Sgwrsio am Gwasanaeth Cymorth Anabledd
Ym maes Gwasanaethau Plant, ein prif nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc Sir Fynwy, a'u teuluoedd, yn cyrraedd eu potensial llawn, yn cadw’r rheolaeth dros eu bywydau, ac yn cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw.
Rydyn ni’n gwneud hyn trwy weithio gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd, cydweithwyr a phartneriaid, i sicrhau bod y gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu datblygu, eu darparu a'u contractio, yn cyflawni'r canlyniadau iawn.
Mae'r Tîm Plant ag Anableddau yn cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i fyw bywydau ystyrlon, lle maen nhw’n rhan o bopeth, a lle gallant wireddu eu potensial fel aelodau actif o'u cymuned sy’n ymgysylltu’n llwyr. Ein nod yw eu cefnogi i gadw rheolaeth dros eu bywydau, byw bywyd sy'n bwysig iddyn nhw, a chael cefnogaeth i gyflawni'r canlyniadau maen nhw eu heisiau. Ein nod yw cynnig gwasanaethau o'r ansawdd uchaf sy'n rhoi'r plant, y bobl ifanc a'u teuluoedd, sy’n cael cefnogaeth gennym, wrth galon popeth a wnawn; a sicrhau eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch.
Mae Action for Children wedi bod yn darparu Gwasanaeth Cymorth Anabledd ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghyngor Sir Fynwy er 2011.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Anabledd wedi newid sawl gwaith er 2011, a dechreuodd y model gwasanaeth sydd ar waith ar hyn o bryd yn 2020, i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd trwy ddarparu:
- Gwasanaeth Cymorth Hyblyg i Deuluoedd ar gyfer teuluoedd â phlant a phobl ifanc ag anableddau rhwng 0 a 17 oed yn ardal Sir Fynwy. Bydd y gwasanaeth hwn yn cefnogi anghenion, yn eu hatal, eu lleihau neu ohirio’r angen i’w hesgoli ac yn helpu'r plant hyn a'u teuluoedd i gyflawni eu canlyniadau (e.e. dysgu, datblygu, mwynhau eu plentyndod a chyflawni eu potensial);
- Gwasanaeth Clwb Hwyl i blant ag anableddau rhwng 5 a 13 oed yn ardal Sir Fynwy, sy'n pwysleisio datblygu sgiliau cymdeithasol a gwneud ffrindiau newydd trwy chwarae, ac yn atal anghenion am gymorth, eu lleihau neu ohirio’r angen i’w hesgoli. Mae'r gwasanaeth yn helpu plant ag anableddau i gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnynt, a fydd yn eu cefnogi i ddysgu, datblygu, mwynhau eu plentyndod a chyflawni eu potensial;
- Gwasanaeth Cynllun Chwarae i blant ag anableddau rhwng 5 a 17 oed yn ardal Sir Fynwy sy'n pwysleisio datblygiad sgiliau cymdeithasol a gwneud ffrindiau newydd trwy chwarae, ac yn atal anghenion am gymorth, eu lleihau neu ohirio’r angen i’w hesgoli. Mae'r gwasanaeth yn helpu plant ag anableddau i gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnynt, a fydd yn eu cefnogi i ddysgu, datblygu, mwynhau eu plentyndod a chyflawni eu potensial.
Diben yr ymgynghoriad
Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn chi am y model sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Anabledd sydd gennym yn Sir Fynwy (h.y. beth sy'n gweithio'n dda, beth sydd ddim yn gweithio'n dda, a sut allwn ni wella hyn (awgrymiadau ar gyfer newid)).
Sut ydyn ni'n mynd i wneud hyn?
Gallwch lenwi’r holiadur isod er mwyn rhannu eich syniadau. Mae dau holiadur ar gael: un ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid ac un ar gyfer plant neu bobl ifanc. Neu, gallwch ddod i un o'n digwyddiadau ymgynghori.
Rydyn ni wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau ymgynghori yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2025 ar draws y Sir, yng Nghil-y-coed, Trefynwy, Y Fenni, a Chas-gwent, er mwyn gweld beth yw eich barn chi am y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig ar hyn o bryd.
Byddwn hefyd yn dosbarthu holiaduron i sicrhau bod y rheiny sydd ddim yn gallu dod i weithdy yn cael cyfle i gyfrannu.
Bydd y gweithdai’n cael eu rhannu'n ddwy sesiwn o awr.
Bydd y sesiwn gyntaf yn cynnwys trafodaeth un-i-un gyda gweithiwr o Wasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy, lle byddwch chi’n trafod ac yn cofnodi 'manteision' ac 'anfanteision' y Gwasanaeth Cymorth Anabledd presennol, a sut y gallem wella'r gwasanaeth yn y dyfodol (awgrymiadau ar gyfer newid).
Yn yr ail sesiwn, bydd pawb sy’n cymryd rhan yn dod at ei gilydd fel grŵp mawr, a byddwn yn ceisio casglu'r ymatebion i'r sesiwn gyntaf at ei gilydd o dan themâu penodol.
Yna, byddwn yn crynhoi trafodaethau'r grŵp ac yn trafod y camau nesaf.
Rwy'n gobeithio’n fawr y gallwch ddod i un o'n digwyddiadau ymgynghori. Mae rhestr o'r digwyddiadau hyn isod; byddai’n wych eich gweld chi yn un ohonynt.
Mewn person:
- Dydd Mawrth 11 Tachwedd – Y Fenni (Canolfan Mihangel Sant, Y Fenni, 10A Pen-y-Pound, Y Fenni, Cymru, NP7 5UD) 10:30am -12:30pm
- Dydd Mercher 19 Tachwedd – Trefynwy (Canolfan Bridges, Parc Drybridge, Trefynwy. NP25 5AS) 12:00 hanner dydd – 2:00pm
- Dydd Mawrth 2 Rhagfyr – Cas-gwent (Canolfan Gymunedol Bulwark (Laburnum Way, Cas-gwent, Cymru, NP16 5RF) 6:00pm – 8:00pm
- Dydd Mawrth 9 Rhagfyr – Cil-y-coed (Tîm Tref Cil-y-coed, Neuadd CORE, 41 Ffordd Casnewydd, Cil-y-coed. NP26 4BG) 10:30am - 12:30pm
Ar-lein:
- Dydd Llun 24 Tachwedd - TEAMS 6:00pm – 8:00pm
*Mae’r lleoedd yn gyfyngedig ym mhob digwyddiad. Os ydyn ni’n cael ymateb da i'r digwyddiadau hyn, byddwn yn archwilio dyddiadau ychwanegol, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fynegi eu barn am lunio siâp y gwasanaethau ar gyfer y plant yr ydyn ni'n eu gwasanaethu.
Sut i Gofrestru
I gofrestru ar gyfer digwyddiad, cysylltwch â Krys Wilson naill ai trwy e-bost - KrysWilson@Monmouthshire.gov.uk neu dros y ffôn ar 01633 745181, gan nodi pa ddigwyddiad yr hoffech ddod iddo.