Popeth am Benthyg Sir Fynwy

Rhannu Popeth am Benthyg Sir Fynwy ar Facebook Rhannu Popeth am Benthyg Sir Fynwy Ar Twitter Rhannu Popeth am Benthyg Sir Fynwy Ar LinkedIn E-bost Popeth am Benthyg Sir Fynwy dolen

Sut gallwch chi helpu heddiw

Rydyn ni eisiau gwybod ychydig mwy am bwy sy'n defnyddio Benthyg yn lleol a beth allwn ni ei wneud i wella pethau i ddarparu gwasanaeth gwell fyth. Diolch ymlaen llaw am gwblhau'r arolwg byr hwn ar y dudalen hon.

Cefndir Benthyg

Mae Llyfrgell Pethau Benthyg yn fan lle gallwch chi fenthyg eitemau defnyddiol a hwyliog ar gyfer eich cartref, eich gardd a’ch digwyddiadau, a hynny’n rhad.

Mae'r eitemau'n cynnwys offer cegin, offer DIY, offer garddio, offer gwersylla, ac offer digwyddiadau.

Gall unrhyw un ymuno ac arbed arian a gwastraff drwy fenthyca yn hytrach na phrynu.

Dyma'ch llyfrgell leol o bethau, sy'n golygu y gallwch chi...

• benthyg pethau sydd eu hangen arnoch ond nad ydych yn berchen arnynt, am gost isel, gan arbed arian a lle yn eich cartref

• cyfrannu pethau rydych yn berchen arnynt ond nad oes eu hangen arnoch, gan gyfrannu at dargedau lleihau gwastraff cenedlaethol

• cyfarfod i rannu gwybodaeth a sgiliau ag eraill, gan gynyddu gwydnwch cymunedol

Mae Benthyg yn cael ei reoli gan wirfoddolwyr a’i gefnogi gan Gyngor Sir Fynwy a Benthyg Cymru.

Mae offer garddio yn un o'r nifer o fathau o eitemau y gallwch eu benthyca gan Benthyg

Beth mae Benthyg yn ei olygu

Gair Cymraeg yw Benthyg.

Bellach mae tri Benthyg ar agor yn Sir Fynwy, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Fynwy a Benthyg Cymru monmouthshire.benthyg.cymru ond yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr.

Gallwch ddod o hyd iddynt yn y Fenni, Cil-y-coed a Threfynwy.

Eisiau gwybod mwy?

Ewch i monmouthshire.benthyg.cymru i ddarganfod beth allwch chi ei fenthyg, a llawer mwy.

  •  

    Cwblhewch yr arolwg byr hwn i roi gwybod i ni beth rydych chi'n ei wybod am Benthyg, a beth yw eich profiadau os ydych chi wedi defnyddio'r gwasanaeth.

    Diolch.

    Dywedwch wrthym beth yw eich barn
    Rhannu Beth yw’ch barn chi am Bethyg? ar Facebook Rhannu Beth yw’ch barn chi am Bethyg? Ar Twitter Rhannu Beth yw’ch barn chi am Bethyg? Ar LinkedIn E-bost Beth yw’ch barn chi am Bethyg? dolen
Cyhoeddi: 27 Chwef 2025, 02:55 PM