Cwestiynau Cyffredin am Natur Wyllt
Beth am ein lleoedd i chwarae?
Bydd ein hardaloedd hamdden yn dal i gael eu cynnal yn rheolaidd, a bydd clytiau’n cael eu torri ar gyfer chwarae a phicnics. Bydd ardaloedd o flodau gwyllt a glaswellt yn rhoi cyfleoedd i blant ymgysylltu â natur ar garreg eu drws.
A fydd mwy o sbwriel?
Mae'n drosedd taflu neu ollwng sbwriel mewn unrhyw le y mae gan y cyhoedd fynediad ato a byddwn yn parhau i fonitro ein mannau gwyrdd am sbwriel.
Rwy'n poeni am faw cŵn
Cyfrifoldeb perchennog y ci yw casglu unrhyw faw, waeth beth fo taldra'r glaswellt neu'r amgylchedd. Os yw person yn caniatáu i'w ci faeddu ac yna’n methu â’i godi, maen nhw'n troseddu. I gerddwyr cŵn, bydd llwybrau’n cael eu torri trwy'r dolydd glaswellt felly bydd digon o lwybrau i chi fynd â’ch cŵn am dro.
A fydd yn gwneud clefyd y gwair yn waeth?
Mae'r lefelau uchaf o’r paill fel arfer yn digwydd ystod misoedd cynnar yr haf o ganlyniad i baill yn cael ei ryddhau o goed, planhigion gerddi a glaswellt.
Gall torri gwair wneud clefyd y gwair yn waeth trwy daflu paill i'r awyr wrth i laswellt gael ei dorri. Mewn ardaloedd glaswelltir a dolydd, byddwn yn ceisio torri ardaloedd glaswelltir pan fydd y paill yn llai dwys ac yn lledaenu’n llai hawdd, mae hyn fel arfer ar ôl Mai, Mehefin a Gorffennaf.
Ydy diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei ystyried?
Bydd ymylon ffyrdd wrth gyffyrdd a chylchfannau yn parhau i gael eu torri i gynnal gwelededd.
A yw hyn i gyd i arbed costau yn unig? Rydyn ni'n gweithio'n wahanol nid yn llai. Mae torri a chasglu'r glaswellt yn cymryd mwy o amser ond mae'n caniatáu mwy o amser i'n timau yn gynharach yn y tymor i wneud gwelliannau eraill yn eich ardal chi.
Rwy'n credu ei fod yn edrych yn anhrefnus!
Ar ôl y tymor blodeuo, gall ardaloedd o laswellt hir ddechrau edrych yn anhrefnus wrth i blanhigion roi eu hegni mewn hadau ar gyfer blodau gwyllt y flwyddyn nesaf. Mae'r ardaloedd hyn yn dal i fod yn hanfodol bwysig i beillwyr, pryfed eraill, adar a mamaliaid i'w galluogi i gwblhau eu cylch bywyd cyfan a darparu cynefin i fywyd gwyllt arall fel draenogod.
Sut alla i gymryd mwy o ran?
Hoffem fonitro safleoedd i weld sut mae poblogaethau peillwyr yn newid gyda'r drefn rheolaeth wedi'i newid. Os hoffech chi gymryd rhan e-bostiwch: gwentpollinators@monmouthshire.gov.uk