Sgwrsio am Ddiogelwch ar y Ffyrdd

Rhannu Sgwrsio am Ddiogelwch ar y Ffyrdd ar Facebook Rhannu Sgwrsio am Ddiogelwch ar y Ffyrdd Ar Twitter Rhannu Sgwrsio am Ddiogelwch ar y Ffyrdd Ar LinkedIn E-bost Sgwrsio am Ddiogelwch ar y Ffyrdd dolen

Gwella teithiau yn Sir Fynwy

Nod Strategaeth ddrafft ar gyfer Diogelwch ar y Ffyrdd 2026-2040 Cyngor Sir Fynwy yw helpu i greu teithiau mwy diogel i bawb, p'un a ydych chi'n cerdded, yn beicio, yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu'n teithio mewn car, fan neu lori neu ar feic modur.

Y cam nesaf: Hoffem gael eich adborth am y strategaeth ddrafft.

Mae hyn yn bwysig gan y bydd yn nodi ymagwedd y cyngor at wella diogelwch ar y ffyrdd yn ystod y 14 mlynedd nesaf.

Darllenwch y Strategaeth ddrafft, yna llenwi’r arolwg ar y dudalen hon, sydd yn fyw o ddydd Llun, 2 Tachwedd 2026 tan ddydd Sul 3 Ionawr, 2027.

Bydd yr adborth sy’n dilyn yr arolwg yn cael ei ddefnyddio i wella'r strategaeth ymhellach cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Cyngor Llawn ym mis Mawrth, a’i mabwysiadu os cytunir arni.

Ynglŷn â'r strategaeth

Mae diogelwch ar y ffyrdd yn effeithio arnom ni i gyd. P'un a ydych chi'n cerdded i'r ysgol, beicio i'r gwaith, reidio beic modur, gyrru i'r siopau, neu'n ymweld â theulu, mae gan bawb rôl i'w chwarae er mwyn cadw ffyrdd Sir Fynwy yn ddiogel.

Pam ydyn ni'n datblygu strategaeth newydd? Er gwaethaf y gwelliannau yn ystod y degawdau diwethaf, mae pobl yn parhau i gael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd ar draws Sir Fynwy.

Mae pob gwrthdrawiad yn cael effaith ar deuluoedd, gwasanaethau brys, ysgolion a chymunedau, busnesau ac, wrth gwrs, y bobl hynny yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.

Ein Gweledigaeth: Sir Fynwy lle gall pawb deithio'n ddiogel a gyda hyder.

Erbyn 2040 rydym am sicrhau bod llai o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, rydym am weld ffyrdd a strydoedd mwy diogel, teithiau mwy diogel i'r ysgol a mwy o bobl yn teimlo eu bod yn gallu dewis cerdded, olwyno neu feicio, yn ogystal â mwy o gymunedau sy'n teimlo'n fwy diogel.

Beth yw'r System Ddiogel? Yn hytrach na beio unigolion, mae'r System Ddiogel yn cydnabod bod pobl yn gwneud camgymeriadau. Y nod yw sicrhau nad yw'r camgymeriadau hynny'n arwain at farwolaeth neu anaf difrifol. Gallwch ddarllen am gynllun partneriaeth diogelwch ar y ffyrdd Llywodraeth Cymru yma.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod ein ffyrdd yn fwy diogel yma yn Sir Fynwy, fel bod llai o bobl yn cael eu hanafu neu eu lladd.

Mae'r System Ddiogel yn canolbwyntio ar: ffyrdd mwy diogel, cerbydau mwy diogel, cyflymderau mwy diogel, pobl sy’n defnyddio’r ffyrdd yn fwy diogel, ac ymateb gwell ar ôl gwrthdrawiad.

Beth yw'r heriau?

Pobl fregus ar y ffyrdd: Ychydig iawn o amddiffyniad sydd gan ddefnyddwyr os ydyn nhw mewn gwrthdrawiad. Mae hyn yn cynnwys cerddwyr, beicwyr, marchogion a phobl ar feiciau modur. Mae gwella diogelwch i'r grwpiau hyn yn flaenoriaeth allweddol.

Gyrwyr a reidwyr ifanc: Mae pobl ifanc sy’n gyrru ar y ffyrdd yn aml yn cael eu gorgynrychioli mewn gwrthdrawiadau difrifol. Mae ffactorau cyffredin yn cynnwys diffyg profiad, cymryd risgiau, gyrru yn ystod y nos, pwysau gan gyfoedion a diffyg canolbwyntio. Mae helpu pobl ifanc i gadw'n ddiogel yn un o brif ffocysau’r strategaeth.

Mae Cyflymder yn bwysig: Y cyflymaf y mae cerbyd yn teithio, y lleiaf o amser sydd i ymateb, mae’n cymryd mwy o amser i stopio ac mae’r perygl o anaf lawer yn uwch. Gall hyd yn oed gyrru fymryn yn arafach wneud gwahaniaeth sylweddol.

Ffyrdd Gwledig: Mae heriau unigryw ar ein ffyrdd gwledig yma yn Sir Fynwy, gan gynnwys troeon llym, cerbydau amaethyddol, tywydd sy’n gallu newid yn sydyn, gwyntoedd uwch a gwelededd isel iawn.

Ein blaenoriaethau

Blaenoriaeth 1: Gwella diogelwch cerddwyr, sy’n fregus, cefnogi llwybrau beicio mwy diogel, gweithio gyda grwpiau beiciau modur a phartneriaid, hyrwyddo teithiau mwy diogel i'r ysgol ac mewn cymunedau.

Blaenoriaeth 2: Cefnogi gyrwyr a reidwyr ifanc: Byddwn yn cyflwyno rhaglenni addysg ac ymwybyddiaeth, yn hyrwyddo gyrru cyfrifol ar y ffyrdd, yn gweithio gydag ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid ac yn cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol ar ddiogelwch ar y ffyrdd.

Blaenoriaeth 3: Cyflymderau mwy diogel a ffyrdd uwch eu risg: Byddwn yn nodi lleoliadau sy'n peri gofid gan ddefnyddio tystiolaeth, byddwn yn targedu gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd lle mae eu hangen fwyaf, yn cefnogi mesurau rheoli cyflymder priodol ac yn gweithio gyda phartneriaid sy’n gorfodi.

Blaenoriaeth 4: Cefnogi teithio diogel a chynaliadwy: Annog cerdded a beicio, cefnogi dewisiadau teithio iachach, gwella hyder mewn teithio llesol a helpu i greu cymunedau mwy diogel.

Cydweithio

Ni all un sefydliad ar ei ben ei hun sicrhau diogelwch ar y ffyrdd. Byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu Gwent, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, ysgolion a cholegau, cynghorau cymuned a chymunedau lleol

  • Cyn i ni gwblhau'r strategaeth, hoffem glywed gan drigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol. Mae eich barn yn bwysig, felly helpwch ni drwy ei rannu gyda ni.

    Cymerwch ran erbyn hanner nos ddydd Sul, 3 Ionawr 2027 fan bellaf.

    Eich adborth
    Rhannu Eich adborth ar Facebook Rhannu Eich adborth Ar Twitter Rhannu Eich adborth Ar LinkedIn E-bost Eich adborth dolen
Diweddaru: 02 Tach 2026, 11:09 PM