Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect
CLOSED: This survey has concluded.

Arolwg

Diolch am eich diddordeb parhaus yng Nghynllun Creu Lle Magwyr gyda Gwndy.

Yn 2025 cyfrannodd y gymuned leol a sefydliadau lleol at lunio ei gynllun creu lle. Nododd y cynllun nifer o brosiectau i harddu’r pentref a gwella’i seilwaith, a mentrau i hyrwyddo canol y pentref yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.

Nodwyd nifer o flaenoriaethau yn y cynllun, a oedd yn cynnwys ffyrdd o wella pyrth allweddol ar y B4245 a sut mae'r rhain yn cyfeirio pobl i ganol y pentref. Y flaenoriaeth arall oedd sut i wneud Sgwâr Magwyr yn fwy cyfeillgar i bobl tra'n dal i ddarparu ar gyfer pobl sydd eisiau galw heibio i'r siopau trwy yrru.

Neges glir o'r ymgynghoriad y llynedd oedd sicrhau bod unrhyw newidiadau ffisegol yn gost-effeithiol a bod eisiau treialu rhai o'r syniadau yn gyntaf. Rydyn ni wedi gwrando ar y cais hwn ac wedi datblygu'r cynigion gyda hyn mewn golwg. Felly, hoffem gael eich adborth am y tri chynnig.

Cyn i chi lenwi’r holiadur, darllenwch y deunydd ymgynghori i ddarganfod beth sy'n cael ei gynnig.

Diolch.