Beth sy'n digwydd ar ôl cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb

    Ar ôl i chi gyflwyno eich Mynegiant o Ddiddordeb: 

    • Bydd eich cynnig yn cael ei adolygu i gadarnhau cymhwysedd sylfaenol ac addasrwydd strategol 
    • Bydd y Cyngor yn ystyried a yw'ch prosiect yn cyd-fynd orau â Grant GrowthSpace neu'r Grant Gwella Eiddo Canol Trefi 
    • Cysylltir â chi gydag un o'r canlyniadau canlynol: 
      1. gwahoddiad i gyflwyno cais llawn, gyda chanllawiau ar y camau nesaf 
      2. cais am eglurhad neu fireinio pellach
      3. cadarnhad nad yw'r prosiect yn gymwys neu'n addas ar hyn o bryd