Gweud Cais I Gyllideb Y Gymuned
Helpwch i lywio eich cymuned – cyflwynwch eich syniad i Gyllideb y Gymuned
Oes gennych chi syniad gwych i wella eich cymdogaeth? Hoffech chi weld mwy o weithgareddau, mannau gwyrdd, neu weld trigolion yn cael cefnogaeth well?
Nawr yw eich cyfle!
Mae Cyllideb y Gymuned yn ffordd arloesol i bobl yn Sir Fynwy ddylanwadu ar y ffordd y mae arian yn cael ei ddyrannu. Mae’n eich grymuso CHI i wneud gwahaniaeth.
Beth yw Cyllideb y Gymuned?
Mae'n gronfa sy'n caniatáu i bobl leol:
- Gyflwyno syniadau i wella’u hardal, a rhannu’r syniadau hyn
- Trafod pa syniadau ddylai gael cyllid, a phleidleisio
- Arwain prosiectau sy'n bwysig iddyn nhw
P'un a yw'n ardd gymunedol newydd, rhaglen ieuenctid, neu grŵp ar lawr gwlad sy’n dechrau arni, efallai mai eich syniad fydd yr un i dderbyn cyllid.
Pwy all gymryd rhan?
Mae croeso i bawb yn Sir Fynwy wneud cais. Gallwch:
- Cyflwyno syniad boed yn unigol neu fel grŵp
- Ymuno â thrafodaethau cymunedol i drafod syniadau
- Pleidleisio dros y prosiectau yr hoffech eu gweld yn cael eu gwireddu
- Helpu i gyflawni prosiect os caiff ei ddewis
Nid oes angen profiad, dim ond angerdd am eich cymuned!
Dyddiadau allweddol
- Cyfle i gyflwyno syniadau o: 1 Hydref 2025
- Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 30 Tachwedd 2025
- Pleidleisio'n dechrau: 1 Rhagfyr 2025
- Cyflawni’r prosiectau erbyn: 31 Mawrth 2026
Beth yw'r gyllideb?
Mae Grant Cyfalaf Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i brosiectau cymunedol yn benodol. Mae wedi clustnodi £24,000 i ariannu prosiectau dan arweiniad y gymuned yn Sir Fynwy. Bydd pob ardal yn derbyn cyfran deg o'r gyllideb.
Beth sy'n gwneud syniad da?
Dylai eich syniad:
- Wella'r amgylchedd, llesiant, neu fywyd cymunedol
- Bod yn gynhwysol ac yn agored i bawb
- Bod yn rhywbeth y gellir ei gyflawni erbyn mis Mawrth 2026
- Dylai fod yn syniad nad yw'n dyblygu gwasanaethau presennol, ond yn hytrach, gweithio ochr yn ochr â nhw
Cyn i’r pleidleisio ddechrau, byddwn yn eich helpu gyda’ch syniad i weld a oes modd ei wireddu.
Pam cymryd rhan?
- Lleisio’ch barn
- Creu cymunedau cryfach, mwy diogel a hapusach
- Dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd
- Gweld newid go iawn yn eich ardal leol
Barod i rannu eich syniad?
Cyflwynwch eich cynigion ar y ffurflen fer isod.
Unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch â'r Tîm Datblygu Cymunedol heddiw, ar communitydevelopment@monmouthshire.gov.uk
Adeiladwn Sir Fynwy well gyda'n gilydd.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.