
Dweud eich barn
Gofynnir i chi lenwi’r arolwg hwn os ydych yn byw yn agos at neu’n teithio drwy ardal Monmouth Road a Castle Parade o Frynbuga.
Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Mae Cyngor Sir Fynwy eisiau clywed barn pobl ar y croesiad a gwelliannau priffordd arfaethedig i gefnogi llwybrau cerdded, olwyno a seiclo ym Brynbuga, o Four Ash Street i ben dwyreiniol y pentref.
Medrwch weld y diagramau a darllen y disgrifiad o’r cynllun arfaethedig yma.
Mae’r arolwg yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol ar y ffordd yr ydych yn teithio fel arfer yn ardal yr astudiaeth cyn gofyn am eich profiadau yn teithio ar hyd Monmouth Road, yn yr ardal o Twyn Square i Burrium Gate, o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga.
Mae eich barn ar y cynigion yn bwysig i ni a byddem yn croesawu eich mewnbwn drwy’r arolwg hwn. Gofynnir i chi annog aelodau eich aelwyd ac eraill i lenwi’r arolwg er mwyn sicrhau ein bod yn ymgynghori gydag ystod mor eang o bobl ag sydd modd.