Sgwrsio am yr hyn sy’n bwysig
Y Cyng. Mary Ann Brocklesby "Fel llawer o gynghorau eraill, ar hyn o bryd rydyn ni ar gam pwysig iawn yn ein proses o osod y gyllideb - ymgynghoriad cyhoeddus. Ydyn, rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn chi am yr hyn rydyn ni’n ystyried ei wneud y flwyddyn nesaf gyda'r arian sydd ar gael gennym i'w wario ar eich gwasanaethau chi.Rydyn ni wedi bod yn hyrwyddo'r ymgynghoriad yn eang, a buasem yn eich annog i ddarllen cynigion y gyllideb. Maen nhw’n cynnwys ein blaenoriaethau, ein buddsoddiadau a'n cynilion ar gyfer y flwyddyn gyngor sydd ar droed, sef 1 Ebrill, 2026 hyd nes 31 Mawrth, 2027.
Mae eich llais wir yn bwysig, felly gofynnwn yn garedig i chi wneud un o'r canlynol: galwch i mewn i lyfrgell, hwb cymunedol neu ganolfan hamdden a chodi holiadur papur; ewch i Sgwrsio am Y Gyllideb a’r Blaenoriaethau, darllenwch y cynigion a llenwch yr holiadur ar-lein, neu ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ymgynghori ar-lein am y gyllideb.
Gallwch hefyd alw heibio i un o'r sesiynau galw-heibio yn ein llyfrgelloedd a'n hybiau. Byddwch yn gallu eistedd a sgwrsio ag aelod o'r cabinet am y cynigion, holi cwestiynau a rhannu eich adborth. Gallwch ddarganfod ble a phryd mae'r sesiynau'n cael eu cynnal trwy fynd i dudalen Sgwrsio Am Y Gyllideb a’r Blaenoriaethau.
Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni wir eisiau trafod y gyllideb gyda chi.
Mae'r gyfres hon o gynigion ar gyfer y gyllideb yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud sydd bwysicaf i chi. Eich gwasanaethau cyngor chi yw’r rhain, a chyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau terfynol, rydyn ni eisiau clywed beth yw eich barn chi. Bydd eich adborth yn ein helpu i weld a ydyn ni’n canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir. Bydd hefyd yn dangos i ni a yw'r cynigion hyn yn ymddangos yn deg, yn rhesymol ac yn berthnasol i chi a'ch cymuned. Rydyn ni wedi gweld newidiadau i'n cynigion drafft yn y blynyddoedd diwethaf ar sail eich adborth chi. Dyma'r amser i ddweud eich dweud am y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu ar eich cyfer.
Gofynnwn yn garedig i chi neidio draw i Sgwrsio am Y Gyllideb a Blaenoriaethau 2026/27 i ddarllen beth yw'r cynigion hyn a pham maen nhw'n cael eu cyflwyno, ac i rannu eich barn.
Mae'r ymgynghoriad yn cau am 5pm ddydd Mercher 18 Chwefror. Bydd yr adborth o'r ymgynghoriad wedyn yn cael ei archwilio a'i ystyried yn ofalus cyn i'r adroddiad terfynol fynd gerbron y Cyngor ddydd Iau 5 Mawrth. Mae eich llais yn bwysig, felly cofiwch rannu eich barn chi gyda ni trwy'r holiadur heddiw. Diolch."
Y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy
