Sgwrsio am Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand

Rhannu Sgwrsio am Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand ar Facebook Rhannu Sgwrsio am Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand Ar Twitter Rhannu Sgwrsio am Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand Ar LinkedIn E-bost Sgwrsio am Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand dolen

DIWEDDARIAD: 23ain Ebrill, 2026

Cyfarfu Cabinet y Cyngor ar 15fed Ebrill 2026 i ystyried adroddiad yr ymgynghoriad a’r argymhellion a waned iddyn nhw. Penderfyniad y Cabinet oedd bwrw ymlaen at gamau nesaf y broses statudol angenrheidiol i derfynu meithrin awdurdod lleol yn Ysgol Gynradd Durand o 31ain Awst 2026.

Mae Hysbysiadau Statudol wedi eu cyhoeddi bellach, ac maen nhw i’w gweld ar y dudalen hon, mewn perthynas â’r cynnig. Rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau ffurfiol i strategicreview@monmouthshire.gov.uk erbyn 22ain Mai 2026.

DIWEDDARIAD: 9 Ebrill 2026
Diolch i bawb a anfonodd eu sylwadau ar y newidiadau arfaethedig i Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand. Ystyriwyd yr ymatebion, ac mae’r
adroddiad ymgynghori bellach ar gael ar y dudalen hon.
Bydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ar 15 Ebrill 2026, a byddant yn penderfynu ar y camau nesaf.

Mae gan Gyngor Sir Fynwy ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Gofal Plant 2006 i sicrhau y gall pob plentyn 3 a 4 oed gael mynediad at eu hawl i o leiaf 10 awr o addysg gynnar a ariennir yr wythnos yn ystod y tymor. Gellir darparu'r addysg hon gan feithrinfa a gynhelir gan Awdurdod Lleol neu leoliad cymeradwy nas cynhelir. Mae Deddf Gofal Plant 2006 hefyd yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, ddarpariaeth gofal plant sy'n ddigonol i ddiwallu gofynion rhieni sy'n gweithio.

Fel rhan o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae gan y cyngor ddyletswydd statudol i ymgynghori ag aelodau o’r gymuned a rhanddeiliaid priodol wrth ystyried unrhyw gynigion sylweddol ar gyfer ad-drefnu ysgolion.

Y Cynnig

Ar 21 Ionawr 2026, cytunodd Cabinet y Cyngor i gychwyn y prosesau ymgynghori statudol gofynnol ar y cynnig canlynol:

Mae’r cyngor yn cynnig newid ystod oedran Ysgol Gynradd Durand o 3–11 oed i 4–11 oed ac amnewid dosbarth meithrin y ysgol gyda lleoliad na cynhelir a fydd yn cynnig lleoedd addysg gynnar wedi’u hariannu.

Bydd yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig yn dechrau dydd Iau, 29 Ionawr 2026, ac yn parhau am 42 diwrnod, gan ddod i ben ar 13 Mawrth 2026.

Mae’r cyngor wedi datblygu dogfen ymgynghori sy’n darparu mwy o fanylion am y cynigion hyn ac ar gael i chi ei darllen YMA.

Gellir rhoi copi caled o’r ddogfen ymgynghori ar gais drwy e-bostio strategicreview@monmouthshire.gov.uk.

Beth nesaf?

Rydym yn awgrymu i chi gymryd amser i astudio’r ddogfen ymgynghori cyn cyflwyno eich ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad hwn. Os oes gennych unrhyw sylwadau, arsylwadau a/neu bryderon ynghylch y cynnig, mae’n bwysig eich bod yn ein hysbysu drwy gwblhau’r ffurflen ymateb ar-lein cyn y dyddiad cau, sef 13 Mawrth 2026.

Os hoffech dderbyn copi papur o’r arolwg, anfonwch e-bost at strategicreview@monmouthshire.gov.uk.

Bydd pob barn a fynegir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael ei hystyried wrth benderfynu ar y camau nesaf, felly mae’n hanfodol eich bod yn cymryd yr amser i rannu eich safbwyntiau.

Sicrhewch fod eich ymateb yn nodi’n glir a ydych o blaid ai yn erbyn y cynigion, a’i fod wedi’i gyflwyno cyn y dyddiad cau ar 13 Mawrth 2026. Yn anffodus, nid yw’r cyngor yn gallu ystyried unrhyw ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.

  • CLOSED: This survey has concluded.
    Rhannu Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand - Arolwg ar Facebook Rhannu Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand - Arolwg Ar Twitter Rhannu Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand - Arolwg Ar LinkedIn E-bost Ddarpariaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Durand - Arolwg dolen
Diweddaru: 23 Ebr 2026, 04:19 PM