Sgwrsio am... y Gymraeg

Rhannu Sgwrsio am... y Gymraeg ar Facebook Rhannu Sgwrsio am... y Gymraeg Ar Twitter Rhannu Sgwrsio am... y Gymraeg Ar LinkedIn E-bost Sgwrsio am... y Gymraeg dolen

Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o hunaniaeth Sir Fynwy, ei threftadaeth a’i dyfodol. Gellir ei gweld yn enwau ein lleoedd, yn ein hysgolion, ein cymunedau, ein diwylliant a’n gwasanaethau cyhoeddus. Efallai eich bod chi’n siarad Cymraeg bob dydd, yn dysgu Cymraeg, yn gwybod ambell i air ac ymadrodd, neu erioed wedi defnyddio'r Gymraeg o'r blaen. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, hoffem glywed eich barn.

O ddydd Llun, 5 Hydref tan ddydd Llun, 30 Tachwedd 2026, bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymgynghori ar ei Strategaeth Gymraeg ddrafft 2027-2032, sy'n nodi sut y byddwn yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn cefnogi'r defnydd ohoni ar draws y sir dros y pum mlynedd nesaf. Nod y Strategaeth yw gwneud y Gymraeg yn fwy gweladwy, yn fwy gwerthfawr a sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio’n ehangach mewn bywyd bob dydd.

Mae'r Strategaeth ddrafft yn canolbwyntio ar bum maes allweddol: cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg, helpu teuluoedd a dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg, creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gymuned, cryfhau gwasanaethau Cymraeg a hyder y gweithlu, a gwneud y Gymraeg yn fwy amlwg ar draws lleoedd, hunaniaeth a bywyd digidol Sir Fynwy.

Rydyn ni’n gwybod bod lleoliad Sir Fynwy yn unigryw fel sir ar y ffin a bod profiadau pobl o'r Gymraeg yn amrywio. Dyna pam mae eich adborth mor bwysig. Rydyn ni eisiau deall beth fyddai'n annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg, defnyddio’r Gymraeg, clywed y Gymraeg a gweld y Gymraeg, pa rwystrau sy'n bodoli, a pha gamau gweithredu ymarferol a allai wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau.

Rhannwch eich barn

Dogfen Grynodeb

Drafft o Strategaeth y Gymraeg

Bydd eich barn yn dylanwadu ar y Strategaeth derfynol ac yn llywio gwaith yn y dyfodol gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a thrigolion. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i dyfu ac i ffynnu yn Sir Fynwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Llenwch yr holiadur ar y dudalen hon erbyn dydd Llun, 30 Hydref 2026 fan bellaf. Bydd eich adborth yn dylanwadu ar ddyfodol y Gymraeg yn Sir Fynwy

  • Darllenwch y ddogfen strategaeth ddrafft (gallwch ddewis rhwng dogfen gryno a'r ddogfen lawn) cyn llenwi'r arolwg hwn erbyn dydd Llun, 30 Tachwedd 2026.

    Arolwg
    Rhannu Rhannwch eich barn ar Facebook Rhannu Rhannwch eich barn Ar Twitter Rhannu Rhannwch eich barn Ar LinkedIn E-bost Rhannwch eich barn dolen
Cyhoeddi: 01 Hyd 2026, 02:45 PM