FAQs
- Twf Economaidd
- Gwella Seilwaith
- Diogelu’r Amgylchedd
- Cyfoethogi Profiadau Ymwelwyr
- Diwylliant Bywiog a Threftadaeth
Beth yw’r Bartneriaeth Cyrchfan?
Mae’r Bartneriaeth Cyrchfan yn grŵp strategol o gynrychiolwyr o bob rhan o sector cyrchfan Sir Fynwy, yn cynnwys cynrychiolwyr atyniadau, trefnwyr digwyddiadau, busnesau lletygarwch, darparwyr gweithgaredd, cynhyrchwyr a busnesau eraill sy’n ymwneud â’r economi ymwelwyr.
Bydd y Bartneriaeth hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, Cynghorau Tref Sir Fynwy a swyddogion lleol y Parc Cenedlaethol a’r Tirlun Cenedlaethol.
Nod y Bartneriaeth Cyrchfan yw helpu i gyflawni nodau Cynllun Rheoli Cyrchfan 2025 – 2030 drwy weithio ar y cyd, ac felly helpu i lunio a chefnogi datblygu economi ymwelwyr Sir Fynwy yn y dyfodol. Bydd aelodau yn rhannu gwybodaeth, adnabod cyfleoedd, dylanwadu ar flaenoriaethau a chydweithio ar brosiectau sydd o fudd i’r sir fel cyrchfan.
Pwy sy’n rhedeg y prosiect?
Mae Tîm Cyrchfan bach gan Gyngor Sir Fynwy sydd wedi ymroi i gefnogi a datblygu twristiaeth ar draws y sir. Mae’r tîm yng ngofal gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Ymweld â Sir Fynwy, gan helpu i hyrwyddo Sir Fynwy fel cyrchfan ymwelwyr.
Mae’r tîm hefyd yn gyfrifol am gyflenwi Cynllun Rheoli Cyrchfan 2025 – 2030 Sir Fynwy, sy’n nodi ystod o flaenoriaethau a chamau gweithredu i gefnogi twf cynaliadwy yr economi ymwelwyr. Mae’r rhain yn cynnwys gwella profiad ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol, hyrwyddo diwylliant a threftadaeth unigryw y sir, annog cynaliadwyedd amgylcheddol a helpu i sicrhau fod twristiaeth o fudd i gymunedau lleol.
Sefydlwyd y Bartneriaeth Cyrchfan i helpu llunio a chefnogi cyflenwi’r camau gweithredu hyn, gan ddod â gwybodaeth leol, arbenigedd a syniadau ynghyd o bob rhan o’r sector.
Sut y caiff ymgeiswyr eu dewis?
Dymunwn greu partneriaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth economi ymwelwyr a chymunedau Sir Fynwy. Caiff ceisiadau eu hasesu i sicrhau y caiff ystod eang o sectorau, diddordebau, lleoliadau a safbwyntiau eu cynrychioli ar draws y sir.
Byddwn yn ystyried ffactorau tebyg i’ch profiad, gwybodaeth o’r ardal, gallu i gynrychioli eich sector neu gymuned, a’ch brwdfrydedd dros helpu i lunio dyfodol Sir Fynwy fel cyrchfan. Byddwn hefyd yn edrych am unigolion a all ymrwymo’r amser a’r egni sydd eu hangen i gyfrannu’n weithgar at y bartneriaeth a chefnogi cyflawni ei hamcanion.
Yn anffodus, efallai na fedrwn gynnig lle i bawb sy’n gwneud cais. Fodd bynnag, os nad yw eich cais yn llwyddiannus, byddem yn dal i hoffi cadw mewn cysylltiad ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi am brosiectau y dyfodol, cyfleoedd rhwydweithio, ymgynghoriadau neu swyddi gwag o fewn y bartneriaeth.
Beth a ddisgwylir gennyf os byddaf yn ymuno â’r bartneriaeth?
Drwy ymuno â’r bartneriaeth rydych yn ymrwymo i fynychu o leiaf ddau o'r pedwar cyfarfod bob blwyddyn, i beidio colli nifer o gyfarfodydd ar ôl ei gilydd (heb fod â rheswm da) ac i fod yn llais gweithgar yn y cyfarfodydd / trafodaethau cysylltiedig.
Ni fwriedir i’r Bartneriaeth fod yn ddarlith gan y Tîm Cyrchfan, ond bydd yn cydweithio yn wirioneddol. Disgwylir i chi helpu i gyflwyno syniadau ac i gydweithio gydag aelodau eraill o’r bartneriaeth.
Y prosiectau y byddwn yn gweithio arnynt gyda’n gilydd.
Caiff prosiectau penodol y Bartneriaeth Cyrchfan eu datblygu yn unol â dymuniadau y grŵp cyfan, a byddem yn croesawu eich mewnbwn i helpu llunio’r meysydd yr ydym yn canolbwyntio arnynt.
Bydd prosiectau yn gydnaws â themâu allweddol:
Fel aelod o’r bartneriaeth, cewch gyfle i gyfrannu syniadau, dynodi blaenoriaethau a helpu i ddylanwadu ar brosiectau a chynlluniau sy’n cefnogi Sir Fynwy fel cyrchfan yn y dyfodol.
Faint o gyfarfodydd o’r Bartneriaeth Cyrchfan fydd yna mewn blwyddyn?
Byddwn yn anelu i gael pedwar cyfarfod y flwyddyn, gyda hanner y cyfarfodydd ar-lein a’r hanner arall wyneb yn wyneb.
Gall fod hefyd is-gyfarfodydd am brosiectau penodol gorchwyl a gorffen, er fod y rhain yn debygol o fod ar-lein os nad yw’r prosiect penodol yn golygu fod angen i chi fod yn bresennol wyneb yn wyneb.