Pam mae angen croesfan ym Mhwllmeurig?

    Mae angen i bobl sy'n byw ym Matharn a Phwllmeurig groesi'r A48 i gyrraedd:

    • Ysgol, gwaith, siopau a gwasanaethau yng Nghas-gwent
    • Gwasanaethau bws (73, 74, X74, T7)

    Rhwng Pwllmeurig a Chas-gwent, mae'r droedffordd ar ochr ogleddol yr A48. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bobl sy'n cerdded o'r ochr ddeheuol groesi'r heol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy'n byw i'r de o'r A48 ym Mhwllmeurig a Matharn. Mae'r amodau presennol yn golygu ei bod hi’n anodd croesi oherwydd:

    • Mae tua 12,000 o gerbydau'r dydd yn teithio trwy'r ardal hon
    • Mae cyflymderau yn aml yn gyflymach  na'r terfyn 30 m.y.a.
    • Mae'r ffordd yn cynnwys mannau sy’n codi ac yn disgyn, troeon a dreifiau sy'n effeithio ar y gallu i weld yn glir
    • Mae sawl gwrthdrawiad wedi digwydd yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf
    • Nid oes croesfan hygyrch a phwrpasol ar draws yr A48 ym Mhwllmeurig

    Bwriad y groesfan arfaethedig yw sicrhau bod cerdded yn opsiwn mwy diogel a mwy realistig ar gyfer teithiau bob dydd.

    Pa astudiaethau gafodd eu cynnal i baratoi'r cynnig hwn?

    Er mwyn sicrhau bod y cynnig yn ddiogel ac yn gyfiawn, cwblhawyd yr asesiadau canlynol:

    • Cyfri nifer y cerddwyr a beicwyr – gweler adran 10 isod
    • Arolygon cyfaint traffig a chyflymder – gweler adran 11., isod
    • Asesiadau peirianneg ar y safle: Mannau ble mae’r heol yn codi a disgyn, troeon, llinellau gweld, lled llwybrau troed, ffyrdd ymyl a dreifiau, safleoedd bws, lle i offer fel signalau

    Fe wnaeth y rhain helpu i ddiystyru lleoliadau anniogel a nodi’r lle mwyaf diogel i osod croesfan.

    Pam mae lleoliad y groesfan arfaethedig ar ochr ddwyreiniol Pwllmeurig?

    Mae lleoliad y groesfan a argymhellir ar yr A48 ar ochr ddwyreiniol Pwllmeurig, ychydig i'r gorllewin o Heol Bayfield/ Heol Tŷ Mounton, fel y dangosir yn niagram yr ymgynghoriad.

    Dewiswyd y lleoliad hwn oherwydd:

    • Dyma’r lleoliad mwyaf diogel sydd agosaf at lwybrau cerdded y mwyafrif o bobl 
    • Mae’n bodoli’r pellteroedd angenrheidiol o ran galluogi cerbydau sy’n teithio ar gyflymderau a gafodd eu monitro i weld yn glir/neu’n mae'n rhagori ar eu gallu i weld yn glir
    • Mae cerbydau sy’n dod o gyfeiriad Cas-gwent ar ran o’r heol sy’n fwy gwastad felly’n gwella diogelwch o ran stopio
    • Mae cerbydau sy’n dod i fyny’r rhiw i mewn i Bwllmeurig yn arafu’n naturiol
    • Mae’n osgoi’r man serth sy’n codi a’r cynnydd ym momentwm y traffig ymhellach i gyfeiriad y gorllewin 
    • Mae’n cadw mynediad i ddreifiau

    Pam gafodd rhai lleoliadau croesi eu gwrthod?

    Canol (rhwng ochr deheuol a gorllewinol Pwllmeurig)

    Gwrthodwyd y safle oherwydd:

    • Mae’r rhan serth yn cynyddu pellter brecio a’r perygl o lithro
    • Byddai’r groesfan yn anodd ei lleoli heb rwystro mynediad
    • Ni fyddai gosod croesfan yn y fan hon yn bodloni’r safonau angenrheidiol o ran gwelededd

    I’r de o Lôn y Capel (tuag at Badgers Meadow)

    Gwrthodwyd y safle oherwydd:

    • Mae pellteroedd stopio yn llai ffafriol oherwydd momentwm cerbydau
    • Nid yw’n bodloni llwybr y bobl sy’n cerdded o Fatharn drwy Lôn y Capel: Mae pobl yn llai tebygol o ddefnyddio’r groesfan os oes angen iddynt ddyblu nôl
    • Mae rhai pobl yn croesi’r ffordd yn y fan hon yn barod am eu bod, yn ôl pob sôn, yn ei chael hi’n haws dod i hyd i fwlch yn y traffig. Bydd hyn yn debygol o beidio â newid os yw croesfan â signal yn cael ei gosod rhywle arall i wasanaethu llwybrau eraill.

    Ochr orllewinol A48 Pwllmeurig, ger Nant Mounton

    Gwrthodwyd y safle oherwydd:

    • Mae e’n bellach o lawer o’r man ble mae’r mwyafrif yn cerdded 

    Ger diwedd y ‘dalgylch cerddwyr’ ble byddech yn gweld y nifer lleiaf o gerddwyr i ddenu mwy ar eu teithiau ee i’r gwaith, ysgol, siopau a gwasanaethau 

    Pam mae croesfan sy’n cael ei rheoli gan signalau (Pâl) yn cael ei hargymell?

    Yn seiliedig ar yr holl arolygon, yr asesiadau a gynhaliwyd ar gyfer y safle ac ystyriaethau o ran diogelwch, argymhellodd y tîm dylunio, groesfan a reolir gan signalau Pelican neu Bâl ar ochr ddwyreiniol Pwllmeurig. Gweler adran 11., isod, am grynodeb o opsiynau dylunio’r groesfan. Cynigir croesfan Pâl oherwydd ei thechnoleg synhwyro ymatebol. Mae'r fath ymateb yn gwella hygyrchedd i bobl sy'n cerdded ac yn olwynio, ac yn lliniaru oedi diangen i gerbydau.

    • Mae cyfeintiau a chyflymder traffig yn fwy na'r trothwy ar gyfer croesfan sebra
    • Mae croesfan a reolir gan signal yn gorfodi traffig i stopio, sy'n golygu bod yn rhaid i yrwyr ildio i bobl sy'n croesi
    • Gall synwyryddion (ar gyfer croesfannau pâl) helpu cerddwyr arafach, gan gynnwys plant neu oedolion hŷn

    A fydd y groesfan yn achosi tagfeydd?

    Mae'r groesfan arfaethedig ar ddarn o ffordd y mae traffig yn llifo trwodd yn bennaf. Mae tagfeydd traffig yng nghylchfan High Beech, Ffordd Gyswllt Dyffryn Gwy a Chas-gwent yn cael ei gydnabod  yn eang ac mae'n hysbys eu bod yn effeithio ar Bwllmeurig. Mae'r groesfan arfaethedig ym Mhwllmeurig yn bell o High Beech.                                              Mae’r peirianwyr yn disgwyl:

    • Ychydig iawn o effaith ar dagfeydd ehangach Cas-gwent
    • Dim ciwiau sylweddol                     
    • Gwell diogelwch i gerddwyr hyd yn oed yn ystod oriau brig, pan fydd risg fel arall y bydd pobl yn croesi rhwng traffig sydd ar stop mewn un lôn ond yn symud yn y llall

    A fydd y groesfan yn hygyrch i bobl anabl?

    Bydd. Ar hyn o bryd, nid oes ffordd hygyrch o groesi'r A48 ym Mhwllmeurig, sy'n golygu bod croesi fel y mynnoch yn anoddach os oes gennych anghenion hygyrchedd. Bydd y groesfan Pâl hon yn golygu y bydd modd croesi’r heol mewn ffordd fwy hygyrch. Bydd hygyrchedd y groesfan ar ffordd ymyl Heol Bayfield Road/Tŷ Mounton hefyd yn gwella, yn rhan o’r gwaith i osod y groesfan

    Bydd y groesfan yn cynnwys:

    • Palmentydd cyffyrddol a chyrbau is
    • Botymau cyffyrddol sy’n cylchdroi ar y botwm gwthio - mae hwn bellach yn fecanwaith signal ychwanegol sy’n safonol, i bobl â nam ar eu golwg
    • Mae croesfannau pâl yn synhwyro cerddwyr ar y groesfan ac yn ymestyn y cyfnod golau gwyrdd os oes angen mwy o amser arnoch i groesi. 
    • Signal clywadwy os cynghorir: Yn ystod y cyfnod dylunio manwl, bydd asesiad yn cael ei gwblhau i weld a fydd bipiau clywadwy yn briodol. Os caiff ei gynnwys, bydd y bipiau yn swnio pan fydd y botwm croesi yn cael ei wasgu, h.y. ar adegau pan fydd llif y cerbydau yn uchel. 

    Sut bydd yr heol a'r palmentydd yn newid?

    Mae'r llun yn dangos y bydd sawl newid i'r heol a'r palmant cyfagos yn rhan o’r elfennau i osod y groesfan.

    • Bydd mannau yn cael eu hymestyn ger y groesfan i gynyddu lled y droedffordd fel y dangosir yn y llun. Mae'r dyluniad hwn yn caniatáu i bobl gael eu gweld yn well pan fyddant yn sefyll i groesi, a bydd mwy o le i bobl aros.  Bydd yr heol yn cael ei chulhau wrth y groesfan o ganlyniad, felly bydd yr heol ger y groesfan yn 6.4 metr o led o balmant i balmant (3.2m fydd lled y lonydd). Mae hyn yn bodloni'r Safonau Priffyrdd cyfredol i sicrhau bod lle i gerbydau modern basio. 
    • Bydd cyffordd Heol Bayfield/Tŷ Mounton a'r groesfan ffordd ymyl yn cael eu diweddaru fel y dangosir yn y llun. Bydd cyrbau’r gyffordd yn cael eu hymestyn i greu cyrbau is a phalmentydd cyffyrddol. Ar hyn o bryd, mae'r droedffordd yn culhau oherwydd y safle bws. Bydd yr addasiad yn golygu nad oes angen i bobl sy'n croesi, gerdded mor bell yn y ffordd gerbydau a bydd modd gwahaniaethu rhwng sŵn y ffordd ymyl â’r traffig ar y brif ffordd, a bydd mwy o le i sefyll y tu allan i'r safle bws muriog os ydych chi'n aros am y bws. Cedwir unrhyw fynediad i ddreifiau.
    • Bydd arwyneb ffrithiant uchel yn cael ei ddefnyddio i leihau pellteroedd brecio hyd yn oed mewn amodau gwlyb. Bydd yr arwyneb a'r llinellau igam-ogam yn cael eu defnyddio ar yr A48 fel y dangosir yn y llun, fel rhan o waith gosod y groesfan.
    • Bydd y signalau croesi (h.y. goleuadau traffig), pyst a llinellau, yn dangos i yrwyr eu bod yn agosáu at groesfan

    Cyfrif y bobl sy'n cerdded ar hyd yr A48 ac yn croesi'r A48 ym Mhwllmeurig

    Cafwyd data cerddwyr ar yr A48 Pwllmeurig drwy fideo, o gamerâu a osodwyd mewn dwy orsaf gyfrif. Fe wnaeth y camerâu fesur 7 diwrnod o symudiadau cerddwyr rhwng 7am a 7pm bob dydd rhwng dydd Mercher 5 Tachwedd a dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025 (tymor ysgol). Roedd y tywydd yn fwyn gyda chyfnodau o law mân ysbeidiol.

    O'r data a gasglwyd o’r ddau safle, nodwyd bod cerddwyr yn ymddangos yn achlysurol heb unrhyw amserau symud na phatrymau penodol. Roedd y rhan fwyaf o bobl a gyfrifwyd yn oedolion. Pedwar o blant yn unig gafodd eu nodi.

    Cyfri’r bobl a gerddodd ger..:

    Gorsaf Gyfrif 1 (Dwyrain)  - Cyfartaledd 22 y dydd

    Gorsaf Gyfrif 2 (Gorllewin) -  Cyfartaledd 19 y dydd

    Cafodd nifer y bobl sy'n seiclo heibio ei gyfrif hefyd. Ar gyfartaledd, fe aeth 11 beic heibio gorsaf gyfrif y dwyrain bob dydd, ac ar gyfartaledd aeth 8 beic heibio gorsaf gyfrif y gorllewin bob dydd.

    Gorsaf Gyfrif 1 (Dwyrain)  

    Gorsaf Gyfrif 2 (Gorllewin)


    Cyfri’r cerbydau ar yr A48

    Cwblhawyd arolwg wythnos o hyd i ganfod cyflymder a’r math o gerbydau at ddibenion y prosiect hwn. Mae'r cyfaint y traffig ar hyn o bryd a’i gyflymder yn y pentref yn awgrymu bod angen croesfan i gefnogi teithiau ar droed ym Mhwllmeurig.

     

    Gorsaf gyfrif 1 Dwyrain Pwllmeurig 

    • Cyfaint y traffig dyddiol ar gyfartaledd: 13,188 o gerbydau y dydd 
    • Roedd 8.1% o'r rheini yn gerbydau nwyddau
    • Tua'r dwyrain: Cyflymder ar gyfartaledd: 29.8 mya, cyflymder 85 canradd 34.5 mya
    • Tua'r gorllewin: Cyflymder ar gyfartaledd: 30.5 mya, cyflymder 85 canradd 35.4 mya

     

    Gorsaf gyfrif 2 Gorllewin Pwllmeurig 

    • Cyfaint y traffig dyddiol ar gyfartaledd: 11,794 o gerbydau y dydd
    • Roedd 8.8% o’r rhain yn gerbydau nwyddau
    • Tua'r dwyrain: Cyflymder ar gyfartaledd: 30.4 mya, cyflymder 85 canradd 34.4 mya
    • Tua'r gorllewin: Cyflymder ar gyfartaledd: 30.4 mya, cyflymder 85 canradd 34.5 mya

     

    Ar ôl astudio nifer y cerddwyr a cherbydau, mae'r groesfan wedi'i lleoli i fodloni canllawiau o ran gwelededd a phellteroedd stopio, yn seiliedig ar gyflymder traffig sy’n hysbys a thopograffeg y safle. Ar y safle a argymhellir ym mhen dwyreiniol Pwllmeurig, gwelwyd bod y pellteroedd gwelededd dymunol yn fwy na'r cyflymder 85 canradd, hy, roedd y pellter gwelededd ar y safle a argymhellir ar gyfer y groesfan yn fwy na digon o ystyried y cyflymderau gwirioneddol ar y ffordd fel y cofnodwyd uchod. 

    Pa fathau o groesfannau gafodd eu hystyried?

    Cafodd tair math o groesfan eu hadolygu:

    Croesfan Sebra

    • Costau is ac yn hawdd ei defnyddio
    • Rhaid i yrwyr ildio heb signal pan fydd pobl eisiau croesi
    • Nid yw’n addas yma oherwydd bod mwy o draffig na argymhellir ar gyfer croesfan sebra, yn llifo ar yr A48

    Croesfan pelican

    • Gweithio drwy wthio botwm. Dangos y dyn coch/gwyrdd safonol ar frig y signal
    • Mae’n cynnwys cyfnod ambr sy'n fflachio ym mhob cylch

    Croesfan pâl

    • Gweithio drwy wthio botwm. Dangos y dyn coch/gwyrdd safonol ar uchder y botwm gwthio
    • Defnyddio synwyryddion i ganfod a oes angen mwy o amser ar rywun i groesi; ymestyn yr amser croesi / golau coch i yrwyr a bod angen – mae hwn yn elfen ymatebol yn lle’r cyfnod ambr sy'n fflachio
    • Costau gosod uwch

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â'r cynigion, cysylltwch ar ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk