Sgwrsio am yr hyn sy’n bwysig

Rhannu Sgwrsio am yr hyn sy’n bwysig ar Facebook Rhannu Sgwrsio am yr hyn sy’n bwysig Ar Twitter Rhannu Sgwrsio am yr hyn sy’n bwysig Ar LinkedIn E-bost Sgwrsio am yr hyn sy’n bwysig dolen

Y Cyng. Mary Ann Brocklesby "Gan ein bod ni ym mis Medi, mae'n teimlo fel pe bai blwyddyn newydd wrth law. Efallai y bydd plant yn dechrau eu teithiau ysgol, bydd rhai yn symud i flwyddyn arall, tra bydd eraill yn dechrau mewn ysgol newydd.

"Bob mis, byddaf yn postio blogiad ar Sgwrsio am Sir Fynwy i rannu fy meddyliau am waith y cyngor, gan rannu'r diweddariadau diweddaraf gyda chi o'r hyn rydw i wedi bod yn ei wneud wrth i mi deithio ar draws y sir.

"Fel arweinydd Cyngor Sir Fynwy, rwy'n cael fy ysbrydoli'n gyson gan y pethau gwych sy'n digwydd yn ein cymunedau. Mae ein cyngor wedi ymrwymo i wneud mwy gyda chi, ein trigolion, i wella ansawdd bywyd i bawb.

"Llynedd, fe wnaethom gynnal arolwg, a mynegodd y mwyafrif ohonoch foddhad gyda'n hymdrechion i gefnogi plant yn yr ysgol a phobl hŷn mewn gofal cymdeithasol. Cawsom ein cydnabod hefyd fel y gorau yn y DU am ein hymdrechion ailgylchu a rheoli gwastraff. Er bod y gorchestion hyn yn ganmoladwy, rydym yn cydnabod bod lle i wella bob amser.

"Fel un o drigolion y Fenni, rwy'n deall mai'r pethau bach sy'n bwysicaf i ni. Mae'r pethau bach hyn yn cyfrannu at ein lles ac yn gwneud i ni deimlo'n rhan o'r gymuned. Rwyf am ddeall beth sy'n fwyaf pwysig i chi a chydweithio i'w gyflawni.

"Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, hoffwn ymweld â digwyddiadau a grwpiau cymunedol ledled Sir Fynwy i ddysgu mwy am eich gwaith a'ch mentrau, sgwrsio am sut y gallwn weithio gyda'n gilydd er budd ein cymunedau. Os oes gyda chi ddiddordeb, rhowch wybodaeth am y digwyddiadau a'r grwpiau yn y ffurflen fer isod. Byddaf yn gwneud fy ngorau i fynd i gymaint ag y gallaf."

Y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy

  • Os hoffech i'r Cynghorydd Mary Ann Brocklesby ddod i'ch grŵp neu sefydliad cymunedol yn ystod y misoedd nesaf, defnyddiwch y ffurflen hon i fynegi diddordeb.

    Rydym yn anelu at gynnwys cymaint o grwpiau o amgylch y sir â phosibl, cymaint ag y bydd amser caniatáu, ond ni allwn addo gallu derbyn pob cais oherwydd ymrwymiadau eraill yn nyddiadur Mary Ann.

    Yn y ffurflen hon byddwn yn gofyn am awgrym o rai dyddiadau - os gallwch fod yn hyblyg ac anfon dewis o ddyddiadau, bydd hyn yn ddefnyddiol pan fyddwn yn cynllunio'r ymweliadau.

    Unrhyw gwestiynau, e-bostiwch letstalk@monmouthshire.gov.uk

    Diolch

    Mynegwch ddiddordeb yma
    Rhannu Cofrestrwch eich diddordeb ar Facebook Rhannu Cofrestrwch eich diddordeb Ar Twitter Rhannu Cofrestrwch eich diddordeb Ar LinkedIn E-bost Cofrestrwch eich diddordeb dolen
Diweddaru: 12 Sep 2025, 08:48 AC