Beth fydd yn digwydd gyda fy ymateb i'r ymgynghoriad?

    Bydd y tîm Teithio Llesol yn defnyddio'ch ymatebion i wneud newidiadau i'r map teithio llesol lle bo angen.

    Beth fydd yn digwydd o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn?

    Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi'i gwblhau a'r MRhTLl yn cael ei ddiweddaru, mi fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. Ar ôl ei gymeradwyo, bydd y llwybrau yn cael eu blaenoriaethu i helpu i nodi'r llwybrau hynny a allai gael yr effaith fwyaf. Gall Cyngor Sir Fynwy ddefnyddio'r MRhTLl i wneud cais am gyllid cenedlaethol a rhanbarthol i ddatblygu'r llwybrau a nodwyd. Os nad yw llwybr ar y MRhTLl, ni fydd cyllid ar gael i greu gwelliannau teithio llesol.

    A ydw i’n cael ymateb mwy nag unwaith i'r ymgynghoriad?

    Ydych. Gallwch gyflwyno cymaint o ymatebion ag y dymunwch.

    Pam mae'r llwybrau sydd wedi'u mapio wedi newid ers yr ymgynghoriad blaenorol?

    Mae nifer o resymau pam mae'r map wedi newid ers yr ymgynghoriad blaenorol. Gall fod oherwydd bod y llwybr wedi'i ail-alinio, ei adeiladu neu ei wella, ei ddileu oherwydd bod newid yn y Cynllun Adnau lleol, neu oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn anymarferol ar ôl ymchwiliad. Efallai bod llwybr wedi newid o 'Lwybr yn y Dyfodol' i 'Lwybr Presennol' neu i'r gwrthwyneb, ar ôl archwiliad, i ganfod a yw’n bodloni’r safonau a nodir yng Nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol. Mae'r safonau hyn wedi'u diweddaru ers datblygu'r Map Rhwydwaith Integredig cyntaf. 

    Efallai bod llwybrau wedi'u hychwanegu at y MRhTLl. Mae'n bosib bod llwybrau wedi cael eu hail-alinio, eu symud a’u newid yn dilyn gwybodaeth newydd. 

    Efallai bod llwybrau wedi cael eu dileu o'r MRhTLl os ydynt wedi'u nodi fel rhai nad ydynt yn angenrheidiol, neu rhai nad ydynt yn bosibl, neu rhai sydd wedi'u disodli.


    Sut ydw i'n llenwi’r arolwg?

    Y ffordd hawsaf yw mynd i wefan Sgwrsio am Sir Fynwy, a nodi’r sylwadau ar-lein. Yn syml, rhowch bin ar y map yn y lleoliad rydych chi am sôn amdano, ysgrifennwch eich sylwadau, ateb ambell i gwestiwn a'i anfon. Mae'r wefan yn rhoi'r holl gyfarwyddiadau sydd eu hangen arnoch. Fel arall, gallwch siarad ag un o'r tîm Teithio Llesol yn un o'r ymgynghoriadau 'galw heibio' ledled y sir. Mae rhestr o ddyddiadau a lleoliadau ar gael yma.

    Beth os na allaf lenwi’r arolwg ar-lein?

    Bydd nifer o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb o amgylch Sir Fynwy lle byddwch yn gallu galw heibio a gadael eich sylwadau. Mae rhestr o ddyddiadau a lleoliadau ar gael yma.

    Os oes angen darparu’n benodol ar eich cyfer, cysylltwch â'r tîm Teithio Llesol drwy anfon-bost i activetravel@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644644


    A fydd rhywun yn cysylltu â mi ar ôl i mi ymateb?

    Na. Ni fydd unrhyw un yn cysylltu â chi yn awtomatig os byddwch yn cynnig sylwadau gan fod ymatebion yn cael eu cadw'n ddienw. Os hoffech gael ymateb uniongyrchol i'ch sylw, cysylltwch â'r tîm Teithio Llesol yn uniongyrchol drwy anfon e-bost i  activetravel@monmouthshire.gov.uk 

    Cyflwynais sylwadau am yr ymgynghoriad MRhTLl diwethaf: A fydd y rhain yn dal i fod yn ddilys?

    Defnyddiwyd eich sylwadau blaenorol i lunio MRhTLl Sir Fynwy. Rhowch sylwadau am y diweddariad newydd a fwriedir i'r MRhTLl, a fydd yn disodli'r map blaenorol.

    Does dim byd wedi digwydd i'r llwybr y gwnes i gynnig sylwadau amdano y tro diwethaf: Pam ddylwn i gynnig sylwadau eto?

    Croesewir unrhyw sylwadau gan ei fod yn helpu'r tîm Teithio Llesol i ddiweddaru’r hyn rydyn ni’n ei ddeall am ba lwybrau sydd eu hangen a ble. 

    Mae tua 400 o lwybrau teithio llesol yn bodoli neu wedi eu nodi ar gyfer y dyfodol ledled Sir Fynwy, ac mae angen lefel penodol o waith neu gyllid ar bob un ohonynt. Mae'r llwybrau sydd â'r potensial i gael yr effaith fwyaf wedi cael eu blaenoriaethu a'u hariannu, sy'n golygu bod llawer o lwybrau yn dal i aros am welliannau.

    Os gwnaethoch gynnig sylwadau am y MRhTLl blaenorol, fe wnaethoch helpu i lunio MRhTLl Sir Fynwy. Ers yr ymgynghoriad blaenorol, mae'r MRhTLl hwn wedi'i ddiweddaru unwaith eto i adlewyrchu’r hyn sydd wedi newid yn y cyfamser.

    Bydd y diweddariad arfaethedig i MRhTLl Sir Fynwy yn disodli ein MRhTLl blaenorol – Rhowch sylwadau am y map arfaethedig i sicrhau ein bod yn deall y sefyllfa bresennol ac yn blaenoriaethu gwelliannau yn unol â hynny.