Gwella Cil-y-coed – Cynllun Creu Lleoedd
*i ddod o hyd i fersiwn Saesneg y dudalen hon cliciwch yma*
AROLWG YN FYW O DDYDD LLUN 21 MEDI
Mae Cyngor Tref Cil-y-coed a Chyngor Sir Fynwy yn cydweithio i lunio Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer canol tref Cil-y-coed.
Bydd y cynllun, sy’n seiliedig ar weledigaeth ar y cyd, yn ystyried y prif heriau a’r cyfleoedd i Gil-y-coed, gan nodi prosiectau sydd o flaenoriaeth. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu i gyfeirio buddsoddiadau gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat a’u blaenoriaethu, er mwyn cefnogi canol y dref i ffynnu a llwyddo.
Yn gynharach eleni (Mehefin 2026) clywsom eich barn am yr hyn sy'n gweithio'n dda, beth y gellir ei wella a pha newidiadau fyddai'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ganol y dref.
Yn y cam hwn, sef ail gam y broses, rydym am glywed eich barn am y weledigaeth ddrafft a'r prosiectau sy'n anelu at ei chyflawni. Bydd eich adborth yn helpu i lunio cynlluniau, yn ogystal â chyfeirio buddsoddiadau gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat, a’u blaenoriaethu. Gyda'n gilydd, rydym am gefnogi canol y dref i ffynnu a llwyddo.
Dweud eich dweud
Cam 2 yr ymgynghoriad yn fyw o ddydd Llun 21 Medi.
Mae'r arolwg hwn sydd â map rhyngweithiol yn rhan o Gam 2.
Yn ogystal, mae digwyddiad cyhoeddus wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal yn yr ardal i gerddwyr yng nghanol tref Cil-y-coed, ddydd Mawrth 22 Medi rhwng 10am a 6pm.
Bydd yr adborth o'r arolwg hwn a'r map rhyngweithiol, yn ogystal â'r digwyddiad cyhoeddus wyneb yn wyneb, yn llywio'r gwaith i gynhyrchu'r Cynllun Creu Lleoedd.
Diolch am gyfrannu at Gynllun Creu Lleoedd Cil-y-coed.
Cyn i chi lenwi’r arolwg, cymerwch amser i ddarllen y paneli gwybodaeth hefyd (ar gael ar y dudalen hon o 21 Medi).
Mae copïau papur o'r arolwg ar gael yn swyddfeydd y Cyngor Tref neu Hwb Cymunedol Cil-y-coed.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd yr adborth o'r arolwg hwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r cynlluniau ymhellach, fel y gallwn sicrhau bod y prosiectau'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau pobl leol.
Cliciwch 'Dilyn y Prosiect' ar y dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Caldicot Town Council