Cwestiynau Cyffredinol
- Bysiau i'r ysgol, y gwaith, siopau a gwasanaethau yng Nghil-y-coed
- Siopau ym Magwyr a chyrchfannau eraill ym Magwyr - nid oes troedffordd ar ochr dde'r B4245 o Wndy tuag at Fagwyr
- Gwasanaethau bysiau ymhellach i ffwrdd (74, X74, 75, T7)
- Rhandiroedd Gwndy
- Palmant â gwead a chyrbiau is
- Synwyryddion i ymestyn yr amser croesi os bydd rhywun yn cymryd mwy o amser i groesi – mae hwn yn agwedd fodern yn lle’r ‘golau ambr yn fflachio’ ar groesfannau a reolir, gan ymateb mewn ffordd sy’n golygu bod angen sicrhau mwy o amser i groesi os oes angen, a hynny’n unig. Mae hyn yn lleihau’r effaith ar lif traffig pan na fydd y groesfan yn cael ei defnyddio (hy pan fydd rhywun yn pwyso’r botwm ond yn penderfynu peidio â chroesi, neu groesi’n gyflymach).
- Conau cyffyrddol yn cylchdroi o dan yr unedau botwm gwthio - mae hwn bellach yn fecanwaith ychwanegol safonol ar gyfer pobl ag amhariad ar eu golwg
- Signal y gellir ei glywed os cynghorir y bydd ei angen: Pan fydd y cynllun manwl yn cael ei baratoi, bydd asesiad yn cael ei gynnal i ganfod a yw bipiau y gellir eu clywed yn briodol. Os bydd hyn yn cael ei gynnwys, Bydd y bipiau yn swnio pan fydd y botwm i groesi yn cael ei bwyso, h.y. ar adegau pan fydd llif y cerbydau yn uchel.
Sut cafodd dyluniad y cynllun ei ddatblygu?
Dechreuodd y gwaith o ddatblygu'r cynllun ehangach drwy ymgynghori ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM), a oedd yn nodi llwybrau a chysylltiadau coll o ran cerdded, olwynio a beicio ar draws y sir. Mae meysydd ffocws, sy'n cyd-fynd a’r Map Rhwydwaith a blaenoriaethau strategol Sir Fynwy yn cael eu datblygu drwy broses Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru ('WelTAG'), sy'n gweithio trwy ddadansoddi’r sefyllfa bresennol, cyflwyno achos dros newid, opsiynau i greu gwelliannau ac ymyriadau arfaethedig. Yng Ngwndy, tynnwyd sylw at faterion gan nifer o ddigwyddiadau a phryderon ynghylch diogelwch ar y ffyrdd. Mae'r dyluniad yn adeiladu ar y cynllun hirdymor ar gyfer cynllun teithio llesol Gwndy i Rogiet, a dyluniad y Trefniant Cyffredinol a gafodd gefnogaeth helaeth gan y cyhoedd pan oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024.
Beth yw croesfan twcan?
Mae croesfan Twcan yn cynnwys goleuadau traffig a botwm ar fwrdd arddangos i bobl sydd eisiau croesi ar droed, olwynio neu feicio.
Beth yw safle bws â llinellau?
Mae safle bws â llinellau (sydd hefyd yn cael ei alw’n safle bws mewn lôn neu esgynlawr) yn safle bws sy’n galluogir bws i stopio yn lôn y traffig yn hytrach na thynnu i mewn i gilfan neu fae. Mae teithwyr yn dringo ar fwrdd y bws ac yn dod i ffwrdd o’r bws yn uniongyrchol i’r palmant tra bod y bws yn aros yn y lôn deithio. Mae hyn yn briodol ar gyfer ardaloedd 20mya.
Beth yw llwybr a rennir?
Mae'r cynllun yn cynnwys lledaenu'r droedffordd ar ochr ogleddol y B4245 i greu llwybr a rennir, ar hyd yr ardal, o’r groesfan Twcan i The Elms. Mae llwybr a rennir yn llwybr a all gael ei ddefnyddio gan unrhyw fodd o deithio llesol, boed hynny ar droed, ar olwynion neu ar gefn beic, heb unrhyw nodweddion neu farciau nodedig i’w gwahanu. Mae'r llwybrau a rennir a fwriedir wedi'u cynllunio’n unol â chanllawiau Teithio Llesol.
Beth fydd yn digwydd i'r cysgodfannau bysiau sydd yno ar hyn o bryd?
Mae to’r cysgodfan sydd wedi'i adeiladu o frics wedi dechrau chwalu ac mae teilsen ar goll. Yng ngoleuni'r gwaith sy'n cael ei wneud yn yr ardal, a'r ffaith y bydd y cilfan fysiau yn cael ei ddisodli gan safle bws â llinellau, y cyngor gan Reolwr Trafnidiaeth Gyhoeddus CSF yw y dylid uwchraddio’r cysgodfan yn hytrach na chynnal y cysgodfan sydd yno. Mae hyn am fod y gost i’w gynnal yn fwy o lawer na mantais gosod cysgodfan mwy addas mewn lleoliad addas. Byddwn hefyd yn anelu at ddiweddaru'r cysgodfan fysiau ar yr ochr ddeheuol. Bwriedir defnyddio paneli gwydr wrth ddiweddaru’r cysgodfannau, yn cynnwys panel gwybodaeth amser real, yn debyg i’r cysgodfan newydd yn Tudor Court ond gyda phaneli dyfnach ar yr ochr. Gall y gysgodfan hon gael panel blaen ychwanegol fel yr un yn safle bws 'Heol Redwick' Magwyr, a allai fod yn opsiwn a ffefrir ar gyfer y safle bysiau ar yr ochr ogleddol, gan ei fod yn fwy agored.
Cysgodfan fysiau tebyg yn Thornwell:

Ai dyma gynllun teithio llesol Gwndy i Rogiet?
Mae'n rhan ohono, ond nid y llwybr llawn. Mae'r cynllun hwn yn canolbwyntio ar welliannau yng Ngwndy. Cyn y gellir sicrhau cyllid ar gyfer llwybr Gwndy i Rogiet, rhaid setlo ar y tir a rhai manylion yn y cynllun terfynol. Ar ôl setlo, ac yn unol â'r blaenoriaethau strategol ar draws y sir, bydd CSF yn gwneud cais am gyllid ar gyfer cynllun teithio llesol Rogiet i Wndy. Fodd bynnag, mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â 'phorth' Gwndy i'r llwybr, sydd wedi ei ariannu, a gellir ei adeiladu eleni oherwydd ffocws trefol y cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Pam nad yw'r llwybr o Wndy i Rogiet wedi'i gynnwys yn y cynllun hwn?
Mae'n rhan ohono, ond nid y llwybr llawn. Mae'r cynllun hwn yn canolbwyntio ar welliannau yng Ngwndy. Cyn y gellir sicrhau cyllid ar gyfer llwybr Gwndy i Rogiet, rhaid setlo ar y tir a rhai manylion yn y cynllun terfynol. Ar ôl setlo, ac yn unol â'r blaenoriaethau strategol ar draws y sir, bydd CSF yn gwneud cais am gyllid ar gyfer cynllun teithio llesol Rogiet i Wndy. Fodd bynnag, mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â 'phorth' Gwndy i'r llwybr, sydd wedi ei ariannu, a gellir ei adeiladu eleni oherwydd ffocws trefol y cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Pam mae angen croesfan (Twcan) a reolir?
Nod y groesfan arfaethedig yw sicrhau bod cerdded yn opsiwn mwy diogel a mwy realistig ar gyfer teithiau bob dydd.
Dyluniwyd y B4245 yng Ngwndy yn flaenorol ar gyfer cerbydau sy’n teithio ar gyflymderau uwch, ac mae hyn yn golygu nad yw’n hawdd croesi’r ffordd. Mae hyn yn fater o gylch cythreulig, lle nad yw cerddwyr yn mynd yn agos at y ffordd oni bai bod angen, ac nid yw gyrwyr yn ymwybodol eu bod yn gyrru trwy bentref. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu fel cynllun Diogelwch ar y Ffyrdd, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio’r ardal, p’un ai ar fws, mewn car, cerdded, olwynio neu feicio. Mae angen i bobl sy'n byw yng Ngwndy groesi'r B4245 i gyrraedd:
Sut penderfynwyd ar leoliad y groesfan a reolir?
Mae pedair croesfan heb eu rheoli gydag ynysoedd yn y canol i groesi, ar hyd ardal Gwndy ar y B4245. Bydd y groesfan Twcan (a reolir) yn cael ei lleoli yn lle’r ail ynys groesi o'r ochr ddwyreiniol.
Mae’r groesfan wedi’i lleoli yn y man lle mae’r gallu i weld ar ei orau i yrwyr a phobl sy’n croesi ar hyd y rhan hon. Mae astudiaeth a arsylwodd ar draffig yn y fan hon wedi nodi’r cyfliniad hwn fel y prif lwybr i gerddwyr. Bydd lleoliad y groesfan Twcan hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer teithiau ymlaen ar gyfer cynllun arfaethedig y llwybr a rennir o Wndy i Rogiet.
Mae'r gwaith ehangach i ail-fodelu’r ffordd a'r cyffyrdd wedi'i gynllunio i wella'r croesfannau eraill nad ydynt yn cael eu rheoli, ar hyd y llwybr hwn – yn enwedig y groesfan agosaf at The Elms, nad yw'n diwallu safonau modern oherwydd ei bod yn gorffen yn y cilfan bysiau.
Pryd fydd y cynllun yn cael ei adeiladu?
Mae gwaith adeiladu’r cynllun hwn wedi'i gynllunio ar gyfer dechrau 2027. Bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu rhoi ar waith.
Sut mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â Chynllun Creu Lleoedd Magwyr gyda Gwndy
Mae'r cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Magwyr gyda Gwndy yn cael ei ddatblygu. Byddwn yn gweithio gyda'r Bartneriaeth Creu Lleoedd ac Adran Adfywio CSF, a gwneud ein gorau glas i adlewyrchu deunyddiau a phalet y cynllun creu lleoedd. Mae'r cyllid i adeiladu'r cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn gyfyngedig o ran amser a bydd angen bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu hwn cyn gynted ag y bydd yr ymgynghoriad a'r dyluniad wedi'u cwblhau. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio sut i gynnwys yr ardal hon yn y cynllun Creu Lleoedd drwy gynnwys ‘nodwedd groesawi’ ar ffurf celf gyhoeddus yn unol â’r cynlluniau cyfnod cynnar ar gyfer Magwyr.
A fydd cyffordd gul yn gwneud gwahaniaeth o ran mynd i mewn/allan o Heol yr Eglwys?
Mae cyffordd gul yn gwella gallu gyrwyr i weld ac mae’n gosod croesfan y ffordd ymyl mewn man mwy diogel i gerddwyr, fel y gallant weld gyrwyr sy'n defnyddio'r gyffordd, a gall gyrwyr droi ar gyflymder mwy diogel. Mae damweiniau agos yn gyffredin am fod gyrwyr yn aros yn y ffordd ymyl i adael. Dyluniwyd trefniant presennol cyffordd y B4245/Heol yr Eglwys pan oedd y terfyn cyflymder ar y B4245 yn uwch. Mae cyflymderau sy’n cael eu cofnodi ar y B4245 yn parhau i fod yn uwch na'r terfyn cyflymder presennol, ac mae hyn yn rhoi gyrwyr a cherddwyr mewn perygl ar y cyffyrdd.
Er mwyn mynd i'r afael â phryder am yrwyr sy'n cael trafferth mynd i mewn ac allan o Heol yr Eglwys pan mae tagfeydd ar y B4245 (e.e. pan fydd problemau ar y rhwydwaith ffyrdd strategol ehangach), bydd sgwâr â llinellau ar lawr yn cael ei ychwanegu ar gyffordd Heol yr Eglwys sy’n ymuno â’r B4245.
Pryd fydd y llwybr teithio llesol o Wndy i Rogiet yn cael ei adeiladu?
Yn unol â'r blaenoriaethau strategol ar draws y sir, ac unwaith y bydd y tir a rhai manylion dylunio terfynol wedi'u setlo, bydd CSF yn gwneud cais am gyllid ar gyfer cynllun teithio llesol Rogiet i Wndy. Mae llwybr Gwndy i Rogiet yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a thrwy’r cynllun hwn gellir gwneud cais am gyllid gan y Gronfa Drafnidiaeth Rhanbarthol. Gan fod proses gystadleuol yn erbyn cynghorau eraill i wneud cais am gyllid, ni allwn warantu cyllid na roi amserlen ar gyfer pryd y bydd cyllid ar gael, ond rydym yn gweithio i ddwyn y cynllun ymlaen i’w adeiladu fel blaenoriaeth strategol i Sir Fynwy.
A fydd y groesfan yn hygyrch i bobl anabl?
Bydd. Bydd y groesfan twcan yn cynnig ffordd fwy hygyrch i groesi’r ffordd. Bydd y groesfan yn cynnwys: