Sgwrsio am Gwaith Haearn Clydach
Trwy gydol Medi 2026, rydym yn gwahodd trigolion lleol ac ymwelwyr i Weithfeydd Haearn Clydach i rannu eu barn am y safle hanesyddol.
Gadewch i ni Sgwrsio Am hygyrchedd, arwyddion, sut mae’r safle’n cael ei reoli, sut rydych chi’n defnyddio’r safle ac, yn fwyaf pwysig, pa syniadau sydd gyda chi am welliannau.
Rydym yn chwilio am syniadau tymor byr a thymor hir.
Tymor byr: Enillion cyflym trwy brosiectau llai y gallwn eu cyflawni o fewn blwyddyn, diolch i arian grant.
Tymor hir: Prosiectau mwy gydag effaith parhaus a allai gymryd rhwng dwy a deg mlynedd i’w cyflawni. Byddai angen cyllid i fwrw ymlaen â’r rhain, ond bydden nhw’n gwneud gwahaniaeth mawr.
Rydym angen eich syniadau a’ch awgrymiadau i helpu i sicrhau fod unrhyw gynlluniau’n adlewyrchu’r hyn y mae ymwelwyr yn teimlo byddai mwyaf o fudd i’r safle a’i le pwysig yn y dirwedd leol
Arolwg yn dechrau Ddydd Mawrth, 1 Medi tan hanner nos Dydd Mercher, 30 Medi 2026.
Ynglŷn â Gweithfeydd Haearn Clydach
Adeiladwyd Gweithfeydd Haearn Clydach yn y 1790au, ac erbyn 1841, roedd 1350 o bobl yn gweithio yma, ddydd a nos. Caeodd y Gweithfeydd Haearn yn y 1860au, ond parhaodd diwydiant am ganrif arall. Cloddiwyd calchfaen ar gyfer meini adeiladu ac i wneud sment a chalch, gan greu’r clogwyni creigiog ar ben y cwm sydd dal i’w gweld heddiw.
Mae gweddillion y gweithfeydd haearn nawr ar agor i’w gweld, gyda lle i barcio ac ardal picnic ar y safle.
Roedd y Gweithfeydd Haearn wrth galon rhwydwaith cymhleth o dramffyrdd i gerbydau â cheffyl. Daeth y rhain â chalchfaen, mwyn haearn a glo o’r chwareli a’r pyllau ac fe aethant â’r haearn gorffenedig i’r gamlas yng Ngilwern. Daeth trenau stêm yn y 1860au pan adeiladwyd Rheilffordd Merthyr, Tredegar a’r Fenni, gan gerfio llwybr trawiadol trwy’r dyffryn.






