Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect
CLOSED: This survey has concluded.

Dweud eich dweud

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) am glywed eich barn am y groesfan arfaethedig a'r gwelliannau i’r briffordd i gefnogi llwybrau cerdded, olwynio a beicio yng Ngwndy ar y B4245, o Heol yr Eglwys i ochr ddwyreiniol y pentref.

Disgrifiad o'r cynllun

Gweler y diagramau a darllenwch y disgrifiad o'r cynllun arfaethedig yma: link to intro page

  • Gosod croesfan Twcan (sy’n cael ei rheoli drwy wthio botwm) wrth y fynedfa i gerddwyr i ardal dai Rhodfa Pankhurst/Rockfield Farm.
  • Trosi'r droedffordd ar ochr ogleddol y B4245 i greu llwybr a rennir rhwng Rhodfa Pankhurst a The Elms
  • Culhau lleiniau’r gyffordd ac uwchraddio mannau croesi i gerddwyr ar Rockfield Grove a Heol yr Eglwys
  • Newid cilfannau safleoedd bysiau a chreu arosfannau â llinellau 
  • Ail-leoli cysgodfannau bysiau a’u diweddaru, ac ychwanegu byrddau gwybodaeth ‘amser real’
  • Ailosod wyneb newydd ar y briffordd

Mae'r arolwg hwn yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol am y ffordd rydych chi'n teithio fel arfer yn ardal yr astudiaeth cyn gofyn am eich profiadau wrth deithio yn ardal Gwndy ar y B4245.

Mae eich barn ar y cynigion yn bwysig i ni a byddem yn croesawu eich mewnbwn yn yr arolwg hwn. A fyddech cystal ag annog eraill i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, er mwyn i ni sicrhau ein bod yn ymgynghori ag ystod mor eang â phosibl o bobl.