Ardaloedd Dynodedig ar gyfer Teithio Llesol
- Y Fenni â Llan-ffwyst
- Cil-y-coed
- Cas-gwent
- Gilwern
- Magwyr â Gwndy
- Trefynwy â Wyesham
- Brynbuga
Beth yw Ardaloedd Dynodedig Teithio Llesol?
Mae Ardaloedd Dynodedig Teithio Llesol (ADTLl) yn ardal a ddewiswyd yn ôl y meini prawf a restrir isod, gan roi ffocws ar flaenoriaethu llwybrau sydd â'r potensial i gefnogi teithio llesol i'r nifer fwyaf o bobl, er mwyn eu galluogi i gerdded a beicio yn hytrach na theithio mewn car.
Gallwch weld map o’r ADTLl yng Nghymru drwy fynd i Active Travel Designated Localities (Wales) | DataMapWales neu Ardaloedd Dynodedig Teithio Llesol (Cymru) | MapDataCymru
Cyfarwyddyd sy'n dynodi ardaloedd mewn perthynas â llwybrau Teithio Llesol.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(4) a (5), Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ("y Ddeddf"), yn gwneud y Cyfarwyddyd a ganlyn:
Mae adran 2(1) y Ddeddf yn dweud, at ddibenion y Ddeddf, bod llwybr mewn ardal awdurdod lleol yn llwybr teithio llesol os: a) mae'r llwybr wedi'i leoli mewn lleoliad dynodedig yn yr ardal; Mae adran 2(4) y Ddeddf yn dweud:, ystyr “dynodedig” yn y Ddeddf, mewn perthynas ag ardal, yw ‘penodol’, neu o ddisgrifiad penodol, mewn cyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru. Mae Adran 2(5) yn dweud, y gall Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu lleoliad, neu ddisgrifiad o leoliad, drwy gyfeirio at:
a) dwysedd y boblogaeth,
b) maint,
c) pa mor agos ydyw at leoliadau sydd â phoblogaeth ddwys, dros faint penodol,
d) lleoliad rhwng ardaloedd o'r fath,
e) pa mor agos ydyw at wasanaethau a chyfleusterau cymunedol,
f) posibilrwydd am resymau eraill i fod yn lleoliad, neu ddisgrifiad o leoliad, lle mae mwy o gerddwyr a beicwyr yn teithio mewn ffyrdd llesol.*
*[Mae'r diffiniad o daith teithio llesol yn cynnwys teithio i'r gwaith, ysgol, siopau a gwasanaethau, cyfleusterau hamdden, cyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau iechyd.]
Ble mae Ardaloedd Dynodedig Teithio Llesol Sir Fynwy?
Yr Ardaloedd Teithio Llesol Dynodedig yn Sir Fynwy yw
A oes modd datblygu llwybr y tu allan i leoliad dynodedig?
Mae cysylltu cymunedau anghysbell ag ardal ddynodedig sy’n agos, a chysylltu poblogaethau â chyrchfannau allweddol, fel gweithleoedd a safleoedd trafnidiaeth a chanolfannau, yn elfen graidd wrth fynd ati i gynllunio rhwydwaith. Felly, gellir cynnwys llwybrau sy'n cyflawni’r dibenion hyn, ar y MRhTLl, er eu bod y tu allan i Ardal Ddynodedig.
Mae Ffocws Strategaeth Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy, sy’n canolbwyntio ar deithiau o 3 milltir neu lai, yn cydnabod bod mwy o bobl eisiau teithio’n llesol ar deithiau byr, lleol, gan ddefnyddio dulliau eraill i deithio ymhellach oherwydd gallu, amser y teithiau a’r cyrchfannau. Bydd llwybrau ar y MRhTLl, sy'n adlewyrchu Ffocws Strategol CSF a ffocws y cyllid, yn canolbwyntio i raddau helaeth ar yr ardaloedd dynodedig sy'n debygol o gael mwy o effaith.
Pam mae'r rhan fwyaf o'r llwybrau o fewn trefi?
Rhoddir blaenoriaeth i lwybrau a fyddai o fudd i'r rhan fwyaf o bobl, ac mae mwyafrif poblogaeth Sir Fynwy yn byw mewn trefi. Mae croeso i chi ddweud wrthym am lwybrau y tu allan i’r trefi, a gellir gollwng pin yn unrhyw le ar y map.
O dan adran 2(4) o’r Ddeddf, mae pwer gan Weinidogion Cymru i ddynodi ardaloedd mewn Cyfarwyddyd. Mae’r ddyletswydd i fapio llwybrau teithio yn benodol i’r ardaloedd hynny a ddynodwyd. Diben hyn yw sicrhau bod cynlluniau ar waith i greu rhwydweithiau teithio llesol yn yr holl ardaloedd poblog ym mhob awdurdod. Fodd bynnag, nid yw’n cyfyngu ar allu awdurdod i lunio mapiau rhwydwaith ar gyfer ardaloedd eraill lle mae galw mawr am lwybrau teithio llesol a chryn botensial ar gyfer eu defnydd. Ceir rhestr o’r ardaloedd dynodedig yn ôl ardal awdurdod lleol yn Atodiad B Canllawiau’r Ddeddf Teithio LLesol.