Llwybrau – Llwybrau wedi'u mapio, a llwybrau sydd ar goll o'r map
Llwybrau presennol - Beth yw 'Llwybr Presennol' ar y MRhTLl
Mae 'Llwybr Presennol' ar y MRhTLl yn un sydd wedi'i archwilio'n bersonol ac wedi cyflawni sgôr o 70% neu uwch, sy'n golygu ei fod yn bodloni 'safonau Teithio Llesol' yn ôl y Canllawiau Teithio Llesol a'i offeryn archwilio. Mae 'llwybrau sy’n bodoli ' eisoes yn bodloni safonau teithio llesol Llywodraeth Cymru, sy'n golygu y gellir eu defnyddio'n barod ar gyfer teithiau bob dydd.
Llwybrau’r dyfodol – Beth yw 'Llwybr y Dyfodol' ar y MRhTLl
Mae 'Llwybr y Dyfodol' ar y MRhTLl yn llwybr nad yw wedi'i greu eto, neu mae’n un sydd angen ei wella i lwyddo mewn archwiliad Teithio Llesol. Mae'r llwybrau hyn yn rhai y mae Sir Fynwy yn cydnabod bod angen eu creu neu eu gwella er mwyn cyrraedd y safon.
Beth os nad yw’r llwybr yr wyf am gynnig sylwadau amdano ar y map?
Os ydych chi'n meddwl bod llwybr ar goll, rhowch bin ar y map yn y lleoliad cywir, rhowch yr union leoliadau a disgrifiad manwl o'r llwybr fel y gall y tîm Teithio Llesol ymchwilio iddo ac addasu'r map rhwydwaith os oes angen.
Gair i’ch atgoffa, bod yn rhaid i unrhyw lwybrau a awgrymir fod yn rhai sy’n cael eu defnyddio at ddibenion Teithio Llesol ac nid am resymau hamdden yn unig.
Beth yw Llwybr Teithio Llesol safonol?
Mae llwybr Teithio Llesol safonol yn un sy'n bodloni'r gofynion safonol a osodir gan Ganllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol. Gellir plotio llwybrau ar y MRhTLl fel rhai 'Presennol' pan fyddant yn cael sgôr o 70% yn dilyn archwiliad personol, gan ddefnyddio'r offeryn archwilio Teithio Llesol yng Nghanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol.
Nod yr archwiliad yw sicrhau dull cyson o asesu llwybrau teithio llesol ledled Cymru. Mae'r archwiliad yn ystyried dangosyddion sy'n cyfrannu at bum egwyddor allweddol llwybr teithio llesol (cysur, diogelwch, pa mor uniongyrchol yw’r llwybr, a pha mor gydlynol ac atyniadol ydyw). Mae dau bwrpas i’r archwiliad:
• Asesu llwybr arfaethedig.
• Asesu dyluniad llwybr fel rhan o broses ddylunio llwybr.
Mae'r archwiliad cerdded ac olwynio yn cael ei farcio allan o 20 dangosydd, a’r elfen feicio allan o 25 dangosydd. Mae pob dangosydd yn cael sgôr o uchafswm o 2 bwynt. Mae hyd at 40 pwynt ar gael ar gyfer llwybrau cerdded ac olwynio, a 50 pwynt ar gael ar gyfer llwybr beicio. Mae'r sgoriau hyn yn cael eu trosi i ganrannau i ganfod a yw llwybr yn 'llwyddo' neu’n 'methu'.