Ydych chi'n ystyried dod yn Gynghorydd Sir?

Rhannu Ydych chi'n ystyried dod yn Gynghorydd Sir? ar Facebook Rhannu Ydych chi'n ystyried dod yn Gynghorydd Sir? Ar Twitter Rhannu Ydych chi'n ystyried dod yn Gynghorydd Sir? Ar LinkedIn E-bost Ydych chi'n ystyried dod yn Gynghorydd Sir? dolen

Ystyried bod yn Gynghorydd Sir?

Ar 6 Mai 2027, cynhelir etholiadau ledled Sir Fynwy i ethol unigolion i gynrychioli eu cymunedau ar y Cyngor Sir ac ar Gynghorau Tref a Chymuned.

Mae 46 o seddi Cyngor Sir, sy'n cynrychioli 39 o wardiau ledled Sir Fynwy

Mae yna hefyd 290 o seddi cyngor tref neu gymuned sy'n cynrychioli’r 30 o Gynghorau Cymuned/Tref yn Sir Fynwy.

Alla i fod yn Gynghorydd?

Gall bron unrhyw un ddod yn Gynghorydd. Yr hyn sy’n allweddol o ran dod yn gynghorydd yw bod gennych ddiddordeb yn y gymuned rydych chi'n byw ynddi a brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu am y materion sy'n effeithio ar bobl leol.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau neu brofiad penodol arnoch i fod yn Gynghorydd. Yn dibynnu ar yr ardal rydych chi'n ceisio cael eich ethol iddi, rhaid bodloni meini prawf penodol er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys i sefyll yn yr etholiad. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â ble rydych chi'n byw. Mae yna hefyd rai achosion lle mae rhai unigolion yn cael eu gwahardd rhag sefyll mewn etholiad.

Sut allwn ni eich helpu chi?

I'ch helpu i benderfynu a yw rôl cynghorydd i chi ai peidio, byddwn yn cynnal sesiwn friffio ar gyfer darpar ymgeiswyr i'w helpu i ddeall rôl cynghorydd, ac a yw'n rôl sy’n iawn i chi.

Bydd y sesiwn yn anelu i’ch helpu i ddeall;

  • Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o'ch rôl fel Cynghorydd
  • Sut mae'r Cyngor Sir yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau
  • Sut mae Cynghorwyr yn rhyngweithio â'r Cyngor a'i swyddogion
  • Yr hyn y gall diwrnod arferol ei olygu i gynghorydd
  • Y cymorth sydd ar gael i chi yn eich rôl fel cynghorydd
  • Cyfle i gael blas ar Siambr y Cyngor cyn mynd ati o bosibl i ddod yn gynghorydd
  • Cyfle i glywed gan gynghorwyr presennol am eu profiad yn y rôl

Manylion y Sesiwn Friffio

Cynhelir y sesiwn yn Neuadd y Sir, Brynbuga ar 9 Rhagfyr 2026 am 18:30. Mae croeso i chi ymuno â’r sesiwn wyneb yn wyneb neu o bell.

A fyddech cystal â llenwi’r ffurflen isod i ddangos bod gennych ddiddordeb i ddod

  • Llenwch y ffurflen i gael fwy o wybodaeth

    Ffurflen gyswllt
    Rhannu Ffurflen gyswllt ar Facebook Rhannu Ffurflen gyswllt Ar Twitter Rhannu Ffurflen gyswllt Ar LinkedIn E-bost Ffurflen gyswllt dolen
Diweddaru: 29 Hyd 2026, 04:23 PM