Pwy sy'n gyfrifol am Benthyg?

    Mae Cyngor Sir Fynwy, gyda chyllid economi gylchol gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau a sefydliadau yn Sir Fynwy.

    Mae tair cangen ar agor ar draws y sir yn Y Fenni, Cil-y-coed a Threfynwy.

    Bydd pedwaredd cangen yn agor yn fuan.

    Mae’r canghennau hyn yn cydweithio ac yn dod o dan ymbarél Benthyg Sir Fynwy, sy’n rhan o rwydwaith Benthyg the Benthyg Cymru. Mae gan Benthyg Cymru un nod syml; i wneud benthyca mor hawdd â mynd allan am dorth o fara.

    top y dudalen

    Sut mae cyfrannu eitem i Benthyg?

    Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am roddion ar draws pob categori. Os oes gennych chi rywbeth rydych chi'n meddwl y gallai rhywun fod eisiau ei fenthyg, cysylltwch â'ch cangen leol.

    top y dudalen

    Oes rhaid i mi dalu i fenthyg?

    Pennir ffioedd benthyca ar lefel eitem ac am gyfnod o 7 diwrnod. Rydym yn cadw ffioedd benthyca mor isel â phosibl ond rydym yn dibynnu ar y ffioedd hyn i helpu gyda chostau cynnal a chadw ac atgyweirio eitemau’r llyfrgell a hefyd i gefnogi costau rhedeg parhaus yn eich lleoliad lleol.

    Gallwch dalu ag arian parod neu gyda cherdyn debyd/credyd. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio cynnig y dewis i dalu gan ddefnyddio credydau amser, amser gwirfoddoli neu rannu sgiliau.

    Efallai y bydd angen blaendal ad-daladwy ar rai eitemau - gofynnwch yn eich lleoliad.

    Rhowch wybod i ni os oes angen i chi fenthyg eitemau o’r llyfrgell ar gyfer prosiect cymunedol, fel tocio perllan leol, creu gardd gymunedol, neu drefnu ffair neu ddigwyddiad lleol.

     

    Rydyn ni eisiau cefnogi’r gymuned trwy gynnig benthyca am ddim neu â chymhorthdal i grwpiau cymunedol pan fyddwn ni’n gallu, sy’n gwneud pethau da yn Sir Fynwy!

    top y dudalen

    Sut ydw i'n benthyca rhywbeth?

    I fenthyca o'n Llyfrgell o Bethau, bydd angen i chi greu cyfrif aelod ar-lein trwy ddewis 'Cofrestru' ar wefan Benthyg neu ewch heibio’r gangen leol a gallwn eich helpu i gofrestru.

    Mae angen i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn, yn meddu ar gyfeiriad e-bost a chytuno i'n telerau ac amodau. Wrth fenthyca eitem am y tro cyntaf, bydd angen i chi ddod â llun (ID) a phrawf o gyfeiriad fel trwydded yrru neu basbort a bil cyfleustodau.