Llwybrau MRhTLl - blaenoriaethu ar gyfer cyllid a datblygu
Sut mae llwybrau MRhTLl yn cael eu hariannu?
Gellir datblygu llwybrau ar y MRhTLl drwy ffynonellau cyllido amrywiol, gan gynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru, cyllid Adran 106 a chyllid gan Lywodraeth y DU. Dyrennir cyllid ar gyfer datblygu ac adeiladu, yn ogystal â monitro perfformiad, cyfleusterau penodol a hyrwyddo.
Ar hyn o bryd nid yw cyllid Teithio Llesol yn cefnogi cynnal a chadw llwybrau, sy'n golygu bod llwybrau nad ydynt yn cael eu cynnal yn breifat yn rhan o gyfrifoldebau cynnal a chadw amrywiol adrannau eraill y Cyngor Sir.
Gellir osgoi'r angen am gyllid trwy sicrhau bod llwybrau yn cael eu hadeiladu/eu gwella a’u diogelu drwy'r broses gynllunio, yn rhan o’r datblygiadau. Gellir cyflawni rhai gwelliannau oddi ar y safle trwy gytundebau priffyrdd neu gyllido fel amod yn y caniatâd cynllunio. Mae'n hanfodol mapio'r llwybrau hynny er mwyn sicrhau bod llwybrau a chyfleusterau yn bodloni safonau teithio llesol heb fod angen ailedrych arnynt yn y tymor byr. Gellir lleihau'r angen am gyllid hefyd trwy weithio mewn partneriaeth, ee ariannu’r gwaith yn rhannol i gynnwys gwelliannau ar gyfer Teithio Llesol mewn gwaith sy’n canolbwyntio ar fater arall, fel draenio.
Mae cyllid i ddatblygu llwybrau Teithio Llesol wedi newid yn ddiweddar i fodel rhanbarthol. Yn flaenorol, roedd yn cael ei weinyddu'n ganolog gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru. Erbyn hyn, gall Cyngor Sir Fynwy wneud cais am gyllid i ddatblygu llwybrau a chyfleusterau Teithio Llesol a’u gwella, drwy Gronfa Drafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n rheoli Cyllid Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn rhanbarthol. Mae'r cyllid yn cael ei rheoli gan bolisïau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Cymru'r Dyfodol a’r Ddeddf Teithio Llesol, ymhlith eraill.
Sut mae llwybrau MRhTLl yn cael blaenoriaeth o ran eu datblygu?
Yn gyffredinol, mae llwybrau sydd â'r potensial mwyaf i gynyddu lefelau teithio llesol a chefnogi 'newid modd' (cerdded, olwynio a beicio yn hytrach na theithiau mewn car), yn cael blaenoriaeth o ran eu datblygu. Y llwybrau uchel eu heffaith yn aml yw’r rhai o amgylch ysgolion, hybiau trafnidiaeth gyhoeddus a mannau eraill sy’n ‘denu teithiau’ yn cynnwys siopau a gwasanaethau, ysbytai, a gwasanaethau iechyd, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, a chanolfannau hamdden, a’r rhai sy’n cysylltu ardaloedd preswyl â’r mannau hynny.
Sut mae llwybrau MRhTLl yn cyrraedd y safon?
Defnyddir offer archwilio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i archwilio llwybrau sy'n bodoli. Nid yw rhai llwybrau MRhTLl yn bodoli eto ac mae angen eu datblygu’n gyfan gwbl. Gellir datblygu llwybrau sy'n methu’r archwiliad, neu’r rhai nad ydynt yn bodoli eto, trwy ymyrryd ar wahanol raddfeydd. Gall y datblygiad amrywio o fân waith fel gosod lle i barcio beiciau a chyrbau isel, i ail-ddylunio'r briffordd yn gyfan gwbl.
Mae'r broses o ddatblygu'r llwybr yn dibynnu ar raddfa'r ymyrraeth. Mae cynlluniau mwy yn galw am astudiaethau, caniatâd a sawl cam dylunio ac ymgynghori cyn y gellir eu hadeiladu. Mae'r gwaith i ddatblygu llwybrau yn cael ei ariannu gan grant a gellir ariannu a datblygu nifer cyfyngedig o lwybrau bob blwyddyn.
Gall cyllid ar gyfer 'cynllun' a 'mân waith' ganiatáu i CSF weithio ar gynlluniau o raddfeydd gwahanol yn yr un flwyddyn.
Gellir cwblhau mân waith mewn amserlen fyrrach a gall gynnwys gwaith fel gwella mannau croesi ar ffyrdd ymylol, gosod raciau beiciau a meinciau, a chael gwared ar rwystrau.
Bydd prosiectau mwy, a elwir yn 'Gynlluniau', sy'n galw am gyllid helaeth er mwyn eu hymchwilio, eu datblygu a’u hadeiladu dros gyfnod o sawl blwyddyn, yn destun proses 'canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru' (WelTAG), a ddefnyddir wrth ddatblygu ac arfarnu cynigion trafnidiaeth a hyrwyddir neu a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae proses WelTAG yn pennu beth yw'r broblem, a’r opsiynau o ran sut y gellir datrys y broblem honno. Yna, mae’n datblygu cynlluniau manwl i osod neu adeiladu’r opsiwn a dewiswyd. Mae proses WelTAG yn cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid (pobl/grwpiau sydd yn berthnasol i'r ardal, y cynllun neu'r dyluniad yn benodol) i bennu’r lleoliad a ffefrir, ei aliniad, y manylion dylunio a’r hyn sydd angen ei ystyried o ran hygyrchedd.
WelTAG – Beth yw proses WelTAG?
Mae proses Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) yn cwmpasu cylch bywyd cyflawn ymyrraeth a fwriedir yn y system drafnidiaeth, o asesu'r broblem, ystyried yr atebion posibl a dyluniad y cynllun, hyd at y cam o weithredu’r prosiect a’i werthuso. Mae proses WelTAG yn cael ei defnyddio i ddatblygu a gwerthuso cynigion trafnidiaeth sy’n cael eu hyrwyddo neu eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Welsh Transport Appraisal Guidance (WelTAG) | GOV.WALES neu Arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) | LLYW.CYMRU
A fydd y llwybr yr wyf yn cynnig sylwadau amdano yn cael ei ddatblygu?
Mae mapio a diweddaru'r MRhTLl yn ein galluogi i weld y sefyllfa bresennol a blaenoriaethu gwelliannau yn unol â hynny. Mae tîm Teithio Llesol CSF yn adolygu’r holl sylwadau am lwybrau, sef y llwybrau presennol a llwybrau’r dyfodol, ac yn eu defnyddio i addasu'r MRhTLl yn ôl yr angen, cyn cyflwyno'r map i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae pob llwybr ar y MRhTLl yn cael ei flaenoriaethu drwy gyfuniad o wybodaeth a gesglir wrth ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, offeryn effaith llwybrau Trafnidiaeth Cymru (TC) a mapio blaenoriaethau TC.
Bydd y llwybrau sy'n cael eu hasesu fel y rhai fydd yn cael yr effaith fwyaf posibl o ran cefnogi teithiau teithio llesol ac i newid modd, yn cael blaenoriaeth, er mwyn eu datblygu yn gyntaf. Gwneir gwelliannau i lwybrau eraill ochr yn ochr â chynlluniau sydd â blaenoriaeth, ble bynnag y bo'n bosibl, trwy weithio mewn partneriaeth - e.e. gwaith wedi ei ariannu’n rhannol i gynnwys gwella Teithio Llesol yn y gwaith sy’n canolbwyntio ar fater arall fel draenio.