Pythefnos Masnach Deg 2026
Sgwrsio Am Fasnach Deg
Meddwl eich bod chi'n gwybod popeth am Fasnach Deg?
Beth am brofi’ch gwybodaeth trwy gymryd rhan yn ein CWIS difyr ac addysgiadol ar gyfer Pythefnos Masnach Deg (Dydd Llun, 21 Medi - Dydd Sul, 4 Hydref, 2026).
Os rhowch chi’ch manylion ar y diwedd, byddwch hefyd yn cael cyfle i ennill gwobr dim ond am gymryd rhan. Bydd enw’r enillydd yn cael ei dynnu ar hap ar ddiwedd y pythefnos a byddant yn ennill hamper o nwyddau Masnach Deg!
Hefyd, os hoffech chi gymryd rhan a helpu i wirfoddoli gyda'ch grŵp gwirfoddolwyr Masnach Deg lleol, ticiwch y bocs ar ddiwedd y cwis a gallwn ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â'ch grŵp lleol.
Mwy am Fasnach Deg
Pa mor aml ydych chi wedi dweud "dyw hynny ddim yn deg!" am rywbeth? Does neb yn hoffi cael eu trin yn annheg. Ond yn anffodus, dydy llawer o ffermwyr a thyfwyr ar draws y byd sy’n cynhyrchu'r bwydydd rydyn ni'n eu caru ddim yn cael cyflog teg am y gwaith maen nhw'n ei wneud.
Mae Masnach Deg yn newid y ffordd mae masnach yn gweithio trwy brisiau gwell, amodau gwaith parchus a dêl decach i ffermwyr a gweithwyr. Pan fyddwch chi'n dewis cynhyrchion gyda'r logo Masnach Deg arnyn nhw rydych chi'n cefnogi:
- Prisiau teg ac amodau gwaith parchus
- Arferion ffermio sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd
- Llais cryf i ffermwyr a gweithwyr
- Cydraddoldeb rhwng y rhywiau a dyfodol gwell i bobl ifanc
Dyna pam, yn ystod Pythefnos Masnach Deg (21 Medi hyd 4 Hydref), y bydd grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, plant ysgol a Chyngor Sir Fynwy yn siarad lan dros Gyflog Teg, oherwydd sut bynnag mae rhywun yn ennill bywoliaeth, maen nhw'n haeddu cael eu talu'n deg.
Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y Sir i helpu pobl i ddarganfod sut y gall ein dewisiadau ni wrth siopa wneud gwahaniaeth i fywydau ar draws y byd. Gweler y rhestr o ddigwyddiadau isod.....
Cewch ragor o wybodaeth am gynhyrchion Masnach Deg, a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud, trwy ateb ein cwis Masnach Deg, gyda chyfle i ennill nwyddau Masnach Deg.


