Sut y cafodd cynllun Llwybrau i Ysgol Brynbuga ei ddatblygu?

    Cafodd y cynllun ei ddatblygu drwy broses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), yn dilyn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymateb i gynllun ysgol teithio llesol Ysgol Gynradd Brynbuga ac astudiaethau o draffig a symudiadau yn yr ardal. Cydnabyddir fod traffig cerbydau lleol yn torri’r cyfyngiad cyflymder a fod pobl sy’n cerdded, olwyno a seiclo yn wynebu rhwystrau yn cynnwys troetffyrdd cul, problemau gyda dŵr yn cronni, gordyfiant a phroblemau hygyrchedd eraill. Dynododd astudiaeth WelTAG lwybrau ar gyfer teithio llesol, problemau ar y llwybrau hyn ac opsiynau ar gyfer gwella’r llwybrau a ffafrir.

    Cydnabuwyd fod rhan un-ffordd Monmouth Road yn ‘fan gwahanu’ lle na fyddai seiclwyr llai hyderus eisiau seiclo ar yr A472. Felly, mae’r cynllun yn ychwanegu llwybr cyd-ddefnyddio i ganiatáu seiclo yn y ddau gyfeiriad ar y rhan un-ffordd o Heol Trefynwy, a phwyntiau pontio ar ac oddi ar y llwybr. 

    Pryd fydd y gwaith adeiladu yn dechrau?

    Caiff y dyluniad manwl ei gwblhau yn dilyn yr ymgynghoriad hwn a bwriedir gwneud y gwaith adeiladu yn gynnar yn 2027.

    Beth yw llwybr cyd-ddefnyddio?

    Caiff llwybr cyd-ddefnyddio ei gynllunio i gael ei defnyddio gan gerddwyr a hefyd seiclwyr, heb unrhyw nodweddion neu farciau ffisegol i wahanu.

    Beth yw croesiad cyfochrog?

    Mae croesiad cyfochrog fel croesiad sebra ond mae ganddo hefyd ddarpariaeth ar gyfer seiclwyr mewn lôn ar wahân a ddangosir gan farciau a symbolau wedi eu peintio ar y llawr. 

    A fydd yn effeithio ar wrychoedd?

    Sylweddolwn fod coed, gwrychoedd a thyfiant arall yn pwyso mewn i’r droetffyrdd yn ardal y cynllun, gan gulhau neu rwystro’r llwybr. Byddwn yn parhau i gydlynu gyda pherchnogion tir i ofyn am gadw gwrychoedd yn ôl o’r llwybr, a byddwn yn cymryd camau gorfodi lle mae angen

    Pa newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r gyffordd a pham?

    Mae newidiadau i’r cyffyrdd ar hyd y llwybr yn cynnwys Burrium Gate, Ladyhill Close, Castle Mews a Castle Street i wneud y llwybr yn rhwyddach ar gyfer pobl sy’n cerdded, olwyno a seiclo. Caiff radiysau y gyffordd eu gostwng – mae hyn yn helpu i dawelu cerbydau sy’n gor-yrru pan fyddant yn cyrraedd y gyffordd ac yn barhau’r pellter croesi i gerddwyr. Caiff cyrbau is hygyrch a phalmant botymog eu hychwanegu lle mae angen.

    A fydd y blwch parcio ar y stryd ar hyd adran un-ffordd Monmouth Road yn aros?

    Bydd. Mae’r llwybr yn ddigon llydan i ddarparu ar gyfer y llwybr cyd-ddefnyddio newydd, baeau parcio a’r ffordd. 

    Beth fydd yn digwydd i’r gysgodfan fysiau bresennol?

    Bydd y gysgodfan fysiau bresennol ar Monmouth Road yn aros lle mae. Caiff y llwybr cyd-ddefnyddio ei osod o’i flaen.

    Sut yr effeithir ar fynediad preswyl i’r tai ar hyd y llwybr?

    Bydd mynediad i ddreifiau eiddo ar hyd y llwybr yn parhau yn hygyrch. Defnyddir cyrbau mynediad lle’n bosibl er mwyn cadw’r llwybr cyd-ddefnyddio neu’r droetffordd wastad. Caiff y llwybr y bydd yn rhaid ei groesi i fynd i fewn i’r eiddo ei ledu mewn rhai mannau. 

    Pa newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r croesiad twcan presennol?

    Bydd y croesiad botwm gwthio twcan presennol (cerdded a seiclo) yn aros fwy neu lai yr un fath. Yr unig newidiadau fydd ymestyn y palmant botymog i gefn y palmant ar y ddwy ochr yn ogystal â symud nifer o folardiau o amgylch yr ardal.

    A fydd y sianeli draeniad i lawr canol y llwybr yn cael eu newid?

    Bydd. Gosodir sianel ACO yn le’r draeniad arddull dysgl ar ochr ogleddol Monmouth Road. Ar y palmant deheuol caiff y sianel draeniad ‘dysgl’ ei newid am sianel draeniad newydd wrth gefn y droetffordd. Yn y ddau achos mae’n creu wyneb mwy gwastad ac yn fwy diogel i gerddwyr a hefyd seiclwyr.

     

    Enghraifft o sianel draeniad ACO.

    Ar gyfer beth mae’r mannau pontio beic?

    Caiff mannau pontio beic eu hychwanegu at y llwybr i alluogi seiclwyr i gael mynediad i’r llwybr cyd-ddefnyddio o’r ffordd. Y mannau pontio yw lle mae’r palmant yn gostwng i alluogi seiclwyr i bontio rhwng y llwybr cyd-ddefnyddio a’r ffordd 20 mya. 

    A yw’r cynllun yn gydnaws â’r cynllun Adfywio/Creu Lle?

    Mae’r cynllun creu lle ar gyfer Brynbuga, sy’n cael ei ddatblygu, yn dechrau gyda ochr ddwyreiniol Twyn Square. Mae’r cynllun SriC a ymgynghorir arno i orllewin y pwynt yma. Man terfyn y cynllun hwn yw ardal ffocws y cynllun Creu Lle. 

    Pa newidiadau sy’n cael eu gwneud i Castle Street?

    Caiff newidiadau eu gwneud i’r cyffyrdd ar y naill ben i Castle Street i’w gwneud yn rhwyddach i gerddwyr eu defnyddio a gwella tawelu traffig, gan gefnogi defnydd o’r stryd fel ffordd leol, un ffordd. Mae’r cynllun yn anelu i ychwanegu cafnau ychwanegol lle gwyddom fod dŵr glaw ffo yn broblem ar Castle Street a Castle Parade.

    A fyddwch yn tynnu unrhyw rai o’r cerrig cobl hanesyddol?

    Caiff adran fach o gerrig cobl eu tynnu o gyffordd Castle Street ar Four Ash Street – caiff mwyafrif y cerrig cobl eu cadw. Mae hyn er mwyn galluogi lledu’r droetffordd tra’n dal i  alluogi cerbydau i barcio a throi. Cytunwyd ar y dyluniad gydag Adran Treftadaeth Cyngor Sir Fynwy, gan ddeall yr angen i gadw’r cerrig cobl fel nodwedd hanesyddol o Frynbuga, tra’n gwneud strydoedd Brynbuga yn fwy hygyrch.

    Cerrig cobl yn Four Ash Street wrth gyffordd Castle Street

    A fydd hyn yn effeithio ar lwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol?

    Na fydd. Bydd arwyddion llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN 423) drwy Frynbuga yn parhau fel o’r blaen, yn dilyn yr adran un-ffordd o Monmouth Road ar y llwybr ymaith o ganol y dref a’r brif gyffordd i’r A472 ar y llwybr tuag at ganol y dref. Dylai seiclwyr sy’n dilyn yr NCN sy’n dymuno defnyddio’r llwybr cyd-ddefnyddio yn lle’r llwybr y mae arwyddion iddo fod yn ofalus am bobl eraill sy’n defnyddio’r llwybr.

    Llwybrau NCN ger Ysgol Gynradd Brynbuga