Cwestiynau cyffredinol am y prosiect
Sut mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu?
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Arian A465 Ffordd Blaenau’r Cymoedd Llywodraeth Cymru.
A fydd yr holl awgrymiadau’n cael eu gweithredu?
Dim ond cyllideb gyfyngedig sydd gan Gyngor Sir Fynwy o’r arian a sicrhawyd er mwyn gweithredu’r gwelliannau cychwynnol i’r safle. Bydd yr hyn na ellir ei wneud nawr yn cael ei osod mewn gweledigaeth tymor hir i’r safle a fydd yn ein helpu i sicrhau ffynonellau eraill o gyllid yn y dyfodol.
A all yr arian hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill y tu allan i safle’r gweithfeydd haearn?
Mae’r arian a roddwyd i Gyngor Sir Fynwy ar gyfer allbynnau penodol a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â safle’r gweithfeydd haearn a ffyrdd a strwythurau cyfagos yn unig.
Pryd fydd y gwaith yn digwydd?
Bydd angen i welliannau cychwynnol ddigwydd cyn 31ain Mawrth 2027 i fodloni amodau’r arian grant.
Ai dyma’r un prosiect â’r gwaith sy’n digwydd i strwythur y gofeb?
Mae gwaith ar y gofeb wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae disgwyl iddyn nhw barhau dros y blynyddoedd nesaf mewn prosiect ar wahân a ariennir gan y Grid Cenedlaethol a CADW, sy’n ceisio diogelu nodweddion cofeb y gweithfeydd haearn sydd mwyaf mewn perygl. Mae’r ddau brosiect yma’n cyd-fynd â’i gilydd ac o fudd i’r naill a’r llall.