Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Adfer Coetir Neuadd Goytre ar FacebookRhannu Adfer Coetir Neuadd Goytre Ar TwitterRhannu Adfer Coetir Neuadd Goytre Ar LinkedInE-bost Adfer Coetir Neuadd Goytre dolen
Rydym eisiau cael eich sylwadau ar Brosiect Grant Buddsoddi Coetir (TWIG) Coetir Neuadd Goytre.
Mae Coetir Neuadd Goytre yn goetir hynafol 3.5 hectar wedi ei adfer ger Penperllenni, rhwng Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu a’r A4042. Yn eiddo ac yn cael ei rheoli gan Gyngor Sir Fynwy, mae’n gynefin goetir bwysig yn cysylltu gyda safleoedd coetir eraill ac yn cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys adar coetir, ystlumod a phlanhigion coetir hynafol.
Mae’r safle hefyd yn goetir gymunedol boblogaidd, a gaiff ei gwerthfawrogi am hamdden, addysg a llesiant.
Nod prosiect Grant Buddsoddi Coetir (TWIG) yw adfer a gwella’r goetir ar gyfer natur a phobl. Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â materion tebyg i glefyd coed ynn, rhywogaethau goresgynnol a diffyg amrywiaeth coetir drwy reoli cynefin, creu llennyrch, plannu coed ac adfer nant.
Bydd hefyd yn gwella mynediad gyda llwybrau gwell, seddi, dehongli a pharcio i’r anabl, ac yn creu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddiant sgiliau gwyrdd, gweithgareddau ysgol ac ymgyfraniad y gymuned.
Y nod hirdymor yw creu coetir fwy gwydn, hygyrch a bioamrywiol sy’n cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru a gefnogir gan y gymuned leol.
Manteision allweddol y prosiect
Coetir iachach – gwella cyflwr y goetir drwy adfer cynefinoedd a rheoli gofalus.
Mwy o le i fywyd gwyllt – creu cynefinoedd gwell ar gyfer planhigion coetir, adar, ystlumod a rhywogaethau eraill, gan gryfhau cysylltiad gyda’r coetiroedd o amgylch.
Gwella mynediad a chyfleusterau – gwneud y goetir yn fwy croesawgar a hygyrch gyda gwelliannau i lwybrau, seddi, dehongli a gwell cyfleusterau i ymwelwyr.
Llwybr cerfluniau wedi ei ysbrydoli gan y goetir – creu nodweddion newydd sy’n dathlu’r goetir ac yn annog pobl i ymchwilio a mwynhau’r safle.
Cyfleoedd dysgu, gwirfoddoli a llesiant – darparu hyfforddiant, gweithgareddau awyr agored a chyfleoedd i bobl leol gymryd rhan wrth ofalu am y goetir.
Gwaddol barhaus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – sicrhau fod Coetir Neuadd Goytre yn parhau i fod yn lle gwerthfawr ar gyfer natur, hamdden a llesiant y gymuned.