Adroddiad Adran 19 – Arolwg Ymgysylltiad Cyhoeddus – Storm Claudia

Rhannu Adroddiad Adran 19 – Arolwg Ymgysylltiad Cyhoeddus – Storm Claudia ar Facebook Rhannu Adroddiad Adran 19 – Arolwg Ymgysylltiad Cyhoeddus – Storm Claudia Ar Twitter Rhannu Adroddiad Adran 19 – Arolwg Ymgysylltiad Cyhoeddus – Storm Claudia Ar LinkedIn E-bost Adroddiad Adran 19 – Arolwg Ymgysylltiad Cyhoeddus – Storm Claudia dolen

Yn dilyn y llifogydd helaeth a effeithiodd ar ogledd y sir yn ystod Storm Claudia ym mis Tachwedd 2025, mae Cyngor Sir Fynwy yn paratoi 'Adroddiad Llifogydd Adran 19' yn unol â gofynion Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar ddalgylch Afon Mynwy, lle mae'r trothwy ar gyfer llunio adroddiad o'r fath, sef llifogydd mewn ugain eiddo neu fwy, wedi'i gyrraedd.

Yn unol â gofynion y Ddeddf uchod, bydd yr adroddiad yn ymchwilio i weld :

  1. pa awdurdodau rheoli risgiau sydd â swyddogaethau rheoli perygl llifogydd perthnasol, ac
  2. a ydy pob un o'r awdurdodau rheoli risgiau hynny wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn ymateb i'r llifogydd, neu'n bwriadu eu harfer.

Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn barod yn ystod y llifogydd, ac ar eu hôl, i ymchwilio i'r effeithiau a chasglu cyfrif trigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt ar draws y dalgylch, gan gynnwys ardaloedd Ynysgynwraidd, Rockfield, a Threfynwy. Er mwyn sicrhau ein bod yn casglu cymaint o wybodaeth â phosibl i oleuo’r adroddiad Adran 19, hoffem roi cyfle ychwanegol i drigolion a busnesau i rannu eu profiadau ac effeithiau Storm Claudia trwy'r ymarfer ymgysylltu hwn.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i oleuo’r adroddiad Adran 19 yn unig ac ni fyddwn yn rhannu unrhyw fanylion personol neu wybodaeth sy'n ymwneud ag eiddo unigol gydag eraill.

  • Take Survey
    Rhannu Adroddiad Adran 19 Arolwg ar Facebook Rhannu Adroddiad Adran 19 Arolwg Ar Twitter Rhannu Adroddiad Adran 19 Arolwg Ar LinkedIn E-bost Adroddiad Adran 19 Arolwg dolen
Diweddaru: 04 Mar 2026, 01:49 PM