Arolwg preswylwyr 2026

Rhannu Arolwg preswylwyr 2026 ar Facebook Rhannu Arolwg preswylwyr 2026 Ar Twitter Rhannu Arolwg preswylwyr 2026 Ar LinkedIn E-bost Arolwg preswylwyr 2026 dolen

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwahodd trigolion i gymryd rhan yn Arolwg Preswylwyr 2026 i rannu eu barn am fywyd bob dydd yn y sir.

Efallai eich bod chi wedi bod yn byw yma ers blynyddoedd neu wedi symud i'r ardal yn ddiweddar. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, byddem wrth ein bodd i glywed am eich profiadau o fyw yn Sir Fynwy, y gwasanaethau rydych chi'n eu defnyddio, a'r hyn sydd bwysicaf i chi a'ch cymuned.

Mae'r arolwg yn cynnwys amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys ansawdd yr amgylchedd lleol a boddhad â gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, ailgylchu, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Cynhelir yr arolwg gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn rhan o'r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol, sy'n helpu cynghorau i ddeall profiadau, canfyddiadau a blaenoriaethau preswylwyr yn well.

Dyma'r drydedd flwyddyn i Gyngor Sir Fynwy gymryd rhan yn yr arolwg. Gallwch weld crynodeb o ganlyniadau arolwg 2025 YMA.

Gallwch lenwi’r holiadur ar-lein, lawrlwytho copi papur, neu godi un o'ch Hyb Cymunedol, Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol. Gallwch hefyd ddychwelyd holiaduron papur wedi'u llenwi i'r lleoliadau hyn.

Cymerwch ychydig funudau i ddweud eich dweud. Byddem yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr. Dewch i ni Sgwrsio Am Sir Fynwy.

Rhannwch eich barn a dewch i ni Sgwrsio Am Sir Fynwy.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau am hanner nos ddydd Gwener, 30 Hydref 2026.

I gwblhau'r arolwg, cliciwch YMA

Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio

Mae Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Sir Fynwy. Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Gyngor Sir Fynwy a CLlLC yn unig. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i adnabod ymatebion dyblyg neu amhriodol.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym mholisi preifatrwydd (https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/eich-preifatrwydd/) y Cyngor a pholisi preifatrwydd CLlLC (https://www.wlga.cymru/polisiau/polisi-preifatrwydd-y-wefan).

Cwblhau’r arolwg

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 30/10/2026. Mae’r arolwg hwn hefyd ar gael mewn fformatau eraill ar gais. https://www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/arolwg-preswylwyr-2026

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau’r arolwg ar-lein, e-bostiwch letstalk@monmouthshire.gov.uk.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch ag arolygon@wlga.gov.uk neu ffoniwch 029 2046 8680.

Diweddaru: 14 Sep 2026, 10:19 AC