
Arolwg 2026
Natur Wyllt yw dull gweithredu Cyngor Sir Fynwy ar gyfer rheoli ardaloedd addas o laswelltir er budd bioamrywiaeth Mewn ardaloedd dethol, mae glaswellt a blodau gwyllt yn cael tyfu am gyfnod hirach gan roi cyfle iddynt flodeuo a bwrw'u hadau, a darparu bwyd a chynefin ar gyfer pryfed sy'n peillio a bywyd gwyllt arall. Mae dolydd yn cael eu torri a'r glaswellt yn cael ei gasglu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Mae llwybrau, llinellau golwg ar y ffyrdd ac ardaloedd y mae eu hangen ar gyfer hamdden yn dal i gael eu torri'n rheolaidd. Gall glaswelltiroedd iachach, mwy amrywiol hefyd wella iechyd y pridd, cadw dŵr yn ystod cyfnodau sych, amsugno mwy o ddŵr ac arafu dŵr ffo yn ystod glaw trwm, gan helpu i leihau effeithiau sychder a llifogydd.
Bydd Natur Wyllt yn parhau, ond rydyn ni eisiau gwybod beth sy'n gweithio'n dda a sut y gellid ei reoli'n well.
Dylai'r holiadur gymryd tua deng munud i'w lenwi. Mae'r cwestiynau amdanoch chi yn ddewisol ond bydd eich atebion yn ein helpu i wybod a oes trawstoriad eang o'r sir yn cael ei gynrychioli.
0% Ateb