Beth yw'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol / MRhTLl?

    Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) yn ddull cynllunio strategol a orchmynnir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n nodi llwybrau cerdded, beicio ac olwynio presennol a’r rhai arfaethedig. Mae mapio'r rhwydwaith ar y MRhTLl yn galluogi awdurdodau lleol i ddiogelu llwybrau sydd eisoes yn bodoli a llwybrau’r dyfodol, a gwneud cais am gyllid i wella llwybrau

    Mae'r MRhTLl yn gwahaniaethu rhwng 'Llwybrau Presennol' a 'Llwybrau’r Dyfodol', er mwyn dangos i ba ran o'r rhwydwaith yr archwiliwyd iddo eisoes, a pha lwybrau sydd eu hangen ond nad ydynt ar waith, neu heb gyrraedd y safonau a nodir gan Lywodraeth Cymru yng Nghanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol.

    Mae'r MRhTLl yn helpu i flaenoriaethu, dylunio a gweithredu llwybrau hygyrch gwell o ran cerdded, olwynio a beicio. Mae'n cefnogi’r gwaith o ddatblygu rhwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy. Mae'r map a’r cam i flaenoriaethu llwybrau ar y map, yn golygu bod modd datblygu, gwella a diogelu llwybrau. Mae nodi llwybrau yn galluogi iddynt ddenu cyllid ar gyfer datblygu ac adeiladu, neu gael eu hystyried mewn datblygiadau lleol (neu’n amod sy’n rhan o’r datblygiadau), gyda'r nod o gefnogi teithio llesol a chynaliadwy ar draws cymunedau yng Nghymru.

    Sut mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn cael ei ddatblygu?

    Tîm Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy sy’n datblygu’r MRhTLl, ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu â phobl, grwpiau rhanddeiliaid, rhanddeiliaid statudol a chynrychiolwyr etholedig. Mae'r tîm teithio llesol wedi bod wrthi’n mapio rhwydwaith o lwybrau sy'n cysylltu’r mannau lle mae pobl yn byw â mannau sy’n denu teithiau fel ysgolion a lleoliadau trafnidiaeth gyhoeddus.

    Cafodd y MRhTLl ei ddatblygu, ei adolygu a'i fireinio trwy archwilio ardaloedd a llwybrau, mapio tarddiad teithiau a chyrchfannau (cartrefi a ‘mannau sy’n denu teithiau’) ac, yn bwysicaf oll, yn dilyn ymgynghoriadau. Mae ymgynghoriadau yn gofyn i chi, fel aelodau'r cyhoedd, rhanddeiliaid a chynrychiolwyr cyhoeddus, gynnig sylwadau ar y diweddariad arfaethedig i'r MRhTLl. Byddwn yn defnyddio eich sylwadau i wirio’r llwybrau a chwmpas y rhwydwaith. Byddwn ni'n diweddaru’r hyn rydyn ni’n ei ddeall am broblemau o ran y llwybrau a chysylltedd, ac ymateb i newidiadau yn y tueddiadau yn yr ardal / symudiadau lleol ers yr ymgynghoriad blaenorol. Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae'r tîm Teithio Llesol yn adolygu'r adborth ac yn diweddaru'r map yn unol â hynny

    Ble alla i weld y Map Rhwydwaith Teithio Llesol?

    Gallwch weld y fersiwn ddiweddaraf o'r MRhTLl yn neunyddiau Ymgynghoriad 2026 (h.y. pan fyddwch chi'n llenwi'r arolwg ymgynghori). I weld y MRhTLl a gymeradwywyd yn 2022, ewch i Active Travel Network Maps | DataMapWales neu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol | MapDataCymru 

    Mae Map Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru yn cael ei ddiweddaru gan Awdurdodau Lleol, wrth i lwybrau gael eu datblygu, eu harchwilio/ail-archwilio neu eu newid. Mae'r map diwygiedig yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo bob ychydig flynyddoedd, a hynny ar gais Llywodraeth Cymru. Cymeradwywyd MRhTLl Sir Fynwy gan Weinidogion Cymru yn 2022, ar ôl ymgynghori’n helaeth â'r cyhoedd a rhanddeiliaid am y map arfaethedig yn 2020-21.

    Ers 2021, gwnaed diweddariadau dros dro i'r MRhTLl oherwydd newidiadau i'r seilwaith, y Cynllun Datblygu Lleol a datblygu lleol. Mae'r map sy’n destun ymgynghoriad, yn dangos y newidiadau dros dro, y bydd angen eu diweddaru drwy'r ymgynghoriad hwn, cyn iddo gael ei anfon at Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.

    Beth yw 'Teithio Llesol'?

    Mae 'teithio llesol' (neu TLl yn fyr) yn cyfeirio at deithiau dyddiol, pwrpasol, fel cymudo, teithiau i’r ysgol neu i’r siopau lleol, a hynny mewn ffyrdd corfforol, egnïol. Mae'n cynnwys cerdded, beicio, ac 'olwynio' yn bennaf (gan ddefnyddio cadeiriau olwyn neu gymhorthion symudedd), yn ogystal â mynd ar gefn sgwter.

    Mae beicio yn cynnwys teithio ar feic, beic wedi ei addasu (treic, ac ati), beic nwyddau ac e-feiciau.

    Nid yw'n cynnwys beiciau sy'n cael eu hystyried yn feiciau modur yn ôl y gyfraith (y rhai sy'n cael eu rheoli gan sbardun/throtl neu gyda chymorth injan sy’n uwch na 15.5mya) ac e-sgwteri.

    Beth yw 'llwybr Teithio Llesol', o ran y MRhTLl?

    O ran Map Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Fynwy (MRhTLl), mae llwybr Teithio Llesol yn llwybr a nodwyd sy'n rhan o rwydwaith o lwybrau Teithio Llesol craidd. Mae'r rhain wedi'u mapio ar y MRhTLl, er mwyn cynllunio’r gwaith o adeiladu prif lwybrau, eu gwella a’u diogelu. 

    Gellir teithio’n llesol (cerdded, olwynio neu feicio) ar lawer o droedffyrdd, llwybrau beicio, llwybrau a rennir, llwybrau troed neu strydoedd. Mae’r rhwydwaith o lwybrau sydd wedi'u mapio ar y MRhTLl yn canolbwyntio’n benodol ar lwybrau craidd sydd wedi eu nodi fel rhai sy’n cefnogi teithiau pwrpasol mewn cymunedau, fel teithiau bob dydd i’r gwaith, i’r ysgol, i’r siopau a gwasanaethau, ac arosfannau trafnidiaeth gyhoeddus. 

    Gall llwybrau Teithio Llesol gyd-fynd â'r Briffordd bresennol, ond nid oes rhaid iddynt: Gall y MRhTLl ddangos llwybr sydd ei angen ond nad yw’n bodoli eto, neu un y byddai ei angen yn y dyfodol fel rhan o ddatblygiad arfaethedig, fel y rhai yn y safleoedd Adnau a nodwyd yng Nghynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Fynwy. 

    Mae'r map yn dangos llwybrau sydd wedi llwyddo mewn 'archwiliad Teithio Llesol' fel ‘Llwybr Presennol’ a’r rheini a fethodd yr archwiliad neu’r rhai nad oes modd eu harchwilio eto, hy y rhai sydd angen eu datblygu neu eu gwella fel ‘Llwybr yn y dyfodol’.


    Beth sydd ddim yn cyfri fel llwybr ‘Teithio Llesol’ yn nhermau’r MRhTLl?

    Mae'r diffiniad o Lwybr Teithio Llesol yn eithrio'r rhai a ddefnyddir ar gyfer hamdden yn unig, fel cylched oddi ar y ffordd neu lwybr beicio mynydd. Gall gwelliannau i lwybrau Teithio Llesol gefnogi elfennau hamdden, ond rhoddir y flaenoriaeth i gefnogi teithiau 'pwrpasol' i gyrchfannau.

    Nid yw pob troedffordd, llwybr a llwybr beicio presennol wedi'i fapio ar y MRhTLl, er y gallwch eu defnyddio ar gyfer teithio llesol. Mae hyn yn wir am mai pwrpas y MRhTLl yw nodi llwybrau Teithio Llesol craidd, i ganolbwyntio ar lwybrau a all fod o’r budd mwyaf trwy eu gwella neu eu hadeiladu a'u diogelu.


    Beth yw'r gwahaniaeth rhwng rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus (PROW) a Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM)?

    Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) yn nodi rhwydwaith o lwybrau o bwys i deithio llesol - y term a ddefnyddir i ddisgrifio cerddedgyrru ar olwynion a beicio ar gyfer teithiau pwrpasol. Mae rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus (PROW) wedi'i fapio ar gyfer defnyddiau eraill gan gynnwys hamdden a mynediad. Gall yr un llwybrau fod yn rhwydwaith yr ATNM a'r PROW. Lle defnyddir llwybrau ar gyfer teithiau hamdden a phwrpasolbydd yn rhaid i gynlluniau i wella'r llwybr ystyried anghenion yr amrywiaeth o ddefnyddiau.