Sgwrsio am lwybrau i ysgol Brynbuga
Am y fersiwn Saesneg o'r dudalen hon, cliciwch yma
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am adborth ar ystod o newidiadau arfaethedig i lwybrau o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga, yn cynnwys gosod llwybr cyd-ddefnyddio ar adran un-ffordd o Monmouth Road ac ail-ddylunio cyffyrdd ar gyfer tawelu traffig a gwella darpariaeth cerdded a seiclo tu allan i’r ysgol. Rhowch eich barn ar y cynigion hyn a helpu i lunio teithiau mwy diogel a hygyrch ar gyfer pawb yn y gymuned.
Sesiwn galw heibio : Dydd Llun 14 Mis Medi 10yb-1yp
Llyfrgell a Hwb Cymunedol Brynbuga, 35 Maryport St, Usk NP15 1AE
YMGYNGHORIAD AR AGOR 1/9/26 - 28/9/26
Mwy o fanylion:
Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig gwneud newidiadau i ddarpariaeth cerdded a seiclo o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga a’r feithrinfa, o’r dwyrain ar hyd Monmouth Road ac o’r gorllewin ar hyd Castle Parade, Castle Street a Four Ash Street.
Bydd y newidiadau yn cynnwys:
- Rhoi wyneb newydd ar y droetffordd
- Llwybr cyd-ddefnyddio ar ran 1-ffordd Monmouth Road
- Croesiad cyfochrog (cerdded a seiclo) ar Monmouth Road ger Burrium Gate
- Ail-ddylunio cyffyrdd ar gyfer tawelu traffig a gwella darpariaeth cerdded a seiclo
- Safle bysiau ychwanegol rhwng Ysgol Gynradd Brynbuga a Castle Mews (tuag at y dref) i alluogi disgyn cyn Twyn Square
- Gosod mainc ar Castle Parade
- Adeiladu croesiad cerddwyr ar Four Ash Street
- Adleoli’r troad ar gyfer arwydd ffordd Gwehelog i gyffordd bellach yr A472 i ostwng defnydd rhan un-ffordd Monmouth Road.
Dyfarnwyd cyllid adeiladu ar gyfer y cynllun fel grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (SriC) o Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae ffocws cyllid SriC ar wella llwybrau o fewn ardaloedd trefol a llwybrau i ysgol. Bydd ymgynghoriad a chwmpasu ar y dyluniad terfynol.
Nod y cynllun yw cefnogi teithiau llesol rhwng cartrefi yn Ladyhill, Burrium Gate a Monmouth Road, tuag at Ysgol Gynradd Brynbuga a Twyn Square. Mae’r dyluniad yn anelu i fynd i’r afael â rhwystrau i deithio llesol, gan gefnogi cerdded, olwyno a seiclo ar gyfer tripiau lleol beunyddiol.
Mae’r cynllun yn adeiladu ar y gwaith diweddar ar Heol Trefynwy, lle cafodd cwrb isel a throetffordd lletach eu hychwanegu tuag at Factory Lane/y rhandiroedd. Bydd y cynllun hefyd yn cysylltu gyda Twyn Square, lle mae Adran Adfywio Cyngor Sir Fynwy yn datblygu cynlluniau ar gyfer gwelliannau creu lle a pharth cyhoeddus yng nghanol tref Brynbuga. Mae Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy (yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd) yn cynnwys cynllun i ychwanegu tua 40 o gartrefi newydd ar Monmouth Road ar safle ‘Tir i’r Dwyrain o Burrium Gate’; felly mae’n bwysig i breswylwyr presennol a’r cartrefi newydd arfaethedig i wella – a darparu ar gyfer cynnydd defnydd – y llwybrau i’r ysgol, meithrinfa, safleoedd bysiau a chanol y dref.
Lleoliad y cynllun: https://maps.app.goo.gl/CYPUuzbTohuuzkTSA
Cynlluniau'r prosiect:
- Trosolwg o gynllun Llwybrau i Ysgol Brynbuga
- Four Ash Street, Castle Street a Castle Parade (GOLWG A)
- Croesfan twcan tu allan i ran un-ffordd Ysgol Gynradd Brynbuga i Monmouth Road (Golwg B)
- Rhan un-ffordd Monmouth Road i Ladyhill (Golwg C)
- Monmouth Road Brynbuga rhwng Ladyhill a Burrium Gate (Golwg D)
