Sgwrsio am lwybrau i ysgol Brynbuga

Rhannu Sgwrsio am lwybrau i ysgol Brynbuga ar Facebook Rhannu Sgwrsio am lwybrau i ysgol Brynbuga Ar Twitter Rhannu Sgwrsio am lwybrau i ysgol Brynbuga Ar LinkedIn E-bost Sgwrsio am lwybrau i ysgol Brynbuga dolen

Am y fersiwn Saesneg o'r dudalen hon, cliciwch yma

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am adborth ar ystod o newidiadau arfaethedig i lwybrau o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga, yn cynnwys gosod llwybr cyd-ddefnyddio ar adran un-ffordd o Monmouth Road ac ail-ddylunio cyffyrdd ar gyfer tawelu traffig a gwella darpariaeth cerdded a seiclo tu allan i’r ysgol. Rhowch eich barn ar y cynigion hyn a helpu i lunio teithiau mwy diogel a hygyrch ar gyfer pawb yn y gymuned.

Sesiwn galw heibio : Dydd Llun 14 Mis Medi 10yb-1yp

Llyfrgell a Hwb Cymunedol Brynbuga, 35 Maryport St, Usk NP15 1AE

YMGYNGHORIAD AR AGOR 1/9/26 - 28/9/26

Mwy o fanylion:

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig gwneud newidiadau i ddarpariaeth cerdded a seiclo o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga a’r feithrinfa, o’r dwyrain ar hyd Monmouth Road ac o’r gorllewin ar hyd Castle Parade, Castle Street a Four Ash Street.

Bydd y newidiadau yn cynnwys:

  • Rhoi wyneb newydd ar y droetffordd
  • Llwybr cyd-ddefnyddio ar ran 1-ffordd Monmouth Road
  • Croesiad cyfochrog (cerdded a seiclo) ar Monmouth Road ger Burrium Gate
  • Ail-ddylunio cyffyrdd ar gyfer tawelu traffig a gwella darpariaeth cerdded a seiclo
  • Safle bysiau ychwanegol rhwng Ysgol Gynradd Brynbuga a Castle Mews (tuag at y dref) i alluogi disgyn cyn Twyn Square
  • Gosod mainc ar Castle Parade
  • Adeiladu croesiad cerddwyr ar Four Ash Street
  • Adleoli’r troad ar gyfer arwydd ffordd Gwehelog i gyffordd bellach yr A472 i ostwng defnydd rhan un-ffordd Monmouth Road.

Dyfarnwyd cyllid adeiladu ar gyfer y cynllun fel grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (SriC) o Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae ffocws cyllid SriC ar wella llwybrau o fewn ardaloedd trefol a llwybrau i ysgol. Bydd ymgynghoriad a chwmpasu ar y dyluniad terfynol.

Nod y cynllun yw cefnogi teithiau llesol rhwng cartrefi yn Ladyhill, Burrium Gate a Monmouth Road, tuag at Ysgol Gynradd Brynbuga a Twyn Square. Mae’r dyluniad yn anelu i fynd i’r afael â rhwystrau i deithio llesol, gan gefnogi cerdded, olwyno a seiclo ar gyfer tripiau lleol beunyddiol.

Mae’r cynllun yn adeiladu ar y gwaith diweddar ar Heol Trefynwy, lle cafodd cwrb isel a throetffordd lletach eu hychwanegu tuag at Factory Lane/y rhandiroedd. Bydd y cynllun hefyd yn cysylltu gyda Twyn Square, lle mae Adran Adfywio Cyngor Sir Fynwy yn datblygu cynlluniau ar gyfer gwelliannau creu lle a pharth cyhoeddus yng nghanol tref Brynbuga. Mae Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy (yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd) yn cynnwys cynllun i ychwanegu tua 40 o gartrefi newydd ar Monmouth Road ar safle ‘Tir i’r Dwyrain o Burrium Gate’; felly mae’n bwysig i breswylwyr presennol a’r cartrefi newydd arfaethedig i wella – a darparu ar gyfer cynnydd defnydd – y llwybrau i’r ysgol, meithrinfa, safleoedd bysiau a chanol y dref.

Lleoliad y cynllun: https://maps.app.goo.gl/CYPUuzbTohuuzkTSA

Cynlluniau'r prosiect:

  • Gofynnir i chi lenwi’r arolwg hwn os ydych yn byw yn agos at neu’n teithio drwy ardal Monmouth Road a Castle Parade o Frynbuga.

    Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Mae Cyngor Sir Fynwy eisiau clywed barn pobl ar y croesiad a gwelliannau priffordd arfaethedig i gefnogi llwybrau cerdded, olwyno a seiclo ym Brynbuga, o Four Ash Street i ben dwyreiniol y pentref.

    Medrwch weld y diagramau a darllen y disgrifiad o’r cynllun arfaethedig yma.

    Mae’r arolwg yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol ar y ffordd yr ydych yn teithio fel arfer yn ardal yr astudiaeth cyn gofyn am eich profiadau yn teithio ar hyd Monmouth Road, yn yr ardal o Twyn Square i Burrium Gate, o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga.

    Mae eich barn ar y cynigion yn bwysig i ni a byddem yn croesawu eich mewnbwn drwy’r arolwg hwn. Gofynnir i chi annog aelodau eich aelwyd ac eraill i lenwi’r arolwg er mwyn sicrhau ein bod yn ymgynghori gydag ystod mor eang o bobl ag sydd modd.

    Arolwg
    Rhannu Dweud eich barn ar Facebook Rhannu Dweud eich barn Ar Twitter Rhannu Dweud eich barn Ar LinkedIn E-bost Dweud eich barn dolen
Diweddaru: 28 Awst 2026, 02:55 PM