Popeth am Benthyg Sir Fynwy

Rhannu Popeth am Benthyg Sir Fynwy ar Facebook Rhannu Popeth am Benthyg Sir Fynwy Ar Twitter Rhannu Popeth am Benthyg Sir Fynwy Ar LinkedIn E-bost Popeth am Benthyg Sir Fynwy dolen

Sut gallwch chi helpu heddiw

Rydyn ni eisiau gwybod ychydig mwy am bwy sy'n defnyddio Benthyg yn lleol a beth allwn ni ei wneud i wella pethau i ddarparu gwasanaeth gwell fyth. Diolch ymlaen llaw am gwblhau'r arolwg byr hwn ar y dudalen hon.

Cefndir Benthyg

Mae Llyfrgell Pethau Benthyg yn fan lle gallwch chi fenthyg eitemau defnyddiol a hwyliog ar gyfer eich cartref, eich gardd a’ch digwyddiadau, a hynny’n rhad.

Mae'r eitemau'n cynnwys offer cegin, offer DIY, offer garddio, offer gwersylla, ac offer digwyddiadau.

Gall unrhyw un ymuno ac arbed arian a gwastraff drwy fenthyca yn hytrach na phrynu.

Dyma'ch llyfrgell leol o bethau, sy'n golygu y gallwch chi...

• benthyg pethau sydd eu hangen arnoch ond nad ydych yn berchen arnynt, am gost isel, gan arbed arian a lle yn eich cartref

• cyfrannu pethau rydych yn berchen arnynt ond nad oes eu hangen arnoch, gan gyfrannu at dargedau lleihau gwastraff cenedlaethol

• cyfarfod i rannu gwybodaeth a sgiliau ag eraill, gan gynyddu gwydnwch cymunedol

Mae Benthyg yn cael ei reoli gan wirfoddolwyr a’i gefnogi gan Gyngor Sir Fynwy a Benthyg Cymru.

Mae offer garddio yn un o'r nifer o fathau o eitemau y gallwch eu benthyca gan Benthyg

Beth mae Benthyg yn ei olygu

Gair Cymraeg yw Benthyg.

Bellach mae tri Benthyg ar agor yn Sir Fynwy, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Fynwy a Benthyg Cymru monmouthshire.benthyg.cymru ond yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr.

Gallwch ddod o hyd iddynt yn y Fenni, Cil-y-coed a Threfynwy.

Eisiau gwybod mwy?

Ewch i monmouthshire.benthyg.cymru i ddarganfod beth allwch chi ei fenthyg, a llawer mwy.

Cyhoeddi: 27 Chwef 2025, 02:55 PM