Gadewch i ni siarad am lyfrgelloedd
To view the page in English, click here
Bob tair blynedd, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i lyfrgelloedd sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau yng Nghymru, gynnal arolygon i gasglu barn ac adborth trigolion.
Os ydych chi'n ymweld neu'n defnyddio un o'r chwe llyfrgell isod yn Sir Fynwy, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych:
- Y Fenni
- Cil-y-coed
- Cas-gwent
- Gilwern
- Tre Fynwy
- Brynbuga
Sut i rannu eich adborth
Cwblhewch yr arolwg byr isod erbyn hanner nos ddydd Gwener, 17 Hydref 2025 fan bellaf
Bydd eich ymatebion yn ein helpu i ddangos y rôl bwysig y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae ym mywydau trigolion lleol ac yn dangos beth mae llyfrgelloedd yn ei olygu i chi. Mae pob ymateb yn bwysig ac rydym yn gwerthfawrogi eich amser wrth gwblhau'r arolwg. Diolch.
Ynglŷn â'r llyfrgelloedd
Mae bod yn aelod o'r llyfrgell yn agor y drws i gymaint mwy na llyfrau yn unig. P'un a ydych chi'n ddarllenydd ar hyd eich oes neu'n darganfod o’r newydd beth sydd gan eich llyfrgell leol i'w gynnig, rydym am wybod beth ydych chi'n ei feddwl o'ch llyfrgell leol.
Mae aelodaeth i’r llyfrgell yn hollol rhad ac am ddim, heb unrhyw daliadau hwyr a cheisiadau am lyfrau yn rhad ac am ddim. Fe welwch lyfrau ar gyfer pob oedran, gan gynnwys llyfrau sain a phrint bras, yn ogystal â mynediad am ddim i e-Lyfrau, e-lyfrau sain, papurau newydd a chylchgronau trwy BorrowBox a PressReader.
Mae mynediad i’r Wi-Fi a’r rhyngrwyd, offer hanes teuluol fel Find My Past ac Ancestry yn rhad ac am ddim, a gwybodaeth iechyd dibynadwy trwy'r cynlluniau Reading Well.
Mae eich llyfrgell leol hefyd yn lle i gysylltu - trwy ddigwyddiadau, gweithgareddau, a mannau a rennir sy'n dod â phobl at ei gilydd.
Cymerwch eiliad i gwblhau ein harolwg byr a helpu i ni lunio dyfodol eich llyfrgell.
*Don't forget to click 'Follow This Project' to keep up-to-date with this consultation and any updates* [to be translated]