o Ticket Source: https://www.ticketsource.com/danceblast/t-aalznyj
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag e-bost: danceblastclasses@gmail.com Ffôn: 01873 854811 Gwefan: https://www.dance-blast.org/whatson