Holi a Ateb: Ymgynghoriad MRhTLl Sir Fynwy
- Yn eich barn chi, a oes unrhyw lwybrau a ddangosir yn MRhTLl Sir Fynwy y dylid eu dileu, neu eu haddasu ar gyfer cerdded, olwynio, neu feicio? Er enghraifft, a ddylai llwybr ddilyn stryd wahanol, neu ddechrau / gorffen mewn man gwahanol.
- Beth fyddai'n gwneud llwybr penodol yn well o ran cerdded, olwynio, neu feicio? Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu syniadau eraill ar gyfer y llwybr hwn? Gallai’r awgrymiadau gynnwys lled y llwybr a’i arwyneb, cyrbau is, llwybr sy’n hawdd ei ddefnyddio ar olwynion; goleuadau, croesfannau a mannau fel y gellir gweld yn glir, clirio llystyfiant, tawelu traffig, arwyddion ffordd, seddau a raciau i feiciau, ac ati.
Beth yw'r ymgynghoriad MRhTLl?
Diben ymgynghoriad y Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) yw canfod a, lle bo angen, newid llwybrau sydd wedi'u mapio ar MRhTLl Sir Fynwy.
Byddwn yn defnyddio'ch sylwadau i weld a ydyn wedi mapio rhwydwaith o lwybrau digonol i'ch tywys i’r lleoedd y mae angen i chi eu cyrraedd. Rydym am ganfod a oes unrhyw lwybrau ar goll y dylid eu cynnwys, a oes problem gyda llwybr neu’r rhan o'r rhwydwaith, neu os oes gennych sylwadau am y llwybrau hyn.
Am beth ddylwn i gynnig sylwadau?
Byddai'n ddefnyddiol pe bai chi’n cynnig sylwadau am y llwybrau sydd wedi'u mapio; awgrymu gwelliannau i lwybrau, a/neu ddweud wrthym a oes angen llwybr ychwanegol yn eich barn chi.
Yn eich barn chi, a oes unrhyw gyrchfannau neu deithiau allweddol yn Sir Fynwy y mae angen iddynt gael eu cysylltu’n well neu y mae angen iddynt fod yn fwy hygyrch ar droed, ar olwynion neu ar feic?
Beth yw’r canlyniad a fwriedir yn dilyn yr ymgynghoriad?
Bydd adborth yn dilyn yr ymgynghoriad yn helpu tîm Teithio Llesol CSF i gasglu tystiolaeth am y llwybrau a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r MRhTLl. Gall y newidiadau hyn gynnwys ychwanegu neu ddileu llwybrau neu ailgyfeirio llwybr, ee i ddilyn llwybr dymunol cydnabyddedig neu i osgoi topograffeg niweidiol. Os yw llwybr ar y map, gellir dod o hyd i gyllid er mwyn helpu i’w ddatblygu/uwchraddio. Os nad yw llwybr ar y map ar ôl i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo, ni fydd cyllid ar gael i wneud gwelliannau teithio llesol tan fod y map yn cael ei ddiweddaru eto.
Pam mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal nawr?
Mae ymgynghoriad MRhTLl yn rhan o'r Ddeddf Teithio Llesol ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddiweddaru eu mapiau i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru i helpu i ddangos cynnydd yn ogystal â gwaith yn y dyfodol. Mae'r diweddariadau hyn yn digwydd bob ychydig flynyddoedd ac am fod yr ymgynghoriad diwethaf yn 2020, a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r MRhTLl yn 2021, mae'n bryd eu diweddaru eto.
Pryd fydd yr ymgynghoriad nesaf yn cael ei gynnal?
Dylid ail-ymgynghori bob pum mlynedd. Bydd diweddariadau dros dro i'r MRhTLl yn cael eu gwneud pan fydd llwybrau yn cael eu datblygu neu pan fydd unrhyw newidiadau eraill yn mynd rhagddynt, i baratoi'r cylch nesaf o'r map ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.