Gweud Cais I Gyllideb Y Gymuned

Rhannu Gweud Cais I Gyllideb Y Gymuned ar Facebook Rhannu Gweud Cais I Gyllideb Y Gymuned Ar Twitter Rhannu Gweud Cais I Gyllideb Y Gymuned Ar LinkedIn E-bost Gweud Cais I Gyllideb Y Gymuned dolen

Helpwch i lywio eich cymuned – cyflwynwch eich syniad i Gyllideb y Gymuned

Oes gennych chi syniad gwych i wella eich cymdogaeth? Hoffech chi weld mwy o weithgareddau, mannau gwyrdd, neu weld trigolion yn cael cefnogaeth well?

Nawr yw eich cyfle!

Mae Cyllideb y Gymuned yn ffordd arloesol i bobl yn Sir Fynwy ddylanwadu ar y ffordd y mae arian yn cael ei ddyrannu. Mae’n eich grymuso CHI i wneud gwahaniaeth.

Beth yw Cyllideb y Gymuned?

Mae'n gronfa sy'n caniatáu i bobl leol:

  • Gyflwyno syniadau i wella’u hardal, a rhannu’r syniadau hyn
  • Trafod pa syniadau ddylai gael cyllid, a phleidleisio
  • Arwain prosiectau sy'n bwysig iddyn nhw

P'un a yw'n ardd gymunedol newydd, rhaglen ieuenctid, neu grŵp ar lawr gwlad sy’n dechrau arni, efallai mai eich syniad fydd yr un i dderbyn cyllid.

Pwy all gymryd rhan?

Mae croeso i bawb yn Sir Fynwy wneud cais. Gallwch:

  • Cyflwyno syniad boed yn unigol neu fel grŵp
  • Ymuno â thrafodaethau cymunedol i drafod syniadau
  • Pleidleisio dros y prosiectau yr hoffech eu gweld yn cael eu gwireddu
  • Helpu i gyflawni prosiect os caiff ei ddewis

Nid oes angen profiad, dim ond angerdd am eich cymuned!

Dyddiadau allweddol

  • Cyfle i gyflwyno syniadau o: 1 Hydref 2025
  • Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 30 Tachwedd 2025
  • Pleidleisio'n dechrau: 1 Rhagfyr 2025
  • Cyflawni’r prosiectau erbyn: 31 Mawrth 2026

Beth yw'r gyllideb?

Mae Grant Cyfalaf Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i brosiectau cymunedol yn benodol. Mae wedi clustnodi £24,000 i ariannu prosiectau dan arweiniad y gymuned yn Sir Fynwy. Bydd pob ardal yn derbyn cyfran deg o'r gyllideb.

Beth sy'n gwneud syniad da?

Dylai eich syniad:

  • Wella'r amgylchedd, llesiant, neu fywyd cymunedol
  • Bod yn gynhwysol ac yn agored i bawb
  • Bod yn rhywbeth y gellir ei gyflawni erbyn mis Mawrth 2026
  • Dylai fod yn syniad nad yw'n dyblygu gwasanaethau presennol, ond yn hytrach, gweithio ochr yn ochr â nhw

Cyn i’r pleidleisio ddechrau, byddwn yn eich helpu gyda’ch syniad i weld a oes modd ei wireddu.

Pam cymryd rhan?

  • Lleisio’ch barn
  • Creu cymunedau cryfach, mwy diogel a hapusach
  • Dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd
  • Gweld newid go iawn yn eich ardal leol

Barod i rannu eich syniad?

Cyflwynwch eich cynigion ar y ffurflen fer isod.

Unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch â'r Tîm Datblygu Cymunedol heddiw, ar communitydevelopment@monmouthshire.gov.uk

Adeiladwn Sir Fynwy well gyda'n gilydd.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

  • Cymryd Rhan
    Rhannu Gwneud Cais I Gyllideb Y Gymuned 1 ar Facebook Rhannu Gwneud Cais I Gyllideb Y Gymuned 1 Ar Twitter Rhannu Gwneud Cais I Gyllideb Y Gymuned 1 Ar LinkedIn E-bost Gwneud Cais I Gyllideb Y Gymuned 1 dolen
Diweddaru: 02 Hyd 2025, 09:35 AC