Gwella Magwyr gyda Gwndy - Prosiectau adfywio
YMGYNGHORIAD
Yn agor ddydd Mercher 14 Hydref 2026 ac yn cau ddydd Mercher 4 Tachwedd 2026.
Yn dilyn datblygiad Cynllun Creu Lleoedd Magwyr gyda Gwndy, mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Magwyr gyda Gwndy yn gwahodd preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i ddweud eu dweud am gyfres o brosiectau a gynigir.
Nododd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn rhan o'r broses Cynllun Creu Lleoedd, nifer o brosiectau o flaenoriaeth sydd â'r potensial i wella canol y dref, gwella mannau cyhoeddus a thynnu sylw at y pyrth i Sgwâr Magwyr. Rydym yn gofyn am eich barn am y cynigion hyn i helpu i lunio'r cam cyflawni nesaf.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i'r gymuned adolygu'r prosiectau arfaethedig a rhoi eu hadborth i ni.
Cynhelir sesiwn ymgynghori, galw heibio wyneb yn wyneb ar 16 Hydref rhwng 10am a 6pm yn Eglwys y Bedyddwyr Magwyr. Bydd cyfle i breswylwyr gael cyfle i weld y cynigion, siarad â chynrychiolwyr y prosiect a rhannu eu barn yn bersonol.
Mae’r safbwyntiau a gasglwyd yn y cam blaenorol bellach wedi'u defnyddio i lunio'r hyn a fydd yn cael ei gyflwyno yn y dref. Bydd hyn yn sicrhau y bydd ein cynllun yn agosach at ddiwallu anghenion pobl a busnesau lleol.
SUT I GYMRYD RHAN
P'un a ydych chi'n breswylydd, yn berchennog busnes, yn ymwelydd neu eisiau gwybod mwy, ymunwch â ni yn Eglwys y Bedyddwyr Magwyr, Sgwâr Magwyr ddydd Gwener, 16 Hydref 2026 rhwng 10am a 6pm.
Gallwch weld y cynigion a llenwi’r arolwg ar-lein o ddydd Mercher, 14 Hydref. Mae'r ymgynghoriad yn cau ddydd Mercher, 4 Tachwedd, 2026.
Codwch gopi papur o'r holiadur o swyddfeydd Cyngor Tref Magwyr.
I ddysgu mwy am y cynlluniau creu lleoedd a sut y gallwch chi gymryd rhan, e-bostiwch MCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk